– Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2018.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydw i'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela Burns.
Cynnig NDM6745 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal gymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Rydym yn cydnabod y cyfraniad aruthrol a wneir i'n cymdeithas gan y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol, ac rydym am ddangos yr angen am gynlluniau integredig ar gyfer y gweithlu, a chynnig syniadau ar sut i wella recriwtio a hyfforddi staff. Mae pedwar nod allweddol i'r ddadl heddiw, fel y nodir yn ein cynnig. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yn ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno y bydd gweithlu iach sy'n cael ei gefnogi a'i werthfawrogi yn allweddol er mwyn gyrru'r trawsnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i allu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i chi, Lywodraeth Cymru, gyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru erbyn Ionawr 2019, roedd hi'n ymddangos eich bod yn gwrthwynebu hynny. Ac unwaith eto, ein pwynt 4: ymddengys eich bod yn cilio rhag y syniad o gefnogi gweithlu'r GIG drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG. Yn sicr, rhaid inni wneud yn siŵr fod gennym y bobl iawn yn y lleoedd iawn er mwyn sicrhau'r trawsnewid sydd ei angen arnom.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn ei wneud i'n cenedl, ac os oes unrhyw un ohonoch nad yw wedi cael profiad uniongyrchol o'u gofal, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi gweld anwyliaid yn gwneud defnydd o'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ddigon, neu'n teimlo dan bwysau a heb lais mewn amgylchedd sy'n ymwneud mwy â chyllid a gwleidyddiaeth na chleifion a staff. Ac rydym am dalu teyrnged i'r gweithlu hwn, o'r meddyg ymgynghorol sy'n cyflawni'r llawdriniaeth i'r tîm nyrsio, yr holl ffordd at y glanhawyr a'r staff arlwyo sy'n llwyddo i gadw ein GIG yn weithredol.
A'r GIG yn 70 oed eleni, gadewch inni fwrw golwg byr ar beth y mae'r GIG yn ei wneud yng Nghymru yn flynyddol. Y llynedd, roedd GIG Cymru yno pan roddodd dros—wel, yn wir, fe roddaf yr union nifer i chi—pan roddodd 33,729 o famau enedigaeth. Ac yn 2016-17, cefnogwyd dros 8,500 o bobl gan wasanaethau iechyd meddwl. Yn 2017-18, aeth 93,000 o bobl ar gyfartaledd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Dyna 1 filiwn o bobl y flwyddyn a gefnogir gan ein GIG, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y ffigur yn cadarnhau gwerth y GIG i bobl Cymru. Fodd bynnag, nid yw'n golygu bod gweithrediad y GIG y tu hwnt i wella neu i her, ac Ysgrifennydd y Cabinet, fe fuoch yn gyflym iawn yn y gorffennol i wfftio ein sylwadau ar yr ochr hon i'r Siambr gan ddweud ein bod yn iselhau'r GIG ac yn bychanu'r ymdrechion a wnaed gan y staff. Ni allech fod ymhellach o'r gwir. Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi'r GIG. Pan ddaw hi i'r pen, mae yno ar eich cyfer.
Gan droi'r cloc yn ôl 70 mlynedd, ni fyddai Henry Willink, Nye Bevan a phenseiri eraill y gwasanaeth iechyd gwladol byth wedi rhagweld y rôl y mae'n ei chwarae heddiw, ac mae'n werth pwysleisio faint bynnag o arian a werir ar gynnal a chadw peiriannau, uwchraddio cyfarpar, darparu adeiladau newydd sbon, y nodwedd sy'n gyffredin drwy'r cyfan o hyd yw'r aelodau o staff. Mae angen staff i weithio'r peiriannau, darllen y pelydrau-x, gofalu am bobl sâl, glanhau'r lloriau. Hebddynt, byddai'r GIG yn dod i ben, a dyna pam y mae mor bwysig inni sicrhau bod lles ac iechyd ein staff GIG yn cael blaenoriaeth go iawn. Yn ôl y set ddiweddaraf o ffigurau'n ymwneud ag absenoldeb salwch y GIG ar gyfer y chwarter hyd at Ragfyr 2017, gwelwyd cynnydd o 5.5 y cant yn nifer yr absenoldebau cenedlaethol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, fodd bynnag, yw'r modd y mae'r ffigurau yn gwahaniaethu i'r fath raddau rhwng grwpiau o staff. Felly, er enghraifft, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cofnodi cyfradd salwch sydd ymhell uwchlaw'r cyfartaledd.
Y llynedd, tynnais sylw at y graddau y mae salwch meddwl yn effeithio ar staff y GIG. Dangosodd y ffigurau ar y pryd fod yn agos at 8,000 o aelodau o staff wedi cael bron 350,000 diwrnod o absenoldeb oherwydd gorbryder, straen ac iselder, ac roedd hyn yn cyfateb i bron 948 o flynyddoedd—ffigur anhygoel—a gollwyd i salwch meddwl dros gyfnod o un flwyddyn. Dangosodd ffigurau arolwg gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol y llynedd fod pwysau difrifol ar y gweithlu yn golygu bod lles llawer o feddygon teulu yn dioddef. Mae bron un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru dan gymaint o bwysau fel eu bod yn teimlo na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. A chanfu canlyniadau arolwg arall gan Mind Cymru fod 35 y cant o feddygon teulu wedi cael profiad personol o broblem iechyd meddwl, a dywedodd 12 y cant eu bod yn defnyddio, neu wedi defnyddio, gwasanaethau iechyd meddwl ar sail gyson.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn yn dangos ymhellach yr angen am ddefnyddio arferion lles ac iechyd mwy effeithiol ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n eironig, onid yw, fod proffesiwn sy'n gofalu am bobl sâl yn ei chael hi mor anodd i gadw ei staff ei hun yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Rwy'n credu bod achos da iawn dros sicrhau bod staff y GIG yn cael mynediad cyflym at driniaeth ac adsefydlu. Dangosodd cyhoeddiad gan NHS Employers ym mis Ionawr 2016 yr achos dros fynediad cyflym yn eglur, gan ddweud y bydd yn cyfrannu at arbedion sylweddol i'r GIG, bydd yn arwain at weithlu mwy cyson ac iach, ac at well gofal i gleifion, ac yn lleihau'r pwysau ar gydweithwyr sy'n deillio o absenoldeb oherwydd salwch. Roeddent hefyd yn pwysleisio na fydd yn blaenoriaethu anghenion iechyd staff y GIG ar draul cleifion eraill, ond y bydd mantais sefydliadol cynllun o'r fath yn arwain at ostyngiad yn y galw am staff asiantaeth a llai o absenoldeb oherwydd salwch lefel isel.
Mae yna nifer o ffyrdd y gellir gweithredu mynediad cyflym, ac anogaf Lywodraeth Cymru i edrych ar hyn. Roedd papur NHS Employers ar y mater yn tynnu sylw at ambell astudiaeth achos. Ysbyty prifysgol Southampton—cynhaliodd y tîm adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol gynllun dychwelyd i iechyd, sy'n cynnig pecyn gofal wedi'i deilwra i weithwyr, o driniaeth ac ymgyngoriadau personol i ofal dilynol a chymorth parhaus. Helpodd y prosiect i leihau effeithiau andwyol salwch hirdymor ar staff iechyd a lles ac ar gyllid, a chreodd wasanaeth personol lle roedd y cyflogeion yn teimlo eu bod yn cael gofal. Gwelwyd manteision i'r sefydliad ar ffurf gostyngiad yn y cyfraddau absenoldeb cyffredinol, i lawr i 3.1 cant o dros 4.5 y cant, a 26 y cant yn y gostyngiad yn y costau asiantaeth. Dychmygwch faint y byddai'r GIG yn ei arbed yng Nghymru pe bai ein costau asiantaeth yn gostwng 26 y cant.
Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Prifysgol Colchester—fe wnaethant gyflwyno system frysbennu'n edrych ar gefnogi staff sy'n absennol oherwydd salwch, a oedd hefyd yn gostwng lefelau absenoldeb. Pan fo unigolyn yn rhoi gwybod ei fod yn sâl, mae eu rheolwr llinell yn cysylltu â'r adran iechyd galwedigaethol a lles gyda manylion yr absenoldeb. Mae'r adran honno'n cynnal galwad ffôn pump i 10 munud gyda'r aelod o staff i sefydlu a oes angen unrhyw gefnogaeth a'u cyfeirio at adnoddau perthnasol. Mae hyn wedi arwain at nodi cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrysgerbydol ar y diwrnod cyntaf, gan alluogi cymorth cynnar ac ymyrraeth i gefnogi staff. Felly, yn dilyn ei gyflwyno fesul cam, dyma oedd y canfyddiadau: materion iechyd meddwl—dychwelodd 71.5 y cant o'r staff i'r gwaith o fewn pedair wythnos. Cymharwch hynny â cholli dros 900 niwrnod y flwyddyn fel y gwnawn ni. Anhwylderau cyhyrysgerbydol—cafwyd cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau at ffisiotherapi, ond roedd 53 y cant wedi aros yn y gwaith, 21.5 y cant wedi dychwelyd i'r gwaith o fewn wyth niwrnod, a 15 y cant arall wedi dychwelyd i'r gwaith rhwng naw a 14 o ddiwrnodau. Mae hynny o ddifrif yn dangos y budd o ofalu am y bobl sy'n gofalu amdanom ni.
Mae'r ddwy astudiaeth yn gwneud achos argyhoeddiadol dros ben, ac mae hefyd yn werth ystyried, os nad ydym yn sicrhau ein bod yn cadw llygad ar gynlluniau fel hyn ar draws y ffin, y byddwn yn ei chael hi'n fwyfwy anodd denu staff i weithio yn ein GIG heddiw. Dyna pam yr wyf mor siomedig fod UKIP a Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr elfen hon o'n cynnig.
Un agwedd olaf yr hoffwn fynd i'r afael â hi yw'r angen i wella cynllunio'r gweithlu. Dangosodd canfyddiadau o gais rhyddid gwybodaeth y Ceidwadwyr Cymreig fod y GIG yng Nghymru yn colli nyrsys rif y gwlith. Roedd y byrddau iechyd a roddodd ffigurau i ni—cafwyd diffyg cyfunol o 797 o nyrsys yn y cyfnod o dair blynedd rhwng 2015 a 2017, ac ers hynny, mae niferoedd pellach wedi dod i mewn sydd wedi dangos hwnnw fel cynnydd, ac rwy'n hapus iawn i ddarparu'r rheini i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Ynghyd â'r niferoedd hyn sy'n peri pryder, gwerir swm enfawr o arian ar draws y wlad ar staff asiantaeth. Mae ffigurau diweddaraf ar gyfer 2017 yn nodi ei fod yn £54 miliwn. Yn wir, mae'n £55 miliwn, oherwydd mae'n £54.9 miliwn, ac mae'n arwydd o'r anawsterau y mae byrddau iechyd yn eu cael yn cyflogi staff nyrsio amser llawn eu hunain. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Cymdeithas Feddygol Prydain ffigurau a ddangosai fod byrddau iechyd wedi gwario £29 miliwn ar oramser i feddygon ymgynghorol a darparwyr preifat. Dangosodd Ymchwil Canser sut y mae prinder staff yn cael effaith aruthrol ar ddarparu triniaeth ganser o'r radd flaenaf. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn i gyd yn dangos ein bod angen y staff. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r prinder, ond nid yw'n ymddangos eich bod yn tynnu hynny at ei gilydd mewn system integredig a fyddai'n arbed arian inni, a rhoi pobl dda yn y man iawn ar yr adeg iawn i ddarparu GIG a fydd yn parhau'n hwy na 70 mlynedd.
Ymarfer cyffredinol—rwyf am orffen gydag ymarfer cyffredinol. Mae'n hanfodol, yn gyfan gwbl hanfodol, er mwyn cyflawni'r model gofal iechyd a amlinellwyd gennych yn 'Cymru Iachach', eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac mae'n hanfodol fod strategaeth yn cael ei datblygu i hybu nifer y meddygon teulu a nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd. Mae gennym weithlu sy'n heneiddio mewn gofal sylfaenol, fel y dengys ffigurau gan Gydffederasiwn y GIG, a nododd fod mwy na 45 y cant o weithwyr y GIG yng Nghymru yn 45 oed neu'n hŷn ar hyn o bryd. Mae pobl yn ymddeol; nid oes digon o recriwtiaid yn dod i gymryd eu lle.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno neu fel arall bydd y person sy'n cloi yn ddig wrthyf, ond hoffwn wneud y pwynt hwn unwaith eto: heb gynllun integredig ar gyfer y gweithlu iechyd sy'n ymgorffori gofal cymdeithasol, cynllun sy'n edrych o ddifrif ar ffyrdd gwych o gadw pobl ac sy'n gwerthfawrogi ein pobl, nid ydym yn mynd i fod mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth GIG da. Hoffwn eich annog yn gryf i edrych ar y systemau gofal cyflym a geir o gwmpas y byd. Fe'ch gadawaf gyda'r ffigur diwethaf hwnnw: collir dros 900 mlynedd o waith oherwydd problemau iechyd meddwl. Gwyddom am y straen sydd ar ein staff. Os gallwn gael y staff sydd gennym yn iach ac yn ôl i'r gwaith, bydd hynny ynddo'i hun yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gyflwr ein GIG.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn ei henw ei hun. Caroline.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu, oherwydd methiant llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion.
Gwelliant 3—Caroline Jones
Ym mhwynt 4, dileu 'weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu' a rhoi 'ddatblygu' yn ei le.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig yn ffurfiol y ddau welliant a gyflwynwyd yn fy enw, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y gallwch weld o fy ngwelliannau, cytunaf â 99 y cant o gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Ni allaf gefnogi rhoi triniaeth flaenoriaethol i staff y GIG, ac er fy mod yn cydymdeimlo â'r angen i gael staff yn ôl ar y rheng flaen cyn gynted â phosibl, ofnaf y byddai'r cynnig hwn yn arwain at GIG ddwy haen. Gallem weld sefyllfa lle byddai gweithiwr GIG a swyddog yr heddlu ill dau yn aros am drawsblaniad ac o dan y cynigion hyn, byddai gweithiwr GIG yn cael blaenoriaeth, waeth beth fo'r blaenoriaethau clinigol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 3.
Wrth fynd at graidd y ddadl hon, mae'n destun gofid fod Cymru'n wynebu prinder staff mewn nifer o feysydd allweddol, a'r rheswm am hynny yw bod cynllunio'r gweithlu wedi bod yn druenus o annigonol yn y degawdau diwethaf. Mae Cymru wedi methu ystyried newidiadau demograffig a'r pwysau y bydd hyn yn ei roi ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fel yr amlygwyd gan yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru yn tyfu 6.1 y cant. Rhagwelir y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu 44 y cant, a bydd nifer yr oedolion sy'n gweithio yn lleihau dros 5 y cant dros y ddau ddegawd nesaf.
Yn anffodus, ni ddaw henaint ei hunan. Dros yr un cyfnod, bydd nifer yr oedolion sy'n byw gyda chyflwr cyfyngus hirdymor yn cynyddu bron i chwarter. Mae'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yn cael ei gwneud yn llawer gwaeth am fod diffyg cynllunio ar gyfer y dyfodol wedi arwain at brinder staff allweddol. O un flwyddyn i'r llall, o un mis i'r llall, mae gennym oddeutu 20,000 o gleifion yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth. Rydym wedi gweld cynnydd o 400 y cant yn nifer y cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth. Mae 39 y cant o bobl Cymru yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu, ac yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, rydym yn dioddef o brinder difrifol o feddygon teulu. Mae gan Gymru 136 o leoedd hyfforddi ac os ydym yn mynd i ystyried lleoedd hyfforddi fesul claf, dylem fod yn hyfforddi 184 ohonynt.
Cred y coleg brenhinol fod angen inni hyfforddi 200 o feddygon teulu newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw a gwneud iawn am y nifer fawr o feddygon teulu sy'n agosáu at oed ymddeol. Ond nid meddygon teulu'n unig sy'n brin. Gan Gymru y mae'r nifer leiaf o seiciatryddion ymgynghorol y pen o'r boblogaeth, er bod gan Gymru gyfran uwch na'r cyfartaledd o bobl sy'n dioddef salwch meddwl. Gan Gymru y mae rhai o'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn y byd gorllewinol, ac eto rydym yn affwysol o brin o oncolegwyr clinigol, ffisegwyr meddygol, radiograffyddion a diagnostegwyr. Rydym yn affwysol o brin o nyrsys. Ar hyn o bryd mae'r GIG yn gwario £1 filiwn yr wythnos ar nyrsys asiantaeth i weithio shifftiau'n unig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, Caroline Jones. Rydych wedi disgrifio'r achos yn eithriadol o dda dros pam y mae gennym y fath brinder mawr ym mhob man, a dyna pam—ac rwy'n mynd i ddarllen y ffigur eto—y collir 948 o flynyddoedd oherwydd salwch meddwl. O na bai rhai o'r bobl hynny'n cael eu dychwelyd i'r gweithlu yn gynt, yn hytrach na gorfod recriwtio pobl. Ni allwn eu creu o ddim byd. Maent yno i ni; gadewch i ni eu gwneud yn iach, gadewch i ni eu cael i weithio.
Angela, rwy'n derbyn eich pwynt, ond am y rhesymau y tynnais sylw ar y cychwyn ni allaf dderbyn eich—roedd yn rhaid i fi gynnwys fy ngwelliant. Felly, mae'n ddrwg gennyf. Diolch.
Mae'r prinder nid yn unig yn cyfrannu at amseroedd aros hirach i gleifion, mae hefyd yn rhoi staff presennol o dan straen anhygoel, ac mae un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru'n teimlo eu bod dan gymaint o straen fel na all ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. Mae nyrsys wedi datgelu eu bod yn gadael y gwaith yn crio ac mae cleifion yn marw ar eu pen eu hunain oherwydd prinder staff. Byddai angen 78 o oncolegwyr clinigol ychwanegol pe bai ein honcolegwyr yn glynu at oriau eu contract. Mae ein GIG yn cael ei brofi i'r eithaf a disgwylir i'r pwysau barhau i gynyddu.
Ydy, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu dulliau newydd o weithio, ond mae angen staff i gyflawni'r rolau hyn. Rhaid inni gynllunio ar gyfer angen yn y dyfodol. Ni allwn recriwtio meddygon a nyrsys dros nos; maent yn cymryd blynyddoedd o hyfforddiant. Ein hadnoddau mwyaf gwerthfawr yw ein gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd, gadewch inni eu cefnogi drwy sicrhau nad ydynt yn gorweithio ac yn cael eu dibrisio. Mae arnom angen cynllun gweithlu cenedlaethol ar frys ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a fy nau welliant iddo. Diolch.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Gwelliant 2—Julie James
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol;
b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ffurfiol.
A gaf fi alw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 4 a 5, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun? Rhun.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi siarad droeon yma am bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu ac rwy'n falch iawn ein bod yn awr sôn yn rheolaidd am gynllunio'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol; mae'r ddau yn hanfodol, wrth gwrs. Edrychwch ar lawer o'r problemau sy'n ein hwynebu o ran iechyd a gofal—capasiti, amseroedd aros, integreiddio. Mae'r gweithlu'n ganolog, rwy'n credu, i'r atebion yr ydym yn eu ceisio. Credaf ei bod hi'n amlwg fod methiant ar ran y Llywodraeth hon i fynd i'r afael yn ddigonol â phroblemau'r gweithlu yn tanseilio cynaliadwyedd ein staff GIG yn uniongyrchol, gan eu rhoi o dan bwysau annerbyniol a rhoi cleifion yng Nghymru mewn perygl. Fe drof at ein dau welliant.
Mi soniaf i am y ddau welliant. Nid oes syrpreisys yn y gwelliannau, mae'n deg i ddweud, ac rwy'n ymddiheuro dim am hynny, oherwydd ni fyddwn ni'n gallu darparu'r NHS rydym ni ei eisiau oni bai ein bod ni yn sefydlu canolfan addysg feddygol ym Mangor ac ehangu lleoliadau hyfforddi ledled Cymru. Y gwelliant arall: nid ydym ni'n mynd i allu darparu'r gofal a'r gwasanaeth iechyd rydym ni ei eisiau oni bai ein bod ni'n cydnabod nad yw gwasanaethau yn y Gymraeg ddim yn rhyw ddewis ychwanegol a all gael ei ohirio tan y dyfodol chwedlonol hwnnw pan mae yna hen ddigon o adnoddau, ond yn hytrach ei fod yn rhan hanfodol o gyflwyno gofal clinigol diogel heddiw.
Fe wnaf i ddechrau efo'r pwynt yna. Mae yna ryw syniad allan yna, wyddoch chi, o hyd fod mwyafrif llethol pobl Cymru'n gallu siarad Saesneg, ac oherwydd hynny nad oes gwahaniaeth a ydyn nhw'n siarad efo'u meddyg neu nyrs yn Gymraeg neu Saesneg. Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi sôn am fwy nag un bwrdd iechyd yn cyfeirio at y ffaith fod rhai o'u staff yn ei chael hi'n anodd deall yr angen i ddarparu ac i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, pan fod eu canfyddiad yn un o ddiffyg galw amlwg am wasanaethau gan y cyhoedd. Mae llawer o'r byrddau iechyd eu hunain ag agwedd niwtral tuag at hyn, ac mae hyn ynddo'i hun yn broblemus. Er nad yw'n elyniaethus, mae ystyried y Saesneg fel jest y norm—yr iaith default—yn rhwystr i weithredu rhagweithiol wrth chwilio am atebion i anghenion ieithyddol.
Mae gallu i ddisgrifio symptomau yn gywir yn helpu diagnosis cywir. Mae disgrifio symptomau mewn iaith gyntaf yn ei gwneud hi'n haws i roi disgrifiad cywir, fel yr wyf yn gwybod y byddai Dai Lloyd yn ei gadarnhau fel meddyg teulu. Mae'n mynd yn fwy ac yn fwy amlwg pan rŷch chi'n sôn am bobl ifanc ac am blant, ac am bobl efo dementia, anableddau dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Felly, nid yw recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg, a darparu gwasanaethau dwyieithog, ddim yn rhywbeth ddylai gael ei weld fel rhyw dicio bocs oherwydd bod y bobl niwsans yna yn Plaid Cymru wedi gallu dylanwadu ar Lywodraeth unwaith—mae'n rhywbeth i'w wneud am fod cleifion bregus yn gallu marw os na wnewch chi. Mae yna dal arwyddion o ddirmyg, rwy'n ofni. Nid yw Llywodraeth Cymru ddim hyd yn oed yn meddwl bod angen trafferthu i gyhoeddi nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr NHS, ac eithrio nifer y meddygon teulu—mae'r rheini'n cael eu rhifo. Felly, nid oes gennym ni syniad yn lle mae'r bylchau a beth ydy'r tueddiadau ac yn y blaen. [Torri ar draws.]
Wrth gwrs.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'n eu gwneud ar ddwyieithrwydd. Ond mae'r ieithoedd eraill sydd i'w hystyried yr un mor bwysig, yn enwedig yn y ddinas a gynrychiolaf yma yng Nghaerdydd, lle y ceir amrywiaeth o ieithoedd, ac mae angen ailwampio'r system gyfieithu sydd ar gael ar gyfer cleifion a meddygon yn ein gwasanaeth iechyd yn llwyr fel nad oes neb yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu ac y gallant ddefnyddio'r iaith y maent yn dewis ei siarad.
Mae'r pwynt a wneuthum am y gallu i ddisgrifio symptomau yn eich iaith gyntaf yr un mor wir ym mha iaith bynnag y soniwn amdani, ond wrth gwrs, ceir—ni ddefnyddiaf y geiriau 'achos arbennig' ar gyfer yr iaith Gymraeg hyd yn oed, gan ein bod yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae'r Aelod yn gwneud pwynt cwbl ddilys.
Yn ôl at y mater o ffigurau, efo meddygon teulu, rŷm ni'n gwybod bod yna brinder meddygon teulu beth bynnag, ac mae ffigurau gan y Llywodraeth heddiw yn dangos cynnydd yn y nifer y bobl sy'n cwyno eu bod nhw'n gorfod aros yn hir am driniaeth, ond mae'r nifer sy'n siarad Cymraeg wedi mynd i lawr yn sylweddol hefyd, felly mae'n rhaid gweithredu rŵan.
Rŷm ni wedi gweld bod yr ystadegau ar niferoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yn is mewn perthynas â'r boblogaeth nag yn Lloegr a'r Alban. Felly, yn troi at y gwelliant arall yna ynglŷn ag addysg feddygol, rŷm ni'n wynebu problem prinder meddygon—rŷm ni'n gwybod hynny. Felly, gadewch inni ddechrau gwyrdroi hyn drwy fuddsoddi a gosod uchelgais o ran cynyddu nifer y myfyrwyr meddygol a nifer y llefydd y mae myfyrwyr meddygol yn gallu astudio ynddyn nhw.
Mae gennym ni domen o enghreifftiau sy'n dangos gwerth hyfforddi mewn ardal wledig er mwyn perswadio pobl i weithio mewn ardal wledig—esiamplau o Norwy, o Calgary, o America ac o hyd a lled y byd, i ddweud y gwir. Mae yna waith da yn cael ei wneud yn Abertawe yn y brifysgol i ehangu llefydd hyfforddi yn y gorllewin. Efallai mai Caerdydd, felly, fyddai'r partner mwyaf naturiol i weithio efo Prifysgol Bangor ar ganolfan addysg feddygol newydd, achos mae angen y ganolfan honno. Mae gan Iwerddon saith ysgol feddygol ac mae gan yr Alban bump ysgol feddygol, sy'n awgrymu bod un ysgol feddygol i bob miliwn o bobl yn rhywbeth sydd yn gweithio ac yn gyffredin. Rŷm ni angen un arall yng Nghymru.
Mewn tystiolaeth—i'r pwyllgor iechyd rwy'n credu—dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod penderfynyddion allweddol iechyd i raddau helaeth y tu allan i reolaeth gwasanaethau iechyd, ac felly, ansawdd, a gwariant ar ofal cymdeithasol yw un o'r pethau sy'n effeithio fwyaf ar y galw am ofal iechyd.
Efallai fod hynny'n datgan yr amlwg, o bosibl, ond mae'n ddatganiad a ddylai effeithio'n gryfach ar ein meddyliau ynghylch recriwtio a lles y gweithlu gofal cymdeithasol yn y tymor byr i'r tymor canolig, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na gweithlu'r GIG. Os yw'r gweithlu gofal cymdeithasol yn methu, mae'n dinistio gallu gweithlu'r GIG i ymdopi â'r galwadau ychwanegol arnynt. Ac er fy mod yn derbyn, wrth gwrs, nad yw newidiadau diwylliannol a strwythurol mawr yn digwydd dros nos, ac yn cydnabod bod gwaith wedi dechrau bellach ar godi statws y gweithlu gofal cymdeithasol a phersonol drwy reoleiddio a hyfforddiant pellach, rydym yn dal i golli gweithwyr gofal i'r system iechyd oherwydd eu telerau ac amodau gwell yno, yn ogystal â'u colli i swyddi eraill gan fod gofal yn cael ei weld yn rhy aml fel math o swydd lefel mynediad dros dro i lenwi bwlch.
Yr hyn na wyddom yw faint a gollwn o ganlyniad i salwch, oherwydd nid ydym yn gwybod faint o bobl a gyflogir yn y sector hwn. Mae 6,000 neu fwy wedi'u cofrestru, fel y gwyddom, ond mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 19,000 o weithwyr gofal cartref i'w cael sydd bellach yn gymwys i gofrestru. Ond mae adroddiad annibynnol ar werth economaidd gofal cymdeithasol i oedolion yn awgrymu bod yr amcangyfrif yn nes at 83,000 o weithwyr gofal ac mae'n fwy na thebyg fod 127,000 o swyddi wedi'u cysylltu'n anuniongyrchol â gofal cymdeithasol i oedolion. Ac os nad ydych yn gwybod pwy yw'r gweithwyr hyn ac yn methu eu cyrraedd, sut y gallwn sicrhau lles y fyddin gudd hon? Rydym yn gwybod am y meddygon teulu, ac yn awr rydym yn gwybod am y staff ambiwlans yn ogystal, ond faint o weithwyr gofal sy'n dioddef salwch meddwl oherwydd galwadau amser afrealistig, telerau ac amodau sy'n amrywio, lefelau cyflog isel—y teimlad hwnnw sy'n parhau mai ail orau ydych chi o gymharu â'r GIG? Faint sy'n gadael am y rhesymau hynny, pan allem fod yn eu cadw?
Ac os ydym yn gofyn am newid diwylliannol, os ydym yn gofyn i bobl ddod i fuddsoddi mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr achos i'r cyhoedd yn gyson nad yw gofal cymdeithasol yn llai o beth na'r gofal meddygol neu nyrsio y gwyddom amdano ac i ddangos hynny. Felly, er y bydd Gweinidogion efallai'n disgwyl i Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru weithio 'fel un', i'w dyfynnu hwy, mae yna gwestiwn go iawn yn codi i mi ynglŷn â bod gwerth ffrydiau addysg y sefydliadau hyn ar wahân i'w gilydd, gan gadw'r risg y bydd un yn bwrw cysgod dros y llall. Dylai fod newydd-ddyfodiaid yn dod i ddechreuad y gwasanaeth integredig hwn heb ddim o'r hen rwystrau fod gofal iechyd yn fwy gwerthfawr na gofal cymdeithasol, ac yn sicr ym meysydd cyffredinol gofal sylfaenol, ni ddylai newydd-ddyfodiaid fod yn ymwybodol o unrhyw wahaniaeth, hyd yn oed os ydynt yn camu ymlaen i fod yn fwy arbenigol wrth i'w gyrfa fynd rhagddi.
Er yr holl waith da sy'n digwydd mewn clystyrau a chanolfannau amlddisgyblaethol eraill, y tueddiad o hyd yw i aelodau meddygol neu nyrsio arwain timau yn hytrach na'r rheini sydd â chefndir yn y gwasanaethau cymdeithasol, er bod rhai o'r rheini i'w cael wrth gwrs. Heb fodelau rôl, bydd newydd-ddyfodiaid yn etifeddu'r ymdeimlad presennol hwn o anghydraddoldeb rhwng y ddwy ran angenrheidiol o ofal, a chan ein bod wedi colli 5,000 o swyddi mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn y saith mlynedd diwethaf, pwy sy'n annog y rheini sydd wedi dilyn y llwybr gwasanaethau cymdeithasol i wthio am arweinyddiaeth yn y gwasanaethau integredig hynny?
Nawr, 'gofal' yw'r gair rydym yn ei ddefnyddio yma, ac ni all gofal sylfaenol barhau i gael ei weld fel rhywbeth cwbl feddygol, neu'n ymwneud yn unig â nyrsio neu weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd hyd yn oed. Rhaid rhoi gwerth cyfartal ar ofal cymdeithasol a phersonol o fewn y diffiniad hwnnw. Ddoe, roeddem yn ddigon ffodus i gael ymweliad gan ysgol gynradd Griffithstown, a ddaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia i siarad am y gwaith pontio'r cenedlaethau gwych y maent yn ei wneud. Dywedodd rhai o'r merched—neb o'r bechgyn, yn ddiddorol—y byddent yn hoffi dod yn nyrsys dementia. Ni soniodd neb am ddod yn feddyg ymgynghorol neu ymchwilydd neu weithiwr gofal neu rywun sy'n rhedeg cartref gofal neu wasanaeth gofal cartref neu rywun sy'n helpu i gadw pobl yn iach yn y cartref pan fydd ganddynt ddementia. Ac nid wyf yn beio'r plant hynny o gwbl, ond maent wedi clywed am nyrsys; nid ydynt wedi clywed am ofal cymdeithasol. A heb unrhyw eglurder ynglŷn â sut olwg fydd ar bethau yn y dyfodol, credaf ei bod yn eithaf anodd paratoi newydd-ddyfodiaid a darbwyllo gweithwyr presennol i newid yr hyn y maent yn ei wneud, sy'n brofiad eithaf anodd ynddo'i hun, a sut y gall Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru fod yn sicr y bydd yr hyn y maent yn hyfforddi ar ei gyfer yn briodol ar gyfer modelau gofal yn y dyfodol? Ac wrth gwrs, modelau fydd gennym—yn y lluosog—oherwydd bydd hyn yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Yn olaf, rwyf am orffen ar bwnc darparwyr y trydydd sector. Deuthum ar draws sefyllfa ddoe lle roedd cynllun yn talu nifer fach o bersonél y trydydd sector sydd ag arbenigedd cydnabyddedig i helpu unigolion i gael hyder i wneud penderfyniadau priodol am eu hanghenion gofal yn hytrach na ffonio 999. I dorri stori hir yn fyr, maent yn colli eu cyllid, rydym yn colli arbenigedd yr aelodau hynny o'r gweithlu gofal yn ogystal â'r holl fuddion, a hoffwn rywfaint o sicrwydd, os gallwch ymateb i hyn heddiw, ynglŷn â sut y bydd ein gweithwyr gofal o'r trydydd sector, a sectorau eraill os hoffech, yn cael eu cadw a sut y gallwn edrych ar eu holau os na wyddom eu bod yn bodoli hyd yn oed.
Rydw i’n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Yn dilyn o beth mae Suzy Davies wedi’i ddweud, fe wnaf i ddechrau gyda’r pwynt cyntaf, sef pwysigrwydd allweddol gofal cymdeithasol. Nawr, fel meddyg, buasech chi’n disgwyl i mi fynd ymlaen ac ymlaen am y gwasanaeth iechyd, ond fel sydd wedi cael ei ddweud sawl tro yn y Siambr yma, heb ofal cymdeithasol, mi fydd y gwasanaeth iechyd yn dadfeilio hefyd, felly mae eisiau dechrau efo hynny. Yn bersonol, ac yn gynyddol, mae fy mhlaid i’n ffafrio creu gwasanaeth gofal cenedlaethol.
Mae gennym ni wasanaeth iechyd cenedlaethol. Nôl yn y 1930au, roeddem ni’n edrych ar iechyd, ac roedd e'n wasgaredig—ar wahân. Roedd yna elfennau llywodraeth leol yn darparu iechyd, roedd yna elfennau elusennol, roedd yna elfennau preifat yn darparu gwasanaeth iechyd. Roedd yn rhaid ichi dalu i weld eich meddyg teulu, er enghraifft. Fast-forward i nawr, a phan rydych chi’n edrych ar y sector gofal, mae yna elfennau’n cael eu darparu gan lywodraeth leol, mae yna elfennau’n cael eu darparu gan y sector breifat, mae yna elfennau’n cael eu darparu yn elusennol. Beth am ddod â nhw at ei gilydd? Achos os oedd e’n ddigon da i’r gwasanaeth iechyd, yn bendant mae’n ddigon da i gael gwasanaeth gofal ar yr un un math o linellau. Buasai hynny’n dod â’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaeth gofal ar yr un lefel o barch â’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Fel rydych chi wedi crybwyll eisoes, mae pobl yn wastad yn edrych ar nyrsys a meddygon gyda rhyw lefel o barch sydd yn uwch na’r sawl sydd yn darparu gwasanaeth gofal. Rydym ni wedi llwyddo dros y blynyddoedd i israddio gwerth gofal yn ein cymdeithas, ac eto, hwnnw ydy’r pwynt allweddol mwyaf pwysig—y gallu yna i ymdrin â phobl, i fod yn dosturiol efo pobl, i fod yn garedig efo pobl arall, a’r gwasanaeth gofal ydy hynny. Rydym ni wedi colli hynny efo’r ffordd rydym ni’n ymdrin â phobl, efo’n cleifion, ddim jest yn y gwasanaeth iechyd ond hefyd yn ein gwasanaeth gofal.
Ac, ydy, mae hynny’n golygu, yn bendant, yn ein gwasanaeth gofal, efo'r nifer cynyddol o bobl sy’n dioddef o ddementia ac ati, fod angen darparu’r gwasanaeth hwnnw’n gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, achos efo dementia, yr iaith rydych chi wedi'i dysgu yn eilradd sydd yn mynd gyntaf. Hynny yw, i’r sawl sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf pan maen nhw’n datblygu dementia, dim ond Cymraeg maen nhw’n gallu siarad pan maen nhw wedi datblygu dementia. Ac mae yna sawl math o strôc sydd yn cael yr un un math o effaith. Rydych chi’n colli’r gallu i siarad yn eich ail iaith. Mae yna nifer o wledydd dros y byd efo’r un un math o brofiad. Pan rydych chi mewn gwledydd sydd yn siarad mwy nag un iaith, rydych chi'n colli’r gallu i siarad eich ail iaith—efo dementia, yn gynyddol, ac efo strôc.
Felly, mae’n rhaid inni fod yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynllunio ein gweithlu i adlewyrchu ein cymdeithas. Mae yna dros 0.5 miliwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru; rydym ni’n anelu at darged o gael 1 filiwn ohonyn nhw, ac felly dylai ein gweithlu ni yn y gwasanaeth gofal, yn ogystal ag yn y gwasanaeth iechyd, adlewyrchu’r pwynt sylfaenol yna. Yn ogystal â beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth, rŷch chi’n gwella safon y dadansoddiad—y diagnosis—pan rydych chi’n gallu ymgysylltu efo rhywun yn ei mamiaith. Rydych yn dod i ddeall y diagnosis, ac rydym yn dod i’r diagnosis, fel meddygon a nyrsys, 90 y cant o’r amser ar sail beth mae’r claf yn dweud wrthym ni ar sail ei hanes. Ac felly, os ydych chi’n cael gwell ansawdd hanes, rydych chi’n dod i’r dadansoddiad yn gynt, heb, felly, orfod cael profion gwaed, pelydr x, uwchsain ac yn y blaen. Mae’r ddarpariaeth yna, felly, yn arbed arian yn y pen draw.
Fe wnaf i jest gorffen yn nhermau amser. Fel meddygon iau yn ein hysbytai, maen nhw o dan bwysau affwysol. Mae yna alw i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd yn gorfforaethol yn edrych ar ôl ei staff. Wel, buaswn i’n gwneud ple arbennig y dyddiau hyn i edrych ar ôl ein meddygon ifanc ni yn ein hysbytai. Rydw i wedi sôn am hyn o’r blaen. Nôl yn y dydd pan oeddwn i’n feddyg ifanc mewn ysbytai, roedd yna elfen deuluol—roedd yr arbenigwyr yn edrych ar ein holau ni. Roedd y gweinyddwyr yn edrych ar ein holau ni. Roedd pawb yn edrych ar ein holau ni. Rydym ni wedi colli’r elfen yna rŵan. Mae ein meddygon iau ni yn cwyno eu bod nhw’n cael eu gorweithio. Mae disgwyl iddyn nhw lenwi bylchau yn y rota pan maen nhw ar eu cluniau eisoes. Maen nhw’n gorfod ymladd am ddyddiau i ffwrdd i astudio, ymladd am ddyddiau i ffwrdd i sefyll arholiadau, ymladd am ddyddiau i ffwrdd hyd yn oed i briodi. Nid ydy hyn yn deg. Dyma ddyfodol ein gweithlu meddyg teulu ni. Rydym ni i gyd yn dechrau bant fel meddygon iau mewn ysbyty, ond os ydym ni’n colli’r rheini, os ydyn nhw'n symud dros y dŵr i fod yn feddygon yn Awstralia ac ati, lle maen nhw’n cael gweithio’n llai caled ac am lawer mwy o bres, ac nid yw Bondi Beach yn bell i ffwrdd, nid oes rhyfedd bod y gweithlu yn gadael. Mae eisiau paratoi ar gyfer y dyfodol drwy ymdrin â’n meddygon iau yn llawer gwell. Diolch yn fawr.
Mae'r flwyddyn hon yn nodi pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Mae'n debygol y bydd pawb yng Nghymru ar ryw adeg, angen gwasanaethau'r GIG. Gwn o fy mhrofiad personol pa mor bwysig yw'r GIG. Ym mis Ebrill eleni, cafodd fy ngwraig gyfres o strociau ac mae'n gysur mawr gwybod fod y gofal rhagorol a gafodd ar gael i bawb, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
Mae'r GIG yn wynebu llawer o heriau. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, mae nifer y bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn codi ac mae cost triniaethau a thechnoleg feddygol yn tyfu. Mae angen i'r GIG addasu a moderneiddio er mwyn ateb yr heriau hyn os yw'n mynd i ffynnu a darparu'r gwasanaethau o'r radd flaenaf y mae pawb ohonom am eu gweld. Ond rhaid i'w egwyddor craidd barhau; mae gwasanaeth iechyd am ddim sydd ar gael i bawb yn dal i fod yn destun eiddigedd drwy'r byd. Mae pawb ohonom yn dymuno gweld y GIG yng Nghymru yn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel i bawb. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen gweithlu gydag adnoddau da sy'n cyflawni ar lefel uchel, gweithlu sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod recriwtio a chadw staff wedi dod yn her sylweddol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi methu hyfforddi digon o staff ar gyfer y dyfodol. Mae lleoedd hyfforddi a gynigir gan fyrddau iechyd y GIG yn parhau i fod heb eu llenwi. Mae nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n gwneud cais i fynd i ysgol feddygol yn lleihau, ac er bod Llywodraeth Cymru yn cynnig bwrsariaeth GIG ar gyfer y pedair blynedd academaidd olaf, mae Cymru wedi methu llenwi'r holl leoedd a gomisiynwyd. Mae recriwtio staff wedi bod yn broblem. Mae effaith cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi bod yn anodd ei fesur, gyda graddau annelwig o lwyddiant.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad gan Lywodraeth y DU i lacio'r rheolau mewnfudo i ganiatáu mwy o feddygon a nyrsys medrus o'r tu allan i'r UE i ddod i weithio yn ein GIG. Mae mwy o bwysau a baich gwaith ar ein gweithlu GIG presennol wedi arwain at anawsterau i gadw staff. Mae gennym y nifer isaf o feddygon teulu yn gweithio yn y GIG yng Nghymru ers 2013. Mae mwy na 60,000 o nyrsys wedi gadael y GIG ers 2015, naill ai drwy ymddiswyddo neu ymddeol. Mae'r methiant hwn i gadw, recriwtio a hyfforddi staff wedi arwain at ganlyniadau ariannol difrifol. Mae gwariant ar staff asiantaeth a locwm wedi cyrraedd £164 miliwn; dyma gynnydd o dros 20 y cant o'i gymharu â gwariant mewn blynyddoedd blaenorol. Nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir, Ddirprwy Lywydd. Mae angen strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn y dyfodol. Rhaid defnyddio gweithio agosach yn drawsffiniol a chymhellion effeithiol er mwyn llenwi bylchau daearyddol ac arbenigol yn ein gwasanaeth iechyd. Mae darparu gofal iechyd yn faes sy'n newid yn gyflym. Ni allwn ddibynnu ar systemau darparu gofal iechyd a luniwyd yn y 1940au i ateb heriau'r unfed ganrif ar hugain.
Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth glir i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff y GIG. Mae hyn yn hanfodol os ydym am greu GIG gydag adnoddau da sy'n cyflawni ar lefel uchel fel y mae pobl Cymru ei angen ac yn ei haeddu. Os nad ydym yn gofalu am ein GIG, pwy arall sy'n mynd i wneud hynny? Rwy'n eithaf siŵr na fydd y GIG yn gofalu amdanom ni ychwaith.
Ceir rhai meysydd: y GIG a gofalwyr. Mae iechyd meddwl yn fater pwysig y mae'n rhaid inni edrych arno, yn enwedig ein cyn-filwyr. Rhaid inni edrych ar eu hôl. Hefyd, ychydig fisoedd yn ôl, cafwyd problem gyda chyfrifiaduron ac ni allai meddygon ddod i gysylltiad â'u cleifion. Nid yw hynny'n ddigon da. Dioddefodd llawer o gleifion ac roedd llawer o ysbytai heb waith. Nid datblygu yw hynny. Rhaid inni gael cynllun B. O ysbyty i ysbyty, mae safonau ychydig yn wahanol, felly o un meddyg i'r llall, mae'r pwysau'n wahanol. Mae ansawdd ein gwasanaeth yn wych, ond mae'r ddarpariaeth yn ddiffygiol mewn rhai meysydd. Er mwyn moderneiddio ein system, rhaid i'r system gyflogau fod yn gyfartal, rhaid rhoi'r tâl i'n meddygon a'n nyrsys ein hunain, a dylent weithio mewn amgylchedd cyfforddus ac addas yn yr ysbytai gorau yn y byd.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais, byddaf bob amser yn falch o'r GIG: mae'n destun eiddigedd drwy'r byd. Rhaid inni ofalu am ein GIG, ar unrhyw gost, ac yna bydd y GIG yn edrych ar ein holau ni. Diolch.
Diolch. Mark Reckless.
Diolch. Roeddwn yn gwrando ar Dai Lloyd, y credaf ei fod yn siarad â mwy o awdurdod ymarferol nag y gall unrhyw un ohonom ei wneud, efallai, fel meddyg. Y cyfan a wn yn iawn am y GIG yw'r hyn a glywaf gan fy nheulu sy'n gweithio yn y GIG. Roedd fy nhad yn feddyg ac mae fy mrawd yn feddyg, a fy chwaer yng nghyfraith, fy nhad yng nghyfraith, ac roedd fy mam yn nyrs—mae'n mynd ymlaen ac ymlaen. Nid wyf wedi dilyn y llwybr hwnnw fy hun, ond rwy'n falch o'r hyn a gyhoeddwyd dros y penwythnos ac a eglurwyd yn gynharach yr wythnos hon: fod y GIG, yn Lloegr o leiaf, yn mynd i gael cynnydd mewn termau real o £20 biliwn yn ei gyllid, 3.5 y cant y flwyddyn. Credaf mai'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrth y bobl sy'n gweithio yn y GIG yw eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac wrth gwrs, nid yw'r cyfan yn ymwneud ag arian, ond mae'n ymwneud ag anfon neges ynglŷn â pha mor werthfawr yw'r staff i ni. [Torri ar draws.] Iawn.
Maddeuwch imi am wneud yr ymyriad amlwg. Efallai yr hoffech egluro i ni a'i gwneud yn glir nad yw hynny'n ganlyniad i unrhyw beth tebyg i ddifidend Brexit, nad yw'n bodoli.
Roeddwn yn dod at hynny. Rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi nodi dwy ffynhonnell o gyllid: yn gyntaf, y £20 biliwn gros, £10 biliwn net a roddwn ar hyn o bryd i'r UE—byddai cyfran sylweddol o hwnnw'n cael ei ailgyfeirio yn y dyfodol i'r GIG. Ond yn ogystal â hynny, ac rwy'n credu bod hyn yn beth gwirioneddol sylweddol yn wleidyddol i Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, dywedasant y byddai'n rhaid ariannu'r gweddill drwy godiadau treth. Ond oherwydd y gwerth a roddwn ar y GIG, nid yn unig ein bod yn ailgyfeirio arian rydym yn ei dalu ar hyn o bryd i'r UE, ond hefyd, ar gyfer Lloegr o leiaf, bydd trethi'n codi.
Credaf y byddai staff y GIG yng Nghymru wedi hoffi gweld, a'r hyn y byddent wedi bod yn gwrando amdano pan oeddent yn gwrando ar y newyddion y noson honno ac yn y dyddiau i ddod oedd beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud. A oeddent yn eu gwerthfawrogi yn y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU yn ei wneud? Y cyfan a glywsant, yn hytrach nag unrhyw beth gan y Llywodraeth Lafur ynglŷn â beth roeddent am ei wario ar y GIG neu'r ffordd yr oeddent yn gwerthfawrogi staff y GIG—y cyfan a glywsant oedd cwyno am Brexit. Nid ydynt yn hoffi Brexit yn fawr iawn. Pleidleisiodd Cymru dros Brexit, ond nid yw'r Gweinidogion hyn yn ei hoffi. Felly, y cyfan a gawsant oedd sylwadau cecrus am, 'O, nid ydym yn siŵr fod yr arian yn mynd i fod yno, felly nid ydym yn mynd i roi unrhyw ymrwymiad o gwbl.' Yr hyn sydd angen i'n staff ei glywed yw eu bod yn mynd i gael eu gwerthfawrogi o leiaf cymaint yng Nghymru ag y maent yn Lloegr. Rwy'n disgwyl i Weinidogion yn Llywodraeth Cymru wneud hynny—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—yn hytrach na checru am Brexit. Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn ymyriad, ac rwy'n datgan ar goedd fod fy ngwraig yn aelod o staff y GIG. A allwch chi ddweud wrth staff y GIG yng Nghymru felly pa bryd y byddant yn cael y cynnydd hwnnw a beth fydd yn talu amdano? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae eich Llywodraeth eich hun yn Llundain yn dweud, 'Codiadau yn y dreth'. Dyna ni—atalnod llawn. Ni chawn unrhyw syniad pa bryd y mae'n mynd i ddod na manylion hyn oll. Breuddwyd gwrach yw'r cyfan ar hyn o bryd.
Cyhoeddwyd y bydd yn gynnydd o £20 biliwn mewn termau real, cynnydd mewn termau real o 3.4 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd dros chwe blynedd, a bydd yn dod yn rhannol o arian rydym yn ei dalu ar hyn o bryd i'r UE, ond daw'r gweddill, ac o bosibl, rhan fwy ohono hyd yn oed, o godiadau yn y dreth. O ystyried sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio, daw'r gwariant hwnnw wedyn i Gymru lle byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad ddweud wrth staff y GIG, 'Rydych yn cael eich gwerthfawrogi o leiaf cymaint yng Nghymru ag yn Lloegr, a byddwn yn gwario'r arian hwnnw arnoch chi yma hefyd.' Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd.
Hoffwn roi sylw yng ngweddill fy sylwadau i bethau eraill ar wahân i arian, oherwydd, mewn gwirionedd, ansawdd bywyd ac ansawdd eu bywyd gwaith yw'r hyn y mae staff ein GIG yn ei werthfawrogi. Mae llawer o fy etholwyr a fydd yn mynd i Ysbyty Brenhinol Gwent yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i drafnidiaeth i gyrraedd yno. Mae llawer o feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn cymudo o Gaerdydd i Gasnewydd i weithio yn yr ysbyty hwnnw. Bydd llawer o fy etholwyr yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru yn dod i weithio yn yr ysbyty athrofaol yng Nghaerdydd a chânt ddirwyon o gannoedd o bunnoedd am geisio parcio eu car. Ceir heriau enfawr mewn perthynas â thrafnidiaeth, ac mae angen nid yn unig y metro, sy'n gysyniad gwych—rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar y fasnachfraint newydd—ond hefyd mae angen ffordd liniaru'r M4 ac mae ei hangen ar fyrder.
Ond nid yn unig hynny, rydym am weld ysbytai'n cael eu cynllunio, gan weithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill, i wneud yn siŵr fod yr ysbytai hynny'n gweithio ar gyfer staff yn ogystal â'r claf. Mae'n wych fod gennym ysbyty athrofaol y Grange, ac mae o leiaf yr un mor bwysig ei fod yn cael ei wneud yn lle deniadol i staff weithio ynddo—ac i fyw gerllaw, gobeithio, er mwyn lleihau'r anawsterau cymudo. Eto, ar yr un pryd, mae gennym yr ysbyty newydd arfaethedig hwn. Mae gennym gynllun datblygu lleol Torfaen, sy'n cynnwys 300 o dai yn unig yno bellach; arferai fod oddeutu tair gwaith cymaint â hynny. Maent yn adeiladu llai na 200 o dai y flwyddyn dros gyfnod y cynllun, o gymharu â'r dros 300 o dai y dylent fod yn eu hadeiladu. Nid yw'r adolygiad diweddaraf ond yn edrych ar brisiau tai hyd at fis Gorffennaf y llynedd, er iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, ac yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill, rydym wedi gweld prisiau tai yn Nhorfaen yn codi 12.7 y cant. Dylent fwrw ati i ddarparu mwy o seilwaith, mwy o gyfleusterau a mwy o dai, yn ogystal â'r ysbyty. Eto i gyd, mae'r cynllun datblygu lleol ar gyfer Torfaen yn dweud y dylai darparu'r safle strategol ddigwydd yn raddol, gyda gwaith galluogi ar gyfer yr ysbyty, gan gynnwys unrhyw welliannau angenrheidiol i'r briffordd, yn cael ei wneud yn gyntaf, wedi'i ddilyn gan yr ysbyty ei hun. Wedyn, mae'n dweud
Bydd natur, amseriad a threfn y defnyddiau sy'n weddill yn cael eu pennu gan amodau'r farchnad ac astudiaethau pellach.
Yn sicr mae angen iddynt fwrw ymlaen â darparu'r tai a darparu'r seilwaith, i helpu'r holl weithwyr sy'n mynd i fod yn dod i mewn i allu byw fel y gallant gymudo'n hawdd i'r gwaith a mwynhau bywyd o ansawdd da. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein GIG, a gweithio gyda phartneriaid hefyd i sicrhau, pan fo'n cefnogi'r GIG, fel gydag Ysbyty Athrofaol y Grange, ein bod yn cael y cymorth rydym ei angen gan gyngor bwrdeistref Torfaen a phartneriaid eraill.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, ac wrth gwrs, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth iechyd gwladol y cynorthwyodd fy mhlaid i'w greu 70 mlynedd yn ôl. Ac rwy'n falch o glywed Torïaid yn dangos cefnogaeth a dweud eu bod yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth iechyd gwladol hefyd. Mae llawer yn y cynnig y gallwn gytuno arno. Mae yna bwyntiau, wrth gwrs, yr ydym yn anghytuno â hwy, a dyna pam y cyflwynwyd gwelliant gan y Llywodraeth.
Hoffwn gyfeirio'n ôl at Angela Burns a agorodd y ddadl, a'r ffigurau a ddyfynnodd, yn tanlinellu graddau sylweddol gweithgarwch y GIG yng Nghymru. Nid yw hynny'n cael ei gyflawni gennyf fi, ac mae hynny'n beth da i bobl Cymru. Caiff ei ddarparu'n uniongyrchol gan ein staff, ac at y staff y mae pobl yn cyfeirio pan fyddant yn sôn am yr hyn y maent yn ei werthfawrogi o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol ac yn wir o fewn ein system gofal cymdeithasol. Mae'n ffaith, wrth gwrs, fod gennym fwy o staff GIG nag erioed o'r blaen, a'u sgiliau, eu profiad a'u gwerthoedd hwy sy'n hanfodol ar gyfer GIG a system gofal cymdeithasol lwyddiannus.
Nawr, mae'r gwahaniaethau sydd gennym yn un peth, ond mae pawb ohonom yn cytuno ein bod am gefnogi ein staff, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod y ffaith honno'n llawn. Dyna pam rydym wedi sicrhau yn 'Cymru Iachach', ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, fod y gweithlu iechyd a gofal yn ganolog i'r ffordd rydym yn disgwyl llunio gwasanaethau yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn yn gweithredu'r nod pedwarplyg a argymhellwyd gan yr adolygiad seneddol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau, gyda'r gweithlu, ein bod yn gwella lles, gallu, ymgysylltiad ac arweinyddiaeth. Mae'r rheini'n rhan o'r pedwar nod cysylltiedig a fydd yn sbarduno'r newidiadau y byddai pawb ohonom am eu gweld, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth yn y dyfodol ynglŷn ag ymagwedd system gyfan tuag at iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
Mae trydedd ran y cynnig yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi strategaeth integredig ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal. O'r blaen, ymrwymais i gynllun hirdymor ar gyfer y gweithlu yn y Siambr hon, ac mae hwnnw bellach wedi ei ymgorffori yn 'Cymru Iachach'. Mae gennym ymrwymiad clir i gyflawni strategaeth integredig ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol erbyn diwedd 2019.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Tybed pam na alloch chi ymrwymo i'w ddarparu erbyn 2019 Ionawr, oherwydd oni bai bod targed go iawn, mae arnaf ofn y gallai lithro?
Mae yna darged go iawn; mae 2019 yn darged go iawn. Rwyf am wneud yn siŵr fod gennym strategaeth ar gyfer y gweithlu o fewn yr amser y gellir ei gyflawni ac yn wir, drwy wneud defnydd priodol o Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Cafodd hwnnw ei sefydlu i arwain ar gynllunio'r gweithlu, a byddant yn gyfrifol am ddatblygu'r strategaeth fel un o'u blaenoriaethau cyntaf. Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dod yn weithredol ym mis Hydref eleni, ac er y bydd yn un o'u hamcanion cyntaf, nid yw'n bosibl cyflawni gwaith mor fanwl a phwysig o fewn tri mis cyntaf eu hoes.
Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ehangu addysg feddygol a thirwedd hyfforddiant yng ngogledd Cymru ac yng ngorllewin Cymru yn wir. Mae gwaith yn mynd rhagddo rhyngof ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ystyried cynigion a gyflwynwyd gan brifysgolion i ddatblygu'r gwaith hwn, a gobeithiaf y bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn y dyfodol agos.
Cydnabu'r adolygiad seneddol, wrth gwrs, mai ffactor allweddol wrth gyflawni iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yw lles ac ymgysylltiad ein staff, ac mae llawer o waith eisoes ar y gweill. Cafodd gogledd Cymru lawer o sylw yn ddiweddar, a llwyddais i dynnu sylw at 20 o raglenni gwaith penodol a wneir ar hyn o bryd gan Betsi Cadwaladr ar lesiant ac ymgysylltiad. Ac mae'r lefel hon o weithgarwch yn cael ei hailadrodd ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yma yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod bod angen inni wneud mwy. Dyna pam rydym wedi ymrwymo yn ein cynllun hirdymor i wneud GIG Cymru yn gyflogwr enghreifftiol yn ei gefnogaeth i lesiant yn y gwaith a gweithlu iach.
Rydym am weld y GIG yn arwain newid yn y maes hwn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn sectorau eraill hefyd, drwy rannu arfer da, canllawiau, hyrwyddo ar-lein, a gwerthuso—a chafwyd camau pellach ymlaen yr wythnos hon, gyda'r cytundeb rhyngom ni, Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru a BMA Cymru, i greu siarter blinder a chyfleusterau ar gyfer meddygon a staff clinigol, gan adeiladu ar y berthynas dda sydd gennym yma yng Nghymru, y cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae wedi cael croeso cynnes gan staff y gwasanaeth.
O ran y galw am weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG, rwyf eisoes wedi gwneud fy safbwynt yn glir yn y Siambr hon o'r blaen: mae angen inni feddwl yn ofalus am y materion sy'n codi pe baem yn penderfynu rhoi mantais i grwpiau o staff o ble bynnag y dônt—y GIG, y gwasanaethau gweinyddol neu ofalwyr—ac ar sail eu gwaith yn hytrach na'u hangen clinigol. Ond fel yr eglurais, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried hyn a'r dull a ddefnyddir mewn rhai rhannau o Loegr, a byddaf yn ystyried y mater ymhellach pan fydd wedi'i gwblhau.
Ond ni allaf adael natur y ddadl hon heb atgoffa pobl yn y Siambr hon, yn enwedig gwleidyddion Ceidwadol, fod problemau pwysau, straen ac ariannu sy'n wynebu ein staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn deillio o effaith wirioneddol cyni. [Torri ar draws.] Mae'r wyth mlynedd o gyni y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu dioddef wedi achosi niwed gwirioneddol. [Torri ar draws.] Peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny. Gofynnwch i staff y rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—[Torri ar draws.]—a byddant yn dweud wrthych. Maent yn deall yn dda iawn o ble y daw cyni. Maent yn deall pa blaid wleidyddol sy'n gyfrifol am y dewis hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, ni wnaf dderbyn ymyriad gan yr Aelod sy'n gwenu gyferbyn â mi, sydd wedi bod yn chwerthin drwy'r ddadl hon ynglŷn â dewisiadau y cynorthwyodd i'w hyrwyddo. Mewn tri etholiad cyffredinol olynol, fe wnaethoch hyrwyddo cyni. [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud dewisiadau i roi mwy o arian tuag at ein gwasanaeth iechyd gwladol, mwy o arian y pen, cyfradd uwch o dwf nag yn Lloegr, ac rydych yn meiddio dweud mai chi yw plaid y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes neb yn ei gredu, nid yw'r bobl yn eich grŵp eich hun hyd yn oed yn ei gredu.
Rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant gan Blaid Cymru. Yn gyntaf, y gwelliant ar addysg feddygol yng ngogledd Cymru, gan fy mod wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw ar sawl achlysur. Yn ail, wrth gwrs, bydd y cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu yn cynnwys camau gweithredu i gynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymraeg eu hiaith. Nawr, wrth gwrs, rydym am hyfforddi a chadw rhagor o staff. Rydym yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn hyfforddiant i staff meddygol ac anfeddygol. Yn ystod yr wyth mlynedd o gyni y bu'n rhaid inni ei ddioddef, y GIG yw'r unig wasanaeth cyhoeddus i gynyddu ei staff, gydag archwaeth a galw parhaus am fwy. Rydym yn dal i wynebu risg wirioneddol i recriwtio gwladolion o'r UE yn enwedig i'n GIG, ac mae'r lleihad yn nifer y nyrsys o'r UE sy'n mynd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn fater o bryder gwirioneddol i bob un ohonom. Mae'n dangos sut y bydd telerau cytundeb Brexit yn hollbwysig i ddyfodol gweithlu ein gwasanaeth iechyd.
Fodd bynnag, rwyf am groesawu'r newid meddwl a'r newid agwedd gan Lywodraeth y DU ar fisâu haen 2 ar gyfer meddygon a nyrsys. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson am newid, ynghyd â bron bob sefydliad sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd a gofal. Rwy'n gobeithio gweld synnwyr cyffredin tebyg yn ein hymagwedd at Brexit a staff y GIG.
Rwyf hefyd am sôn, cyn inni ddathlu pen-blwydd y GIG, fel y nododd Julie James yr wythnos hon, y byddwn yn dathlu Windrush 70 wrth gwrs—cenhedlaeth a gynorthwyodd i ailadeiladu Prydain, cenhedlaeth a gynorthwyodd i greu ein gwasanaeth iechyd gwladol a staffio ein system gofal cymdeithasol, a chenhedlaeth na chafodd ei gwobrwyo'n iawn o gwbl. Rydym yn disgwyl i gamau gael eu rhoi ar waith a chyfiawnder i gael ei ddarparu i genhedlaeth Windrush, ac i addewidion gael eu gwireddu. Ar hyn o bryd, ni allwn fod yn hyderus eu bod wedi cael eu gwireddu.
Wrth i'r GIG nodi ei ben-blwydd yn 70 oed, gwyddom fod angen trawsnewid y gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn diwallu anghenion a galwadau heddiw, ond bydd un peth yn parhau, fel y mae bob amser wedi gwneud dros y 70 mlynedd diwethaf: bydd y GIG yn parhau i gael ei ddarparu gan bobl sy'n angerddol, yn ymroddedig ac yn ddawnus. Ein dyletswydd i bob un ohonynt ac i boblogaeth ehangach Cymru yw eu cynorthwyo a'u gwerthfawrogi hwy a'u cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn y ffordd orau sy'n bosibl. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid gwelliant y Llywodraeth a'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth unedig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Wel, diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu, ac i Angela Burns am agor y ddadl—ei theyrnged i gyfraniad aruthrol y gweithlu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wrth nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG. Fel y dywedodd, nid yw hyd yn oed y GIG tu hwnt i her a gwelliant. Dywedodd Caroline Jones fod y sefyllfa'n cael ei gwneud yn waeth gan ddiffyg cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan roi'r gweithlu dan straen sylweddol. Galwodd Rhun ap Iorwerth yn briodol am i addysg feddygol gael ei darparu ym Mangor. Hoffwn ychwanegu ein bod angen gweld gweithredu'n digwydd hefyd ar y galw gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru i ymgorffori cysylltiadau gydag ysgolion meddygol Lerpwl a Manceinion, ac adfer y cyflenwad o feddygon newydd ac ifanc oddi yno, a bydd llawer ohonynt yn dod o ogledd Cymru'n wreiddiol. Clywsom ganddo am ddirmyg Llywodraeth Cymru yn peidio â chyhoeddi nifer y siaradwyr Cymraeg yn y GIG, a nododd mai gan Gymru y mae'r lefel isaf o leoedd hyfforddi meddygon teulu fesul 100,000 o gleifion o blith holl wledydd y DU.
Dywedodd Suzy Davies ein bod yn colli gweithwyr gofal. Mae angen inni wybod faint sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae angen inni ddangos bod gwerth cyfartal i yrfaoedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar gyfer arweinyddiaeth a gwasanaethau integredig. Dr Dai Lloyd—mae angen yr un lefel o barch i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal fel y GIG, a soniodd am y pwysau ar feddygon iau a'r perygl o'u colli os nad awn i'r afael â hynny. Mohammad Asghar—y pwysau yn sgil cynnydd yn niferoedd cleifion a phoblogaeth sy'n heneiddio, a soniodd am bwysigrwydd gwasanaeth iechyd sydd ar gael am ddim i bawb a'n GIG yn destun eiddigedd drwy'r byd, a dathlodd y ffaith bod Llywodraeth y DU yn llacio rheolau mewnfudo er mwyn recriwtio a chadw meddygon a nyrsys.
Soniodd Mark Reckless wrthym am ei gysylltiadau teuluol, a'i fod yn hanu o deulu o feddygon a nyrsys, soniodd am gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd mewn termau real o 3.4 y cant yn y cyllid ar gyfer y GIG bob blwyddyn, sy'n cymharu â'r 2.2 y cant yr ymrwymodd y Blaid Lafur iddo yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU. Mae'n cyfateb i £1.2 biliwn yn fwy i Lywodraeth Cymru, felly mae angen inni weld ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi hynny yn ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfuniad arferol o'r un hen 'weledigaeth hirdymor' ac 'rydym eisiau gweld'. Nid wyf am drafod cyni y tu hwnt i nodi mai Cymru o dan y Blaid Lafur yw'r unig wlad yn y DU i weld gostyngiad mewn termau real yn y gwariant adnabyddadwy ar iechyd. Chi a achosodd y cyni, byddai eich polisïau yn ei wneud yn waeth, ond hyd yn oed gyda'r arian rydych wedi'i gael, chi yw'r unig Lywodraeth yn y DU i fod wedi torri cyllid y GIG mewn termau real.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym fod bron un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru dan gymaint o straen nes eu bod yn teimlo na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. Cafwyd cynnydd yn nifer y gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, ond mae 9 y cant o'r holl swyddi gweithwyr cymdeithasol yn wag, ffigur sy'n cynyddu bob blwyddyn. Mae ffigurau diweddaraf y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn dweud, er bod y nifer ar y gofrestr nyrsys a bydwragedd ar y lefel uchaf ers pum mlynedd, mae'r nifer sy'n gadael y gofrestr yn uwch na'r nifer sy'n ymuno.
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Maent yn dweud bod yna 3,000 o swyddi'n wag, gan gynnwys y rhai yn y sector gofal annibynnol a'r sector meddygfeydd meddygon teulu.
Felly, rwy'n galw arnoch i gefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio, ac rwy'n gresynu, fel Angela, at y ffaith fod mis Ionawr wedi cael ei ddileu cyn 2019 yng ngwelliant Llywodraeth Cymru yn galw am strategaeth integredig ar gyfer ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae arnom angen ymrwymiad clir, a gobeithio ein bod wedi ei glywed gan y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet, fod hynny'n golygu eich bod yn gwarantu y ceir cynllun y flwyddyn nesaf. Diolch.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.