Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 20 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn yn dangos ymhellach yr angen am ddefnyddio arferion lles ac iechyd mwy effeithiol ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n eironig, onid yw, fod proffesiwn sy'n gofalu am bobl sâl yn ei chael hi mor anodd i gadw ei staff ei hun yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Rwy'n credu bod achos da iawn dros sicrhau bod staff y GIG yn cael mynediad cyflym at driniaeth ac adsefydlu. Dangosodd cyhoeddiad gan NHS Employers ym mis Ionawr 2016 yr achos dros fynediad cyflym yn eglur, gan ddweud y bydd yn cyfrannu at arbedion sylweddol i'r GIG, bydd yn arwain at weithlu mwy cyson ac iach, ac at well gofal i gleifion, ac yn lleihau'r pwysau ar gydweithwyr sy'n deillio o absenoldeb oherwydd salwch. Roeddent hefyd yn pwysleisio na fydd yn blaenoriaethu anghenion iechyd staff y GIG ar draul cleifion eraill, ond y bydd mantais sefydliadol cynllun o'r fath yn arwain at ostyngiad yn y galw am staff asiantaeth a llai o absenoldeb oherwydd salwch lefel isel.
Mae yna nifer o ffyrdd y gellir gweithredu mynediad cyflym, ac anogaf Lywodraeth Cymru i edrych ar hyn. Roedd papur NHS Employers ar y mater yn tynnu sylw at ambell astudiaeth achos. Ysbyty prifysgol Southampton—cynhaliodd y tîm adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol gynllun dychwelyd i iechyd, sy'n cynnig pecyn gofal wedi'i deilwra i weithwyr, o driniaeth ac ymgyngoriadau personol i ofal dilynol a chymorth parhaus. Helpodd y prosiect i leihau effeithiau andwyol salwch hirdymor ar staff iechyd a lles ac ar gyllid, a chreodd wasanaeth personol lle roedd y cyflogeion yn teimlo eu bod yn cael gofal. Gwelwyd manteision i'r sefydliad ar ffurf gostyngiad yn y cyfraddau absenoldeb cyffredinol, i lawr i 3.1 cant o dros 4.5 y cant, a 26 y cant yn y gostyngiad yn y costau asiantaeth. Dychmygwch faint y byddai'r GIG yn ei arbed yng Nghymru pe bai ein costau asiantaeth yn gostwng 26 y cant.
Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Prifysgol Colchester—fe wnaethant gyflwyno system frysbennu'n edrych ar gefnogi staff sy'n absennol oherwydd salwch, a oedd hefyd yn gostwng lefelau absenoldeb. Pan fo unigolyn yn rhoi gwybod ei fod yn sâl, mae eu rheolwr llinell yn cysylltu â'r adran iechyd galwedigaethol a lles gyda manylion yr absenoldeb. Mae'r adran honno'n cynnal galwad ffôn pump i 10 munud gyda'r aelod o staff i sefydlu a oes angen unrhyw gefnogaeth a'u cyfeirio at adnoddau perthnasol. Mae hyn wedi arwain at nodi cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrysgerbydol ar y diwrnod cyntaf, gan alluogi cymorth cynnar ac ymyrraeth i gefnogi staff. Felly, yn dilyn ei gyflwyno fesul cam, dyma oedd y canfyddiadau: materion iechyd meddwl—dychwelodd 71.5 y cant o'r staff i'r gwaith o fewn pedair wythnos. Cymharwch hynny â cholli dros 900 niwrnod y flwyddyn fel y gwnawn ni. Anhwylderau cyhyrysgerbydol—cafwyd cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau at ffisiotherapi, ond roedd 53 y cant wedi aros yn y gwaith, 21.5 y cant wedi dychwelyd i'r gwaith o fewn wyth niwrnod, a 15 y cant arall wedi dychwelyd i'r gwaith rhwng naw a 14 o ddiwrnodau. Mae hynny o ddifrif yn dangos y budd o ofalu am y bobl sy'n gofalu amdanom ni.
Mae'r ddwy astudiaeth yn gwneud achos argyhoeddiadol dros ben, ac mae hefyd yn werth ystyried, os nad ydym yn sicrhau ein bod yn cadw llygad ar gynlluniau fel hyn ar draws y ffin, y byddwn yn ei chael hi'n fwyfwy anodd denu staff i weithio yn ein GIG heddiw. Dyna pam yr wyf mor siomedig fod UKIP a Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr elfen hon o'n cynnig.
Un agwedd olaf yr hoffwn fynd i'r afael â hi yw'r angen i wella cynllunio'r gweithlu. Dangosodd canfyddiadau o gais rhyddid gwybodaeth y Ceidwadwyr Cymreig fod y GIG yng Nghymru yn colli nyrsys rif y gwlith. Roedd y byrddau iechyd a roddodd ffigurau i ni—cafwyd diffyg cyfunol o 797 o nyrsys yn y cyfnod o dair blynedd rhwng 2015 a 2017, ac ers hynny, mae niferoedd pellach wedi dod i mewn sydd wedi dangos hwnnw fel cynnydd, ac rwy'n hapus iawn i ddarparu'r rheini i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Ynghyd â'r niferoedd hyn sy'n peri pryder, gwerir swm enfawr o arian ar draws y wlad ar staff asiantaeth. Mae ffigurau diweddaraf ar gyfer 2017 yn nodi ei fod yn £54 miliwn. Yn wir, mae'n £55 miliwn, oherwydd mae'n £54.9 miliwn, ac mae'n arwydd o'r anawsterau y mae byrddau iechyd yn eu cael yn cyflogi staff nyrsio amser llawn eu hunain. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Cymdeithas Feddygol Prydain ffigurau a ddangosai fod byrddau iechyd wedi gwario £29 miliwn ar oramser i feddygon ymgynghorol a darparwyr preifat. Dangosodd Ymchwil Canser sut y mae prinder staff yn cael effaith aruthrol ar ddarparu triniaeth ganser o'r radd flaenaf. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn i gyd yn dangos ein bod angen y staff. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r prinder, ond nid yw'n ymddangos eich bod yn tynnu hynny at ei gilydd mewn system integredig a fyddai'n arbed arian inni, a rhoi pobl dda yn y man iawn ar yr adeg iawn i ddarparu GIG a fydd yn parhau'n hwy na 70 mlynedd.
Ymarfer cyffredinol—rwyf am orffen gydag ymarfer cyffredinol. Mae'n hanfodol, yn gyfan gwbl hanfodol, er mwyn cyflawni'r model gofal iechyd a amlinellwyd gennych yn 'Cymru Iachach', eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac mae'n hanfodol fod strategaeth yn cael ei datblygu i hybu nifer y meddygon teulu a nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd. Mae gennym weithlu sy'n heneiddio mewn gofal sylfaenol, fel y dengys ffigurau gan Gydffederasiwn y GIG, a nododd fod mwy na 45 y cant o weithwyr y GIG yng Nghymru yn 45 oed neu'n hŷn ar hyn o bryd. Mae pobl yn ymddeol; nid oes digon o recriwtiaid yn dod i gymryd eu lle.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno neu fel arall bydd y person sy'n cloi yn ddig wrthyf, ond hoffwn wneud y pwynt hwn unwaith eto: heb gynllun integredig ar gyfer y gweithlu iechyd sy'n ymgorffori gofal cymdeithasol, cynllun sy'n edrych o ddifrif ar ffyrdd gwych o gadw pobl ac sy'n gwerthfawrogi ein pobl, nid ydym yn mynd i fod mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth GIG da. Hoffwn eich annog yn gryf i edrych ar y systemau gofal cyflym a geir o gwmpas y byd. Fe'ch gadawaf gyda'r ffigur diwethaf hwnnw: collir dros 900 mlynedd o waith oherwydd problemau iechyd meddwl. Gwyddom am y straen sydd ar ein staff. Os gallwn gael y staff sydd gennym yn iach ac yn ôl i'r gwaith, bydd hynny ynddo'i hun yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gyflwr ein GIG.