Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, Caroline Jones. Rydych wedi disgrifio'r achos yn eithriadol o dda dros pam y mae gennym y fath brinder mawr ym mhob man, a dyna pam—ac rwy'n mynd i ddarllen y ffigur eto—y collir 948 o flynyddoedd oherwydd salwch meddwl. O na bai rhai o'r bobl hynny'n cael eu dychwelyd i'r gweithlu yn gynt, yn hytrach na gorfod recriwtio pobl. Ni allwn eu creu o ddim byd. Maent yno i ni; gadewch i ni eu gwneud yn iach, gadewch i ni eu cael i weithio.