Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 20 Mehefin 2018.
Mi soniaf i am y ddau welliant. Nid oes syrpreisys yn y gwelliannau, mae'n deg i ddweud, ac rwy'n ymddiheuro dim am hynny, oherwydd ni fyddwn ni'n gallu darparu'r NHS rydym ni ei eisiau oni bai ein bod ni yn sefydlu canolfan addysg feddygol ym Mangor ac ehangu lleoliadau hyfforddi ledled Cymru. Y gwelliant arall: nid ydym ni'n mynd i allu darparu'r gofal a'r gwasanaeth iechyd rydym ni ei eisiau oni bai ein bod ni'n cydnabod nad yw gwasanaethau yn y Gymraeg ddim yn rhyw ddewis ychwanegol a all gael ei ohirio tan y dyfodol chwedlonol hwnnw pan mae yna hen ddigon o adnoddau, ond yn hytrach ei fod yn rhan hanfodol o gyflwyno gofal clinigol diogel heddiw.
Fe wnaf i ddechrau efo'r pwynt yna. Mae yna ryw syniad allan yna, wyddoch chi, o hyd fod mwyafrif llethol pobl Cymru'n gallu siarad Saesneg, ac oherwydd hynny nad oes gwahaniaeth a ydyn nhw'n siarad efo'u meddyg neu nyrs yn Gymraeg neu Saesneg. Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi sôn am fwy nag un bwrdd iechyd yn cyfeirio at y ffaith fod rhai o'u staff yn ei chael hi'n anodd deall yr angen i ddarparu ac i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, pan fod eu canfyddiad yn un o ddiffyg galw amlwg am wasanaethau gan y cyhoedd. Mae llawer o'r byrddau iechyd eu hunain ag agwedd niwtral tuag at hyn, ac mae hyn ynddo'i hun yn broblemus. Er nad yw'n elyniaethus, mae ystyried y Saesneg fel jest y norm—yr iaith default—yn rhwystr i weithredu rhagweithiol wrth chwilio am atebion i anghenion ieithyddol.
Mae gallu i ddisgrifio symptomau yn gywir yn helpu diagnosis cywir. Mae disgrifio symptomau mewn iaith gyntaf yn ei gwneud hi'n haws i roi disgrifiad cywir, fel yr wyf yn gwybod y byddai Dai Lloyd yn ei gadarnhau fel meddyg teulu. Mae'n mynd yn fwy ac yn fwy amlwg pan rŷch chi'n sôn am bobl ifanc ac am blant, ac am bobl efo dementia, anableddau dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Felly, nid yw recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg, a darparu gwasanaethau dwyieithog, ddim yn rhywbeth ddylai gael ei weld fel rhyw dicio bocs oherwydd bod y bobl niwsans yna yn Plaid Cymru wedi gallu dylanwadu ar Lywodraeth unwaith—mae'n rhywbeth i'w wneud am fod cleifion bregus yn gallu marw os na wnewch chi. Mae yna dal arwyddion o ddirmyg, rwy'n ofni. Nid yw Llywodraeth Cymru ddim hyd yn oed yn meddwl bod angen trafferthu i gyhoeddi nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr NHS, ac eithrio nifer y meddygon teulu—mae'r rheini'n cael eu rhifo. Felly, nid oes gennym ni syniad yn lle mae'r bylchau a beth ydy'r tueddiadau ac yn y blaen. [Torri ar draws.]