Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 20 Mehefin 2018.
Mae yna darged go iawn; mae 2019 yn darged go iawn. Rwyf am wneud yn siŵr fod gennym strategaeth ar gyfer y gweithlu o fewn yr amser y gellir ei gyflawni ac yn wir, drwy wneud defnydd priodol o Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Cafodd hwnnw ei sefydlu i arwain ar gynllunio'r gweithlu, a byddant yn gyfrifol am ddatblygu'r strategaeth fel un o'u blaenoriaethau cyntaf. Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dod yn weithredol ym mis Hydref eleni, ac er y bydd yn un o'u hamcanion cyntaf, nid yw'n bosibl cyflawni gwaith mor fanwl a phwysig o fewn tri mis cyntaf eu hoes.
Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ehangu addysg feddygol a thirwedd hyfforddiant yng ngogledd Cymru ac yng ngorllewin Cymru yn wir. Mae gwaith yn mynd rhagddo rhyngof ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ystyried cynigion a gyflwynwyd gan brifysgolion i ddatblygu'r gwaith hwn, a gobeithiaf y bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn y dyfodol agos.
Cydnabu'r adolygiad seneddol, wrth gwrs, mai ffactor allweddol wrth gyflawni iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yw lles ac ymgysylltiad ein staff, ac mae llawer o waith eisoes ar y gweill. Cafodd gogledd Cymru lawer o sylw yn ddiweddar, a llwyddais i dynnu sylw at 20 o raglenni gwaith penodol a wneir ar hyn o bryd gan Betsi Cadwaladr ar lesiant ac ymgysylltiad. Ac mae'r lefel hon o weithgarwch yn cael ei hailadrodd ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yma yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod bod angen inni wneud mwy. Dyna pam rydym wedi ymrwymo yn ein cynllun hirdymor i wneud GIG Cymru yn gyflogwr enghreifftiol yn ei gefnogaeth i lesiant yn y gwaith a gweithlu iach.
Rydym am weld y GIG yn arwain newid yn y maes hwn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn sectorau eraill hefyd, drwy rannu arfer da, canllawiau, hyrwyddo ar-lein, a gwerthuso—a chafwyd camau pellach ymlaen yr wythnos hon, gyda'r cytundeb rhyngom ni, Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru a BMA Cymru, i greu siarter blinder a chyfleusterau ar gyfer meddygon a staff clinigol, gan adeiladu ar y berthynas dda sydd gennym yma yng Nghymru, y cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae wedi cael croeso cynnes gan staff y gwasanaeth.
O ran y galw am weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG, rwyf eisoes wedi gwneud fy safbwynt yn glir yn y Siambr hon o'r blaen: mae angen inni feddwl yn ofalus am y materion sy'n codi pe baem yn penderfynu rhoi mantais i grwpiau o staff o ble bynnag y dônt—y GIG, y gwasanaethau gweinyddol neu ofalwyr—ac ar sail eu gwaith yn hytrach na'u hangen clinigol. Ond fel yr eglurais, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried hyn a'r dull a ddefnyddir mewn rhai rhannau o Loegr, a byddaf yn ystyried y mater ymhellach pan fydd wedi'i gwblhau.
Ond ni allaf adael natur y ddadl hon heb atgoffa pobl yn y Siambr hon, yn enwedig gwleidyddion Ceidwadol, fod problemau pwysau, straen ac ariannu sy'n wynebu ein staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn deillio o effaith wirioneddol cyni. [Torri ar draws.] Mae'r wyth mlynedd o gyni y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu dioddef wedi achosi niwed gwirioneddol. [Torri ar draws.] Peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny. Gofynnwch i staff y rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—[Torri ar draws.]—a byddant yn dweud wrthych. Maent yn deall yn dda iawn o ble y daw cyni. Maent yn deall pa blaid wleidyddol sy'n gyfrifol am y dewis hwnnw.