8. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:06, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Na, ni wnaf dderbyn ymyriad gan yr Aelod sy'n gwenu gyferbyn â mi, sydd wedi bod yn chwerthin drwy'r ddadl hon ynglŷn â dewisiadau y cynorthwyodd i'w hyrwyddo. Mewn tri etholiad cyffredinol olynol, fe wnaethoch hyrwyddo cyni. [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud dewisiadau i roi mwy o arian tuag at ein gwasanaeth iechyd gwladol, mwy o arian y pen, cyfradd uwch o dwf nag yn Lloegr, ac rydych yn meiddio dweud mai chi yw plaid y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes neb yn ei gredu, nid yw'r bobl yn eich grŵp eich hun hyd yn oed yn ei gredu.

Rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant gan Blaid Cymru. Yn gyntaf, y gwelliant ar addysg feddygol yng ngogledd Cymru, gan fy mod wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw ar sawl achlysur. Yn ail, wrth gwrs, bydd y cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu yn cynnwys camau gweithredu i gynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymraeg eu hiaith. Nawr, wrth gwrs, rydym am hyfforddi a chadw rhagor o staff. Rydym yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn hyfforddiant i staff meddygol ac anfeddygol. Yn ystod yr wyth mlynedd o gyni y bu'n rhaid inni ei ddioddef, y GIG yw'r unig wasanaeth cyhoeddus i gynyddu ei staff, gydag archwaeth a galw parhaus am fwy. Rydym yn dal i wynebu risg wirioneddol i recriwtio gwladolion o'r UE yn enwedig i'n GIG, ac mae'r lleihad yn nifer y nyrsys o'r UE sy'n mynd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn fater o bryder gwirioneddol i bob un ohonom. Mae'n dangos sut y bydd telerau cytundeb Brexit yn hollbwysig i ddyfodol gweithlu ein gwasanaeth iechyd.

Fodd bynnag, rwyf am groesawu'r newid meddwl a'r newid agwedd gan Lywodraeth y DU ar fisâu haen 2 ar gyfer meddygon a nyrsys. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson am newid, ynghyd â bron bob sefydliad sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd a gofal. Rwy'n gobeithio gweld synnwyr cyffredin tebyg yn ein hymagwedd at Brexit a staff y GIG.

Rwyf hefyd am sôn, cyn inni ddathlu pen-blwydd y GIG, fel y nododd Julie James yr wythnos hon, y byddwn yn dathlu Windrush 70 wrth gwrs—cenhedlaeth a gynorthwyodd i ailadeiladu Prydain, cenhedlaeth a gynorthwyodd i greu ein gwasanaeth iechyd gwladol a staffio ein system gofal cymdeithasol, a chenhedlaeth na chafodd ei gwobrwyo'n iawn o gwbl. Rydym yn disgwyl i gamau gael eu rhoi ar waith a chyfiawnder i gael ei ddarparu i genhedlaeth Windrush, ac i addewidion gael eu gwireddu. Ar hyn o bryd, ni allwn fod yn hyderus eu bod wedi cael eu gwireddu.

Wrth i'r GIG nodi ei ben-blwydd yn 70 oed, gwyddom fod angen trawsnewid y gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn diwallu anghenion a galwadau heddiw, ond bydd un peth yn parhau, fel y mae bob amser wedi gwneud dros y 70 mlynedd diwethaf: bydd y GIG yn parhau i gael ei ddarparu gan bobl sy'n angerddol, yn ymroddedig ac yn ddawnus. Ein dyletswydd i bob un ohonynt ac i boblogaeth ehangach Cymru yw eu cynorthwyo a'u gwerthfawrogi hwy a'u cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn y ffordd orau sy'n bosibl. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid gwelliant y Llywodraeth a'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth unedig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.