Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 26 Mehefin 2018.
Fe allaf i ddweud wrth yr Aelod fod rheoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cael eu newid yn ddiweddar er mwyn sicrhau ffenest ynglŷn â gwneud taliadau. Bydd hynny'n meddwl y bydd taliadau Glastir yn cael eu gwneud rhwng 1 Rhagfyr eleni a 30 Mehefin y flwyddyn nesaf. Felly, am y tro cyntaf, bydd yna ffenest, ac yn y ffenest hynny bydd ffermwyr yn gallu erfyn taliadau.