Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 26 Mehefin 2018.
Diolch am yr ateb yna. Rydw i wedi siarad â nifer o ffermwyr a chynrychiolwyr sydd wedi bod yn rhoi cymorth iddyn nhw i wneud ceisiadau am grantiau bach Glastir, a hynny yn sgil pryderon bod taliadau yn hir yn dod. Rŵan, yr ymateb rydw i wedi ei gael gan y Llywodraeth ydy nad ydy’r taliadau’n hwyr, ac, yn dechnegol, mae hynny’n gywir, oherwydd nid oes amser yn cael ei osod o ran faint o amser ar ôl gwneud cais y mae taliadau i fod i gael eu gwneud. Rŵan, o ystyried, yn enwedig ar ôl gaeaf caled iawn, fod llif arian yn bwysig i ffermwyr, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, ystyried cyflwyno canllaw ar gyfer gosod amserlen lle y gall ffermwr ddisgwyl cael taliad lle'r oedd yn llwyddiannus yn gwneud cais?