Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 26 Mehefin 2018.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu data yn rheolaidd ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys sy’n ymwneud â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Fodd bynnag, mae gwybodaeth o gronfa ddata cyfnodau gofal cleifion Cymru yn dangos y cafwyd 5,044 o dderbyniadau yn 2015 a 4,768 o dderbyniadau yn 2016—gostyngiad, felly, o 5.5%.