Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 26 Mehefin 2018

Mae yna lwybr newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd er mwyn helpu pobl gyda COPD i ystyried gweithgareddau ynglŷn ag ymarfer er mwyn iddynt allu rheoli'r cyflwr maen nhw'n ffeindio'u hunain ynddo. Mae hynny'n meddwl ystyried cyrsiau er mwyn helpu pobl i gael yr ymarfer sydd ei eisiau arnyn nhw, pobl i'w dysgu nhw sut i ymarfer hefyd ac, wrth gwrs, eu hybu nhw ynglŷn â sicrhau eu bod nhw'n edrych ar ffyrdd newydd i ddelio gyda'r clwy sydd gyda nhw, yn lle eu bod nhw'n teimlo drwy'r amser bod rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty. So, dyna lle rwy'n credu mae'n rhaid i'r gwaith ddigwydd.