Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 26 Mehefin 2018.
Mae'r Aelod yn iawn. Y drafferth, wrth gwrs, yw dod o hyd i amser ar gyfer deddfwriaeth yn yr hyn sy'n rhaglen ddeddfwriaethol lawn iawn. Nid yw hynny'n golygu na ddylem ni wneud dim, wrth gwrs, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod bod dulliau eraill ar gael i ni er mwyn lleihau gamblo problemus. Gallaf sicrhau'r Aelod bod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei adroddiad blynyddol ac mae'r grŵp traws-lywodraethol wrthi'n eu hystyried ar hyn o bryd, yn sicr fel cam cyntaf o ymdrin â gamblo problemus ac rydym ni'n awyddus i weithio gyda'r Prif Swyddog Meddygol er mwyn datrys y broblem.