Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 26 Mehefin 2018.
Yr hyn yr wyf i wedi ei ganfod dros y blynyddoedd yw bod y syniadau gorau yn dod gan unigolyn yn aml iawn—unigolyn a allai weld yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal leol, gan lunio'r hyn y mae'n ei weld fel enghraifft ymarferol sy'n gallu helpu pobl. Mae'n bwysig dros ben y gellir lledaenu'r arfer hwnnw. Byddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd edrych ar arferion arloesol mewn rhannau eraill o Gymru. Byddaf, fodd bynnag, yn gofyn i'r ysgrifennydd iechyd ysgrifennu atoch chi hefyd gyda'i syniadau ynglŷn â sut y gellid bwrw ymlaen â hyn.