1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2018.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi hydrogen yng Nghymru? OAQ52431
Mae potensial mawr gyda hydrogen i chwarae rôl bwysig yn ein heconomi, gan ei fod yn ddefnyddiol o ran gwres, pŵer a thrafnidiaeth. Mae nifer o fentrau Llywodraeth Cymru yn edrych ar y cyfleoedd i ddefnyddio hydrogen yng Nghymru i wella ein dealltwriaeth o'i botensial.
Diolch am yr ateb, ond, wyth mlynedd yn ôl, fe gyhoeddodd Peter Hain a Jane Davidson y byddai'r M4 yn dod yn briffordd hydrogen i Gymru, a byddai, erbyn hyn—ers dwy flynedd, a dweud y gwir—restr o lefydd i storio hydrogen, i ddefnyddio hydrogen, fel rhan o drafnidiaeth a oedd yn cael ei datgarboneiddio. Nid ŷm ni wedi gweld y freuddwyd yna wedi'i gwireddu ac nid ŷm ni wedi gweld nemor ddim yn symud ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu potensial hydrogen. Rŷm ni newydd fod yn trafod, drwy'r bore yma, datgarboneiddio economi Cymru. Dyma dechnoleg a ddyfeisiwyd yng Nghymru, lle mae yna ymchwil, ar hyn o bryd, yn digwydd ym Maglan a llefydd tebyg, lle mae yna gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru nid yn unig i arwain yng Nghymru, ond i arwain yn rhyngwladol. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle yma i fod, fel y dywedoch chi wrth Leanne Wood, yn bold and brave?
Mi ydym ni. Mae yna grŵp cyfeirio wedi cael ei sefydlu er mwyn arwain y ffordd rŷm ni'n meddwl ynglŷn â hydrogen yn y pen draw. Rŷm ni wedi bod yn sicrhau bod yna adnoddau ar gael er mwyn dangos fel y bydd y dechnoleg yn gweithio. Mi wnaethom ni gomisiynu astudiaeth i edrych ar gyfleoedd hydrogen yn Rhondda Cynon Taf ddwy flynedd yn ôl ac mae argymhellion yr adroddiad hwnnw yn cael eu hystyried ar hyn o bryd er mwyn gweld sut y byddan nhw'n gweithio. Rŷm ni'n helpu Cyngor Sir Fynwy, er enghraifft, i edrych ar gyfleon i adeiladu ar Riversimple, sef cais sy'n cymryd lle yn eu hardal nhw ynglŷn ag edrych ar danwydd cynaliadwy, a hefyd, wrth gwrs, gweld fel y bydd hynny'n digwydd. Mae £2 miliwn wedi cael ei roi i Riversimple. Mae hynny'n dangos, wrth gwrs, ein cefnogaeth ni o ran cefnogi'r economi carbon isel lleol. Ac, wrth gwrs, rŷm ni hefyd yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro a phorthladd Aberdaugleddau er mwyn datblygu ardal sero-garbon yn ardal Aberdaugleddau. So, mae sawl peth wedi cael eu cefnogi lan at nawr ac, wrth gwrs, mae llawer o botensial ar gael gyda'r gwaith ymchwil hefyd. Mae rhaglen Sêr Cymru yn cyllido gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ynglŷn â thanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau ac mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn edrych ar waith ymchwil ynglŷn â thechnoleg i greu hydrogen gwyrdd yn y pen draw.
Brif Weinidog, mynegwyd pryderon gan rai ein bod ni efallai'n rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged drydan a'r fasged drydaneiddio o ran rheilffyrdd a cheir, ar yr union adeg pan fo rhai gwledydd yn symud yn gyflym tuag at economi hydrogen. Rwy'n amau, dros y tymor canolig, mai cymysgedd o'r ddau fydd yn darparu'r gostyngiadau carbon sydd eu hangen arnom ni. A wnewch chi addo y gwnewch chi edrych, yn y lle cyntaf, ar archwilio'r potensial ar gyfer tanwydd hydrogen ar gludwyr nwyddau, rheilffyrdd a bysiau? Rwy'n credu mai Simon Thomas gyfeiriodd at yr M4 fel priffordd hydrogen bosibl. A chan edrych y tu hwnt i hynny, yn amlwg, rydym ni'n mynd ar drywydd cerbydau trydan ar hyn o bryd. Roedd pob math o broblemau gyda darparu pwyntiau gwefru trydan yn nyddiau cynnar ceir trydan, a cheir rhai problemau o hyd yn hynny o beth. Yn y dyfodol, efallai y bydd ceir hydrogen yn llawer mwy o realiti. A ydych chi wedi gwneud unrhyw waith rhagarweiniol o ran datblygu ein priffyrdd, datblygu'r seilwaith ar gyfer dyfodol hydrogen posibl, nid yn unig yn achos trenau a bysiau, ond yn achos ceir hefyd?
Os cofiaf yn iawn, dyfeisiwyd y gell tanwydd hydrogen yng Nghymru. Felly, mewn rhai ffyrdd, rydym ni wedi achub y blaen yn hynny o beth ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i fod ar flaen y gad o ran y dechnoleg hon. Ystyriwyd y dewis o dechnoleg hydrogen gennym gyda'r cynigwyr trenau yn ystod y broses gaffael. Nid oedd hynny'n rhywbeth y gallem ni fwrw ymlaen ag ef ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i edrych ar sut y gall y rhwydwaith arloesi yn y dyfodol. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar y gwaith ymchwil y cyfeiriais i ato'n gynharach—y gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd—yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu hydrogen yn y dyfodol hefyd, mae'n hynod bwysig i ni fod ar flaen y gad yng Nghymru o ran yr ymchwil gwyddonol. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwych ar gael, yn y dyfodol, o ran datblygu hydrogen fel tanwydd, a bydd ef yn ymwybodol, wrth gwrs, o Riversimple, yr arbrawf a gynhaliwyd yn sir Fynwy. Unwaith eto, mae'n gwestiwn o gefnogi'r gwaith ymchwil a chefnogi'r arbrofion i symud y dechnoleg yn ei blaen, a byddwn yn parhau i wneud hynny.