Gamblo Cymhellol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:18, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o glywed, Brif Weinidog, eich bod chi'n ymwybodol o'r peryglon enfawr sy'n deillio o gysylltu gamblo â chwaraeon. Gallwch gefnogi eich tîm heb orfod gosod bet, ond yn amlwg gwthiwyd y syniad yma i blant bod un yn mynd law yn llaw â'r llall.

Beth yw'r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth i newid y meini prawf cynllunio ar gyfer siopau betio fel bod ganddyn nhw gategori penodol, ac mae hynny'n golygu y gallwn ni reoli nifer y siopau betio newydd yn gadarn a sicrhau nad yw busnesau eraill sy'n cau yn cael eu troi'n siopau betio wedyn?