Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 26 Mehefin 2018.
Gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Dywedaf ar y dechrau fy mod yn gwybod bod Ceidwadwyr da yn San Steffan hefyd, sydd, fel yr Aelod, hefyd yn bryderus am ddyfodol Airbus. Rwy’n credu, yn seiliedig ar y sylwadau y mae Stephen Crabb a Guto Bebb wedi eu gwneud yn ddiweddar, bod gennym ni seneddwyr Ceidwadol sydd yno i eiriol dros Airbus. Ac er na chafodd hyn sylw ar Radio 4 pan roddais y cyfweliad, fe wnes i bwysleisio'r achos dros ddod â Stephen Crabb yn ôl i'r Llywodraeth a throi Boris Johnson o’r adeilad.
Er mwyn taro’r fargen orau bosibl i Brydain, y peth cyntaf y mae’n rhaid i Theresa May ei wneud yw lliniaru ei safbwyntiau a’i rhyddhau ei hun o'r gefynnau y mae pobl fel Boris Johnson a Jacob Rees-Mogg wedi eu rhoi arni. Mae Prif Weinidog Cymru, rwy'n credu, wedi cyhoeddi datganiad ar ôl trafodaethau a fu yn ystod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ond byddwn yn hapus i sicrhau bod y datganiad hwnnw’n cael ei rannu gyda'r Aelodau unwaith eto. Roedd y trafodaethau a gynhaliwyd, rwy'n credu, yn Guernsey yn cynnwys y cyhoeddiad gan Airbus a’r ymateb gan Brif Weinidog Cymru, a hefyd y datganiad ar y cyd gan Brif Weinidogion Cymru a'r Alban.
I roi Brexit o'r neilltu am eiliad, mae'r Aelod yn hollol iawn y gall, a bod rhaid i, Lywodraeth Cymru chwarae rhan i sicrhau bod yr amodau cywir yn cael eu creu ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, nid yn unig o fewn y sector awyrofod, ond mewn sectorau eraill ledled yr economi hefyd. O'n rhan ni, roeddwn yn benderfynol gryn amser yn ôl—a dyma pam y gwnaethom ei gynnwys ym maniffesto Llafur Cymru rai blynyddoedd yn ôl—i sicrhau ein bod ni’n creu adenydd y dyfodol. Dyma yw dyfodol prosesau gweithgynhyrchu cyfansoddion Airbus. Os na chawn ni adenydd y dyfodol, bydd hi’n llawer anoddach sicrhau bod gan safle Brychdyn ddyfodol hyfyw, hirdymor.
Er mwyn sicrhau prototeip adenydd y dyfodol, fe wnaethom ni benderfynu buddsoddi yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch. Mae hyn yn seiliedig ar fodel llwyddiannus y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ger Sheffield. Roedd yn gynnig a gafodd ei hybu hefyd gan Aelodau Plaid Cymru, gan gynnwys Steffan Lewis. Ychydig fisoedd yn ôl, torrais y dywarchen yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch. Mae hwn yn gyfleuster hollbwysig a fydd yn caniatáu datblygu prototeipiau adenydd y dyfodol yng Nghymru. Iawn, efallai mai dim ond £20 miliwn ydoedd, sydd, o'i gymharu â buddsoddiadau y mae Airbus yn eu gwneud yn rheolaidd iawn, yn swm bach, ond bydd ein cyfraniad o £20 miliwn yn arwain at gynnydd yng ngwerth ychwanegol crynswth yr ardal o tua £4 biliwn dros yr 20 mlynedd nesaf. Ac os cawn ni’r fargen iawn o drafodaethau Brexit, bydd hefyd yn sicrhau cyflogaeth i 6,500 o bobl am flynyddoedd lawer.
Nawr, yn ogystal â datblygu’r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wneud yn gwneud yn siŵr bod y gadwyn gyflenwi’n aros yn gryf. Mae'n ffaith eithaf trawiadol bod y sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru yn cyflogi 20,000 o bobl mewn mwy na 150 o gwmnïau. Rydym ni’n hynod o gryf yn y sector hwn, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam rydym ni mor agored i niwed o ran Brexit. Mae chwech o 10 prif gwmni awyrofod ac amddiffyn y byd wedi lleoli gweithrediadau sylweddol yng Nghymru. Mae gan Airbus ddau safle, mae gan General Dynamics ddau safle, GE Aviation, Raytheon, BAE Systems—[Torri ar draws.] Na, mae’r Aelod yn dweud, ar ei eistedd, 'er gwaethaf Brexit'. Na, mae'r rhain yn gwmnïau sydd wedi’u sefydlu yma ers amser maith ac sy’n rhannu’r pryderon y mae Airbus wedi eu mynegi’n ddiweddar, ond y mae Airbus wedi bod yn eu dweud wrth Aelodau fel yntau. Petai o ond yn mynd i Frychdyn i siarad â rheolwyr yno. Petai o ond yn mynd i Gasnewydd i siarad â rheolwyr yno. Petai o ond yn mynd i General Dynamics, i GE Aviation, i Raytheon, i BAE Systems, i Safran sydd wedi caffael Zodiac. Petai o ond yn mynd i gwmnïau fel Qioptiq, fel British Airways, yr Asiantaeth Cydrannau ac Electroneg Amddiffyn, Babcock, Triumph. Mae pob un o'r cwmnïau hyn wedi bod yn gyson yn y neges y maent wedi'i rhoi inni yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—bydd senario 'dim bargen' yn ddinistriol i’r sector awyrofod ac amddiffyn. Er mwyn cadw swyddi yng Nghymru, ym Mhrydain, mae angen bargen ddigonol arnom ni. I gael bargen ddigonol, mae’n rhaid i Theresa May liniaru ei safbwyntiau.
O ran yr amodau economaidd ehangach y gellir eu creu i gefnogi twf, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn mynegi’n glir bod angen buddsoddi mwy mewn allforio a masnachu. Wrth inni adael yr UE, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn ailgydbwyso proffil allforio economi Cymru. Ond mae angen inni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn allforio llawer mwy mewn crynswth, ein bod yn masnachu llawer mwy, a dyna pam rydyn ni’n agor mwy o swyddfeydd ac yn cynyddu ein presenoldeb mewn tiriogaethau allweddol ledled y byd. Rydym ni wedi agor swyddfeydd yn ddiweddar mewn lleoedd fel Montreal, a byddwn yn agor mewn tiriogaethau eraill sy’n hollbwysig i ddyfodol economi Cymru.
Mae'r cynllun gweithredu economaidd hefyd yn glir—mae’n creu cyfrwng y byddwn yn ei defnyddio i gefnogi busnesau, ac sydd wedi'i chynllunio i leihau'r bwlch rhwng economi Cymru ac economi gweddill Ewrop. Felly, byddwn ond yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ddatgarboneiddio neu at wella ffigurau masnach ac allforio, neu’n sicrhau ein bod yn cofleidio’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, ein bod ar flaen y gad o ran newid technolegol newydd, neu sy'n sicrhau ein bod yn creu swyddi o safon uchel. Am y rheswm hwnnw, gan ein bod yn datblygu cronfa gyfunol, rydym yn disgwyl gallu dyrannu mwy o adnoddau yn y dyfodol i'r busnesau hynny sy'n creu swyddi cynaliadwy, sydd ag angen mwy o sgiliau, sy’n fwy cynhyrchiol, sy’n cyfrannu mwy at economi Cymru ac sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith a dilyniant teg, i sicrhau bod gan unrhyw un sy'n ymuno â'r gweithle y cyfle i ddringo mor uchel ag y gallant.