Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 26 Mehefin 2018.
Rydym ni i gyd yn cofio, rwy'n siŵr, yn ôl yn 1980, pan welodd Glannau Dyfrdwy ddiswyddo ar y raddfa fwyaf yn yr oes fodern pan ddiswyddodd gwaith dur Shotton dros 6,500 o weithwyr mewn un diwrnod. Wrth gwrs, cymerodd genhedlaeth i’r ardal oresgyn hynny. Yn wir, rwy’n siŵr eu bod nhw’n dal i deimlo’r effeithiau. Ond mae wedi ei ailsefydlu ei hun—yr ardal—yn bwerdy diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond, wrth gwrs, mae ymyriad yr wythnos diwethaf wedi taflu cysgod arall sy'n peri pryder enfawr o ran swyddi, o ran yr effaith ar yr economi ehangach ac o ran y gadwyn gyflenwi ehangach, yn sicr. A phe bai Airbus yn rhoi'r gorau i'w gweithrediadau ym Mrychdyn, rwy’n ofni y byddai’r effeithiau nid cynddrwg, ond yn ôl pob tebyg yn waeth na'r rhai a gafwyd yn ôl yn 1980.
Felly, mae hyn yn galw pobl ym mhob rhan o'r DU i ddod at eu coed o ran Brexit. Dyma’r realiti y mae llawer ohonom ni wedi bod yn rhybuddio amdano ers amser hir iawn, ac mae'n golygu bod gweithwyr medrus sydd ar gyflogau da yn wynebu ansicrwydd enfawr. Ni wnaiff ddigwydd dros nos. Beth bynnag fo'r amgylchiadau, bydd yn cymryd blynyddoedd, os yw hyn yn digwydd, i’r buddsoddi ddiflannu, ond yn sicr mae'n bwrw cysgod dros weithwyr diwyd, ymroddedig a ffyddlon Airbus, y bobl ifanc sydd yno ar hyn o bryd, yn astudio ar gyfer eu prentisiaethau, a miloedd o weithwyr, fel y dywedais yn gynharach, yn y gadwyn gyflenwi ehangach sy'n ofni’r effaith a gaiff Brexit ar eu swyddi.
Hoffwn gyfeirio at erthygl yn y wasg a welais yn The Leader lle mae Shaun Hingston, cynrychiolydd cyngor ieuenctid 15 mlwydd oed o Saltney—rydych wedi ei gweld; rwy'n falch. Mae'n gwneud rhai sylwadau perthnasol, go iawn, ynghylch sut y byddai ymadawiad Airbus o'r DU yn drychinebus i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae ef wir yn adlewyrchu'r ing y mae’r genhedlaeth iau yn ei deimlo—nhw, wrth gwrs, fydd y genhedlaeth a fydd yn byw hwyaf gydag etifeddiaeth neu ganlyniadau Brexit, ac mae'n dweud:
Byddai symud neu gau Airbus yn y DU yn arwain at ddiswyddiadau anferth, a fyddai’n sbarduno effaith lluosydd negyddol, ac y byddai busnesau yn yr ardal leol yn adleoli neu’n cau.
Byddai symud, wrth gwrs, yn golygu na fydd gan bobl y cyfle i fynd ar brofiad gwaith yn Airbus neu i gwblhau rhaglenni prentisiaeth—y rhaglenni y mae cannoedd o bobl ifanc ledled yr ardal yn eu gwneud ac am eu gwneud, ac yn gobeithio eu gwneud oherwydd eu bod yn gweld Airbus yn un o swyddi eu breuddwydion.
Nawr, mae Shaun yn amlwg yn deall effeithiau’r polisïau Brexit di-drefn y mae Llywodraeth y DU yn eu canlyn ar hyn o bryd, hyd yn oed yn fwy felly, mentraf ddweud, na rhai o Weinidogion Llywodraeth y DU. A dyna yw'r mater sylfaenol yma, rwy’n credu, onid e, sef bod y polisi Brexit presennol y mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn i adael marchnad sengl ac undeb tollau yr UE—? Rwy’n cydnabod, fel y gwnaethoch gyfeirio ato, rwy’n credu, yn gynharach, mai safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit yw parhau'n aelodau o'r ddau. Yn sicr, nodwyd hynny yn y Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru', a gafodd ei lunio ar y cyd â fy mhlaid i, ond mae'n rhaid imi ddweud bod yr hyn y mae Plaid Lafur y DU wedi’i wneud wedi gwrthweithio hynny. Ond tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu rhywfaint o fy rhwystredigaeth o ran pa mor aneffeithiol y mae ASau Llafur wedi bod o ran atal y posibilrwydd hwn o Brexit caled.
Rydym ni wedi gweld y baneri yn Labour Live, wedi clywed y siantio a’r canu yn y rali dros y penwythnos. Onid yw'n teimlo mymryn o ofid bod gwrthwynebiad Llafur yn San Steffan yn methu â newid y cyfeiriad hwn sy’n ein harwain ar hyd y llwybr ofnadwy hwn? Ac onid yw’n dymuno y byddai ei blaid ef ei hun yn gwneud pethau'n wahanol, yn hytrach na gadael i’r Ceidwadwyr wneud fel y mynnont? Oherwydd os nad ydynt yn llwyddo i newid y cyfeiriad hwnnw, rwy’n ofni, fel y mae llawer o bobl eraill wedi’i ddweud o fy mlaen i, mai dim ond dechrau pethau fydd enghraifft Airbus.
Fel arfer, pan fyddaf yn ymateb i ddatganiad, fy nghwestiwn cyntaf yw, 'Beth mae’r Llywodraeth yn mynd i'w wneud am hyn?' Ond, wrth gwrs, mae’r posibilrwydd hwn mor enfawr, ac mor ddigynsail yn yr oes ddatganoledig, nes ei fod yn gwestiwn anodd ei ofyn, heb sôn am ei ateb. Ond fe hoffwn i wybod, ac i ddilyn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod, sut mae’r Llywodraeth wedi cynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Ydych chi wedi amlinellu beth fyddai effaith Brexit caled a pha gamau fyddech chi’n eu hystyried i geisio, cymaint ag y gallwch chi, lliniaru'r effeithiau hynny?
Rydych chi wedi sôn am eich cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb'. Ydych chi’n ailystyried hwnnw mewn unrhyw ffordd yn sgil hyn? Oherwydd y byrdwn, sy’n un y mae llawer ohonom yn ei gefnogi, yw bod angen inni ddatblygu mwy o swyddi hynod fedrus sy’n talu'n dda yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bydd angen gwrthsafiad, oherwydd rydym ni’n symud i'r cyfeiriad anghywir. Bydd yn fater o sefydlogi, cystal ag y gallwn ni, heb sôn am dyfu yn hynny o beth.
Wrth gwrs, mae gan Airbus eu hasesiad risg, fel yr ydym ni i gyd wedi darllen. Ble mae asesiad risg y Llywodraeth? Ydych chi wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw? Efallai y gallech roi gwybod i ni.
Ac, wrth gwrs, mae'r effaith a gaiff hyn ar addysg bellach ac addysg uwch yn sylweddol. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol o ogledd Cymru, yr wythnos diwethaf, lle dywedwyd wrthym ni heb unrhyw amheuaeth am yr effaith ar sefydliadau pwysig yn y gogledd-ddwyrain, fel Coleg Cambria. Byddai’n sylweddol, ac rwy’n meddwl tybed pa drafodaethau a fu rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn â sut efallai y gellid lliniaru rhai o'r effeithiau hynny a’u rheoli pe baen nhw’n cael eu gwireddu.