Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 26 Mehefin 2018.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le—yr hyn y mae buddsoddwyr ei eisiau pan fyddan nhw’n edrych ar unrhyw wlad yw sicrwydd o ran yr amgylchedd gwleidyddol ac economaidd ac mae arnyn nhw angen i’r sgiliau cywir fod ar gael a’r seilwaith iawn yn ei le. Yng Nghymru, rydym ni'n gwella'r sylfaen sgiliau, rydym ni'n datblygu'r seilwaith priodol, ond mae perygl y gallai Brexit effeithio arnom ni yn ofnadwy os nad oes bargen neu os nad yw’r fargen yn diwallu anghenion busnesau Cymru.
A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fy mod i wedi siarad gyda Greg Clark? Fe wnes i siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ddydd Gwener. Fe wnes i sôn wrtho am fy mhryderon difrifol iawn, ac fe wnes i hefyd fynegi fy nghefnogaeth i Aelodau o fewn ei blaid ef, er bod y rhan fwyaf o'r rheini ar y meinciau cefn, gan gynnwys Anna Soubry a Guto Bebb, o ran eu sylwadau diweddar ynghylch y datganiad gan Airbus. Nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid cyfeiriad. Mae angen iddynt liniaru eu safbwyntiau ac mae angen iddynt dderbyn trefniant pragmatig. Yn anffodus, gan fod y Prif Weinidog wedi'i gefynnu gan eithafwyr asgell dde ei phlaid, mae canlyniad o'r fath yn gynyddol annhebygol.
Nawr, a gaf i ddweud, yn ogystal â siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, fy mod yn siarad yn rheolaidd iawn gydag Unite the Union a gydag Airbus eu hunain, gyda rheolwyr. Yn wir, yn ddiweddar fe wnes i benodi Katherine Bennett, uwch is-lywydd Airbus UK, i’r bwrdd cynghori gweinidogol newydd, gan gydnabod ei chraffter, ei gwybodaeth a’i harbenigedd nid yn unig yn y sector awyrofod a gweithgynhyrchu yn gyffredinol, ond hefyd o ran economi'r DU a'r cyfleoedd sydd gennym ni, os cawn y fargen Brexit gywir, i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithgynhyrchwyr gwreiddiol y cyfarpar awyrofod.
Nawr, mae Jack Sargeant yn hollol gywir, rydym ni’n buddsoddi’n sylweddol iawn ym Mrychdyn; rydym ni wedi yn y gorffennol. Mae hynny o ganlyniad i'r cymorth ad-daladwy a’r cymorth sgiliau a’r mathau eraill o gymorth a gynigiwyd i Airbus dros lawer o flynyddoedd gan Lywodraethau Llafur olynol, a nawr mae’r safle hwnnw’n cyflogi 6,500 o bobl. Rydym ni wedi helpu i dyfu’r safle hwnnw ac rydym ni’n fodlon ymladd nerth ein deng ewin i amddiffyn y bobl hynny sy'n cael eu cyflogi yno; wnawn ni ddim cefnu arnyn nhw.
O ran Nigel Farage, a’i biffian chwerthin ar y teledu wrth y posibilrwydd y gallai pobl—miloedd o bobl—golli eu swyddi, dyna ymddygiad swancyn breintiedig sydd, mae arnaf ofn, yn hollol anymwybodol o beth yw diwrnod caled da o waith yn y sector awyrofod. Os mai’r oll y gall ef ei wneud yw ymateb drwy biffian chwerthin, mae arnaf ofn na fydd croeso iddo yn Airbus nac yn unrhyw safle diwydiannol arall lle gallai swyddi gael eu chwalu gan sefyllfa 'dim bargen'.