Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 26 Mehefin 2018.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad eithriadol o bwysig hwn heddiw? O'r cychwyn cyntaf, rwy’n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad yw’r rhybudd hwn yn unigryw i Airbus—mae'n rhybudd ledled holl sectorau a diwydiannau Cymru, a ledled Ewrop yn ogystal. Dros y penwythnos mae BMW a llawer o rai eraill, gan gynnwys Ferrovial heddiw, a SMMT; fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich datganiad. Mae gan yr holl rybuddion hyn un peth yn gyffredin, sef ansicrwydd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cyllid am yr ansicrwydd, ac mae wedi bod yn thema gyffredin drwy gydol fy amser ar y pwyllgor materion allanol. Pryd bynnag yr wyf wedi ymweld â gweithleoedd, fel Airbus, Tata Steel neu Toyota, mae’r mater wedi ei grybwyll bob amser. Yn anffodus, dydym ni ddim wedi cael yr eglurder yr oeddem ni i gyd yn chwilio amdano. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddaru’r Aelodau ynghylch a yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw sylwadau clir iddo ers cyhoeddiad Airbus? Hefyd, a allai ddweud a yw wedi cael unrhyw ohebiaeth gydag Unite the Union am y mater hwn dros y penwythnos? Rwyf fi wedi siarad â chynrychiolwyr yr undeb ac roedden nhw’n rhannu llawer o'm pryderon, yn bennaf oherwydd eu bod yn gwybod y cyfraniad aruthrol y mae Airbus yn ei wneud dros Alun a Glannau Dyfrdwy, dros Gymru, a thros bobl ledled y DU.
Rydych chi wedi dweud mai Airbus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, a’u bod nhw’n cyflogi bron 6,500 o bobl, a bod hynny’n golygu mai nhw yw’r ail gyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU ddangos arweinyddiaeth a rhoi’r eglurder sydd ei angen ar y busnes, ac nid yn unig y busnes, ond, yn bwysicach, sydd ei angen ar y gweithlu? Mae Airbus yn gwneud cyfraniad uniongyrchol sylweddol at gynnyrch domestig gros Cymru, fel mae’r Aelodau yn ei wybod, ac yn 2015 cyfrannodd y cwmni, yn uniongyrchol, £563 miliwn o werth ychwanegol at gynnyrch domestig gros Cymru. Nawr, mae hynny'n cyfateb i dros 5 y cant o’r allbwn economaidd a gynhyrchwyd yng Nghaerdydd yn ystod yr un flwyddyn.
Rwy’n croesawu cefnogaeth barhaus Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn fwyaf diweddar, buddsoddiad y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, ac rwy’n credu bod arnom ni angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ond mae angen imi ddweud: a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r ffigurau hynny yr wyf wedi sôn amdanynt a’r cyhoeddiad hwn ddeffro Llywodraeth y DU? Ac, os na wnaiff, dydw i wir ddim yn gwybod beth wnaiff.
Dim ond yn gryno, hoffwn gyfeirio at sylw a wnaeth fy nghyd-aelod o ben arall y Siambr, Llyr Gruffydd, wrth sôn am bwysigrwydd yr hyn a ddigwyddodd wrth gau ffatri Shotton a chydnabod hynny. Rydych chi'n hollol gywir; ni fydd cynddrwg, bydd yn bendant yn waeth, ac mae hynny'n rhywbeth, yn syml, na allwn ni ganiatáu iddo ddigwydd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio at sylw, lle—. Dydw i ddim yn credu mai ystryw wleidyddol yw hyn gan Airbus, rwy’n credu ei fod yn rhybudd clir ac yn rhybudd y dylid bod yn ddifrifol iawn, iawn yn ei gylch. Dydw i ddim yn siŵr a ydych chi wedi ei weld dros y penwythnos, Ysgrifennydd y Cabinet, ond, ar y sioe Daily Politics, ymosododd Nigel Farage ar Airbus fel prosiect gwleidyddol cyn piffian chwerthin wrth i rywun sôn am bobl Cymru, teuluoedd Cymru, o bosibl yn colli eu swyddi. Felly, a fyddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, i gondemnio’r anghyfrifoldeb llwyr hwn ac yn ymuno â mi pan ddywedaf wrth y gweithwyr hynny o Gymru a'u teuluoedd, ac wrth y gweithwyr yn y dyfodol, ein bod ni gyda chi yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac y gwnawn ni sefyll gyda chi?