Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 26 Mehefin 2018.
Yn olaf, o ran y sylw a wnaeth yr Aelod am rybuddion anghywir y mae elfennau eraill o'r diwydiant wedi eu gwneud, nid yn unig ynghylch Brexit, ond ffactorau eraill, hanesyddol, un agwedd bwysig i'w chadw mewn cof yw bod llawer o wleidyddion wedi anwybyddu bygythiadau Tata, a phryderon Tata, nes i’r busnesau yma yng Nghymru a ledled y DU gael eu rhoi ar werth. A fydd angen colli degau os nad cannoedd o filoedd o swyddi yn y DU cyn i’r bobl sydd o blaid sefyllfa 'dim bargen' ddeffro a derbyn eu bod yn anghywir a’u bod wedi gwneud pobl yn ddi-waith?