Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 26 Mehefin 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf a bydd cyfnod pontio yn dilyn hynny tan fis Rhagfyr 2020. Mae gan Brexit oblygiadau sylweddol ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru. Heddiw byddaf yn amlinellu rhai o'r prif heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, rwyf eisiau mynd i'r afael â heriau i'n gweithlu, ein systemau iechyd cyhoeddus, y gallu i gael gafael ar feddyginiaethau presennol a newydd, technoleg ac arloesi meddygol, yr angen i barhau ag ymchwil, cydweithredu ac arloesi rhyngwladol, diogelu'r mynediad at ofal iechyd hanfodol ar gyfer dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac yn wir, i ddinasyddion Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i ategu'r datganiad llafar hwn, sy'n cynnwys mwy o fanylion.
Wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fydd agweddau sylweddol ar y setliad datganoledig wedi eu cyfyngu gan gyfraith yr UE mwyach. Mae 64 maes perthnasol i Lywodraeth Cymru, 11 ohonynt yn uniongyrchol berthnasol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. I ddiogelu buddiannau ac i hyrwyddo blaenoriaethau Cymru, mae fy swyddogion yn rhan greiddiol o grwpiau a sefydlwyd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i asesu goblygiadau'r pwerau hyn sy'n dychwelyd, i nodi unrhyw newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol ac i ddatrys y trefniadau cydgysylltu fydd eu hangen yn y DU ar ôl Brexit. Yn benodol, maen nhw'n ystyried y goblygiadau os na cheir bargen a'r goblygiadau i Gymru os caniateir i'r sefyllfa gwbl drychinebus honno ddigwydd.
Nododd Llywodraeth Cymru chwe blaenoriaeth ar gyfer ein perthynas newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Un o'r blaenoriaethau hyn yw y dylai unrhyw system fudo newydd greu cyswllt agosach rhwng polisïau mudo a chyflogaeth, fel y gallwn ni recriwtio meddygon, nyrsys a'r gweithwyr iechyd a gofal eraill sydd eu hangen arnom ni, gan eu diogelu nhw rhag camfanteisio. O'r cychwyn cyntaf, bu ein negeseuon yn glir a chyson: rydym ni'n cydnabod y gwerth a roddwn ni ar staff o wledydd eraill; rydym ni'n atgoffa rhanddeiliaid sut mae'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol wastad wedi elwa ar bobl ddawnus o ledled y byd; ac, mewn cyd-destun Ewropeaidd, mae rhyddid i symud o fudd nid yn unig i bobl sy'n darparu gwasanaethau ond hefyd, wrth gwrs, i'r bobl sy'n eu derbyn. Mae gwladolion yr UE yn rhan bwysig o'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r GIG. Rhaid gwneud i bob un gweithiwr deimlo eu bod yn cael croeso a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i ddarparu gwasanaethau sydd o fudd i bobl Cymru. Yn fwy na hynny, rydym ni'n croesawu'r cyfraniad y mae pobl yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru fel ffrindiau, cymdogion a dinasyddion ein gwlad.
Nid yw bygythiadau i iechyd yn parchu ffiniau cenedlaethol. Mae dinasyddion y DU ar hyn o bryd yn elwa o gyfundrefnau yr UE a gynlluniwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws Ewrop. Er enghraifft, mae'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau yn diogelu gwledydd ledled yr UE rhag achosion o glefydau heintus hysbys a risgiau iechyd cyhoeddus drwy un gronfa ddata. Gallai oedi mewn cyfathrebu o ran rheoli argyfwng, neu wahaniaeth mewn safonau a gweithdrefnau rhwng Ewrop a'r DU ar ôl Brexit arwain at oedi wrth weithredu yn ystod argyfwng ac achosi risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Felly, mae sicrhau cysylltiadau cydweithio agos o'r diwrnod cyntaf ar ôl Brexit yn allweddol i sicrhau y caiff pobl Cymru eu diogelu'n llawn. Mae hyn yn dibynnu ar rannu data yn effeithiol er mwyn osgoi dychwelyd i ddyddiau cwarantîn. Mae'r system rhannu data sydd ar waith ledled yr UE yn cael ei goruchwylio gan Lys Cyfiawnder Ewrop. Os na chytunir ar hynny ar gyfer y dyfodol, yna y sefyllfa anorfod yw na ellir rhannu data â'r DU. Byddai hynny'n peri risg annerbyniol i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r DU, wrth gwrs, wedi dod i arfer â lefel uchel o safonau a diogelwch bwyd, gan gynnwys labelu. Mae llawer o'r ddeddfwriaeth hon yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae systemau effeithiol a chyflym ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a dealltwriaeth rhwng gwledydd am risgiau bwyd difrifol a thwyll bwyd. Mae'r systemau hyn yn rhybuddio'r DU o unrhyw fygythiadau diogelwch bwyd a nodwyd a ganfuwyd yn yr UE. Mae hynny'n hanfodol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, i sicrhau hyder y defnyddwyr yn eu bwyd ac i gynnal enw da busnesau bwyd y DU. Mae perygl gwirioneddol y gallai cyfnod pontio Ewropeaidd gael effaith andwyol ar yr ansawdd a'r tryloywder yr ydym ni wedi dod i'w ddisgwyl yn y maes hwn. Felly, rydym ni eisiau gweld cyfathrebu cadarn yn fewnol ledled y DU ac â'n cymheiriaid yn Ewrop i reoli risgiau sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd.
Mae degawdau o gydweithredu a chysoni safonau ar gyfer meddyginiaethau a thechnolegau meddygol wedi creu manteision sicr ar gyfer dinasyddion ledled Ewrop. Mae'n rhaid i'r holl feddyginiaethau a thechnolegau fod o safon uchel a bod prawf eu bod yn ddiogel ac effeithiol cyn y gellir eu gosod ar farchnad yr UE. Byddai unrhyw wahaniaeth sylweddol rhyngddom ni ac Ewrop yn ein gadael yn waeth ein byd. Bydd cyfyngiadau ar fasnach, archwiliadau personol a thariffau masnach yn debygol o leihau argaeledd rhai meddyginiaethau, yn achosi oedi yn y cyflenwad, ac yn arwain at brisiau uwch. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ddewisiadau buddsoddi yn y dyfodol i gwmnïau ddatblygu meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol. Heb undeb tollau a masnach di-dariff gyda'r farchnad sengl, bydd Cymru a gweddill y DU yn dod yn llai deniadol ar gyfer y swyddi hyn sy'n talu'n dda.
Bydd systemau cymeradwyo ar wahân yn effeithio ar ba mor gyflym y gallwn ni gael gafael ar feddyginiaethau a thechnolegau newydd. Er enghraifft, yn y Swistir a Chanada, sydd â systemau cymeradwyo ar wahân, mae meddyginiaethau fel arfer yn cyrraedd y farchnad chwe mis yn hwyrach nag yn yr UE. Mae unrhyw oedi ar y raddfa honno yn gwbl annerbyniol. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cleifion Cymru a'r DU yn parhau i allu manteisio'n brydlon ar gyffuriau effeithiol newydd, dewisiadau triniaeth a'r technolegau meddygol diweddaraf.
Mae gwledydd a rhanbarthau ledled y byd yn wynebu heriau iechyd a gofal sylweddol a chyffredin. Ni ellir mynd i'r afael â'r heriau hynny ar wahân. Felly, mae parhau i gydweithio mewn ymchwil, datblygu ac arloesi yn hanfodol. Mae rhaglenni'r UE yn rhoi cyfleoedd cadarn i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a busnesau gydweithio â'i gilydd ar amcanion cyffredin. Mae arnom ni eisiau i'n hymchwilwyr ac arloeswyr iechyd a gofal barhau i weithio gyda phartneriaid ledled Ewrop a thu hwnt, gan adeiladu ar ein henw da o lwyddiant.
Yn olaf, hoffwn ymdrin â goblygiadau Brexit ar gyfer y trefniadau gofal iechyd trawsffiniol a dwyochrog sydd gennym ni ar hyn o bryd â'n cymdogion Ewropeaidd. Darperir y gofal iechyd hwn o dan yr un amodau ac am yr un gost â'r bobl sydd wedi eu hyswirio yn y wlad honno. Yn unol â thelerau'r cytundeb pontio arfaethedig, bydd gwladolion yr UE ar hyn o bryd yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE yn gallu parhau i fyw dramor ac i gael yr un gofal iechyd ag y maen nhw yn ei gael yn awr. Fodd bynnag, nid yw dyfodol y trefniadau dwyochrog hynny wedi eu gwarantu eto oherwydd maen nhw'n amodol ar ganlyniad y trafodaethau rhwng yr UE a Llywodraeth y DU. Ond un peth y gallaf ei wneud yn glir: Mae defnyddio GIG Cymru yn gweithredu ar sail preswyliaeth. Golyga hynny y darperir gofal iechyd am ddim i bobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Ni fydd byrddau iechyd yng Nghymru yn gwrthod triniaeth i ddinasyddion yr UE sy'n preswylio yng Nghymru os oes unrhyw anawsterau o ran eu hawl i fyw yn y wlad hon yn ystod y cyfnod pontio.
Mae'r risgiau yn sgil Brexit ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn amlwg a difrifol. Os na chawn nhw mo'u datrys, byddant yn cael effaith wirioneddol a pharhaol ar ein gwasanaethau, ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno'r achos dros roi sylw i'r agweddau hyn mewn unrhyw fargen i adael yr UE. Ni ddylai neb fod mewn unrhyw amheuaeth mai gadael yr UE heb fargen yw'r sefyllfa waethaf bosib ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.