– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 26 Mehefin 2018.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 'Brexit—y risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf a bydd cyfnod pontio yn dilyn hynny tan fis Rhagfyr 2020. Mae gan Brexit oblygiadau sylweddol ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru. Heddiw byddaf yn amlinellu rhai o'r prif heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, rwyf eisiau mynd i'r afael â heriau i'n gweithlu, ein systemau iechyd cyhoeddus, y gallu i gael gafael ar feddyginiaethau presennol a newydd, technoleg ac arloesi meddygol, yr angen i barhau ag ymchwil, cydweithredu ac arloesi rhyngwladol, diogelu'r mynediad at ofal iechyd hanfodol ar gyfer dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac yn wir, i ddinasyddion Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i ategu'r datganiad llafar hwn, sy'n cynnwys mwy o fanylion.
Wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fydd agweddau sylweddol ar y setliad datganoledig wedi eu cyfyngu gan gyfraith yr UE mwyach. Mae 64 maes perthnasol i Lywodraeth Cymru, 11 ohonynt yn uniongyrchol berthnasol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. I ddiogelu buddiannau ac i hyrwyddo blaenoriaethau Cymru, mae fy swyddogion yn rhan greiddiol o grwpiau a sefydlwyd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i asesu goblygiadau'r pwerau hyn sy'n dychwelyd, i nodi unrhyw newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol ac i ddatrys y trefniadau cydgysylltu fydd eu hangen yn y DU ar ôl Brexit. Yn benodol, maen nhw'n ystyried y goblygiadau os na cheir bargen a'r goblygiadau i Gymru os caniateir i'r sefyllfa gwbl drychinebus honno ddigwydd.
Nododd Llywodraeth Cymru chwe blaenoriaeth ar gyfer ein perthynas newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Un o'r blaenoriaethau hyn yw y dylai unrhyw system fudo newydd greu cyswllt agosach rhwng polisïau mudo a chyflogaeth, fel y gallwn ni recriwtio meddygon, nyrsys a'r gweithwyr iechyd a gofal eraill sydd eu hangen arnom ni, gan eu diogelu nhw rhag camfanteisio. O'r cychwyn cyntaf, bu ein negeseuon yn glir a chyson: rydym ni'n cydnabod y gwerth a roddwn ni ar staff o wledydd eraill; rydym ni'n atgoffa rhanddeiliaid sut mae'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol wastad wedi elwa ar bobl ddawnus o ledled y byd; ac, mewn cyd-destun Ewropeaidd, mae rhyddid i symud o fudd nid yn unig i bobl sy'n darparu gwasanaethau ond hefyd, wrth gwrs, i'r bobl sy'n eu derbyn. Mae gwladolion yr UE yn rhan bwysig o'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r GIG. Rhaid gwneud i bob un gweithiwr deimlo eu bod yn cael croeso a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i ddarparu gwasanaethau sydd o fudd i bobl Cymru. Yn fwy na hynny, rydym ni'n croesawu'r cyfraniad y mae pobl yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru fel ffrindiau, cymdogion a dinasyddion ein gwlad.
Nid yw bygythiadau i iechyd yn parchu ffiniau cenedlaethol. Mae dinasyddion y DU ar hyn o bryd yn elwa o gyfundrefnau yr UE a gynlluniwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd ar draws Ewrop. Er enghraifft, mae'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau yn diogelu gwledydd ledled yr UE rhag achosion o glefydau heintus hysbys a risgiau iechyd cyhoeddus drwy un gronfa ddata. Gallai oedi mewn cyfathrebu o ran rheoli argyfwng, neu wahaniaeth mewn safonau a gweithdrefnau rhwng Ewrop a'r DU ar ôl Brexit arwain at oedi wrth weithredu yn ystod argyfwng ac achosi risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Felly, mae sicrhau cysylltiadau cydweithio agos o'r diwrnod cyntaf ar ôl Brexit yn allweddol i sicrhau y caiff pobl Cymru eu diogelu'n llawn. Mae hyn yn dibynnu ar rannu data yn effeithiol er mwyn osgoi dychwelyd i ddyddiau cwarantîn. Mae'r system rhannu data sydd ar waith ledled yr UE yn cael ei goruchwylio gan Lys Cyfiawnder Ewrop. Os na chytunir ar hynny ar gyfer y dyfodol, yna y sefyllfa anorfod yw na ellir rhannu data â'r DU. Byddai hynny'n peri risg annerbyniol i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r DU, wrth gwrs, wedi dod i arfer â lefel uchel o safonau a diogelwch bwyd, gan gynnwys labelu. Mae llawer o'r ddeddfwriaeth hon yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae systemau effeithiol a chyflym ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a dealltwriaeth rhwng gwledydd am risgiau bwyd difrifol a thwyll bwyd. Mae'r systemau hyn yn rhybuddio'r DU o unrhyw fygythiadau diogelwch bwyd a nodwyd a ganfuwyd yn yr UE. Mae hynny'n hanfodol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, i sicrhau hyder y defnyddwyr yn eu bwyd ac i gynnal enw da busnesau bwyd y DU. Mae perygl gwirioneddol y gallai cyfnod pontio Ewropeaidd gael effaith andwyol ar yr ansawdd a'r tryloywder yr ydym ni wedi dod i'w ddisgwyl yn y maes hwn. Felly, rydym ni eisiau gweld cyfathrebu cadarn yn fewnol ledled y DU ac â'n cymheiriaid yn Ewrop i reoli risgiau sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd.
Mae degawdau o gydweithredu a chysoni safonau ar gyfer meddyginiaethau a thechnolegau meddygol wedi creu manteision sicr ar gyfer dinasyddion ledled Ewrop. Mae'n rhaid i'r holl feddyginiaethau a thechnolegau fod o safon uchel a bod prawf eu bod yn ddiogel ac effeithiol cyn y gellir eu gosod ar farchnad yr UE. Byddai unrhyw wahaniaeth sylweddol rhyngddom ni ac Ewrop yn ein gadael yn waeth ein byd. Bydd cyfyngiadau ar fasnach, archwiliadau personol a thariffau masnach yn debygol o leihau argaeledd rhai meddyginiaethau, yn achosi oedi yn y cyflenwad, ac yn arwain at brisiau uwch. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ddewisiadau buddsoddi yn y dyfodol i gwmnïau ddatblygu meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol. Heb undeb tollau a masnach di-dariff gyda'r farchnad sengl, bydd Cymru a gweddill y DU yn dod yn llai deniadol ar gyfer y swyddi hyn sy'n talu'n dda.
Bydd systemau cymeradwyo ar wahân yn effeithio ar ba mor gyflym y gallwn ni gael gafael ar feddyginiaethau a thechnolegau newydd. Er enghraifft, yn y Swistir a Chanada, sydd â systemau cymeradwyo ar wahân, mae meddyginiaethau fel arfer yn cyrraedd y farchnad chwe mis yn hwyrach nag yn yr UE. Mae unrhyw oedi ar y raddfa honno yn gwbl annerbyniol. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cleifion Cymru a'r DU yn parhau i allu manteisio'n brydlon ar gyffuriau effeithiol newydd, dewisiadau triniaeth a'r technolegau meddygol diweddaraf.
Mae gwledydd a rhanbarthau ledled y byd yn wynebu heriau iechyd a gofal sylweddol a chyffredin. Ni ellir mynd i'r afael â'r heriau hynny ar wahân. Felly, mae parhau i gydweithio mewn ymchwil, datblygu ac arloesi yn hanfodol. Mae rhaglenni'r UE yn rhoi cyfleoedd cadarn i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a busnesau gydweithio â'i gilydd ar amcanion cyffredin. Mae arnom ni eisiau i'n hymchwilwyr ac arloeswyr iechyd a gofal barhau i weithio gyda phartneriaid ledled Ewrop a thu hwnt, gan adeiladu ar ein henw da o lwyddiant.
Yn olaf, hoffwn ymdrin â goblygiadau Brexit ar gyfer y trefniadau gofal iechyd trawsffiniol a dwyochrog sydd gennym ni ar hyn o bryd â'n cymdogion Ewropeaidd. Darperir y gofal iechyd hwn o dan yr un amodau ac am yr un gost â'r bobl sydd wedi eu hyswirio yn y wlad honno. Yn unol â thelerau'r cytundeb pontio arfaethedig, bydd gwladolion yr UE ar hyn o bryd yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE yn gallu parhau i fyw dramor ac i gael yr un gofal iechyd ag y maen nhw yn ei gael yn awr. Fodd bynnag, nid yw dyfodol y trefniadau dwyochrog hynny wedi eu gwarantu eto oherwydd maen nhw'n amodol ar ganlyniad y trafodaethau rhwng yr UE a Llywodraeth y DU. Ond un peth y gallaf ei wneud yn glir: Mae defnyddio GIG Cymru yn gweithredu ar sail preswyliaeth. Golyga hynny y darperir gofal iechyd am ddim i bobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Ni fydd byrddau iechyd yng Nghymru yn gwrthod triniaeth i ddinasyddion yr UE sy'n preswylio yng Nghymru os oes unrhyw anawsterau o ran eu hawl i fyw yn y wlad hon yn ystod y cyfnod pontio.
Mae'r risgiau yn sgil Brexit ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn amlwg a difrifol. Os na chawn nhw mo'u datrys, byddant yn cael effaith wirioneddol a pharhaol ar ein gwasanaethau, ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno'r achos dros roi sylw i'r agweddau hyn mewn unrhyw fargen i adael yr UE. Ni ddylai neb fod mewn unrhyw amheuaeth mai gadael yr UE heb fargen yw'r sefyllfa waethaf bosib ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Diolch i chi am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir yn crybwyll yr heriau sy'n wynebu pob un ohonom ni, p'un a ydyn ni yng Nghymru neu yn y DU, o ran gadael yr UE o dan delerau cytundeb sy'n foddhaol i bawb ohonom. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod rhywfaint o geisio codi stŵr yn y datganiad hwn oherwydd bod hyn yn dal i gael ei negodi, fel y gwyddoch chi'n dda, ac rwyf eisiau ailadrodd yn glir iawn nad yw Llywodraeth y DU eisiau nac yn disgwyl canlyniad lle na fydd bargen. Felly, y cwestiwn yr hoffwn ei ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: petai pethau'n gyfyng iawn arnoch chi, pe byddai'n rhaid ichi ddewis bargen wael neu ddim bargen, pa un fyddai'n well gennych chi? Oherwydd yn bersonol ni hoffwn i ymrwymo Cymru a'r DU i rywbeth sy'n gwbl anghynaladwy. Rydych chi wedi dweud dro ar ôl tro yn y datganiad hwn y byddai 'dim bargen' yn ofnadwy, ac rwy'n cytuno â chi; rwyf eisiau bargen sy'n dda ar gyfer Cymru ac yn dda ar gyfer y DU. Ond hoffwn wybod yn eglur gennych chi, beth yw eich safbwynt, ar y gwahaniaeth rhwng troi cefn ar rywbeth sy'n ofnadwy neu dderbyn hynny.
Yr ail bwynt yr hoffwn i ofyn i chi yw eich bod yn datgan yn glir iawn yn y fan yma, ac rydych chi wedi dweud yn flaenorol, eich bod chi, neu fod eich swyddogion yn rhan ganolog o grwpiau sydd wedi'u sefydlu gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ill dwy i drafod yr holl oblygiadau amrywiol ohonom yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Allwch chi roi inni ychydig mwy o fanylion am y grwpiau hynny, beth maen nhw yn ei drafod, beth maen nhw'n canolbwyntio arno, a sut maen nhw'n cyfrannu tuag at y ddadl hon, fel y gallwn ni fod yn sicr y caiff ein llais ni, Cymru, ei glywed mewn gwirionedd ble mae angen ei glywed a'n bod yn cael effaith ar y trafodaethau sy'n digwydd ar hyn o bryd?
O gofio bod eich swyddogion yn weithgar iawn ar y grwpiau hyn, rydych chi'n codi sawl cwestiwn difrifol y gwyddom ni eisoes rai o'r atebion iddynt. O ran sicrwydd y byddai staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio ar hyn o bryd yng Nghymru yn gallu aros yn y DU, mae'r Llywodraeth wedi dweud yn glir iawn iawn y buon nhw'n gwbl eglur fod dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru, ac yn y DU, yn gallu aros, ac i'r gwrthwyneb. Maen nhw wedi siarad am y gofal iechyd, yr hawliau pensiwn, ac maen nhw wedi siarad am gydnabod cymwysterau—sydd, unwaith eto, yn sylw arall a wnaethoch chi yn eich datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych chi yn gynharach heddiw. Pethau hollol ddilys i ofyn, ond fy nghwestiwn i chi yw: Os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r ateb i hyn, yna pa grwpiau mae eich swyddogion yn gweithio arnynt? Oherwydd byddwn wedi meddwl y byddech yn gwybod fod hyn i gyd wedi'i drafod, fod y pwyntiau hyn wedi eu crybwyll, ac y byddech yn gwybod pa gynnydd rydym ni wedi ei wneud o ran hynny eisoes. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet; mae'n hanfodol bod ein cyfeillion a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd yn deall faint yr ydym yn eu gwerthfawrogi, a bod y rhai sy'n gweithio yn ein GIG, ac yn ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac, yn wir, mewn unrhyw ran o Gymru, yn deall mor hanfodol y credwn ni yw eu cyfraniad yn ein gwlad. Felly, nid wyf yn dadlau â chi ynglŷn â hynny, ond nid wyf eisiau gweld unrhyw fath o ddychryn pobl pan fo pethau eisoes wedi'u trafod a'u cytuno. Felly, byddai gennyf ddiddordeb deall eich safbwynt ynghylch hyn a pham eich bod yn teimlo bod y sicrwydd hwnnw y cytunwyd arno eisoes, ac sydd eisoes yn wybodus gyhoeddus, yn annerbyniol.
O ran rheoleiddio meddyginiaethau: rwyf wedi crybwyll hyn yma fy hun, gyda chi ac yn bendant gyda'r Prif Weinidog—gyda chi mewn araith, ond gyda'r Prif Weinidog yn uniongyrchol—oherwydd credaf fod hynny'n eithriadol o bwysig, ac fe hoffwn i ddeall a yw eich grwpiau wedi bod yn gweithio ar hynny, a pha gynnydd ydych wedi llwyddo i'w wneud yn hyn beth.
Fe hoffwn i orffen o'r diwedd drwy ddweud bod hwn i'w negodi; mae'n dal ar y gweill. Cytunwyd ar 75 y cant o'r materion sy'n weddill yng nghyfnod 1 y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Mae llawer eisoes wedi ei gytuno yng nghyfnod 2, a dim ond meddwl wyf i tybed a hoffech chi imi anfon copi o'r datganiad ar y cyd gan drafodwyr yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â chynnydd y negodiadau, sy'n ddyddiedig 19 Mehefin eleni, oherwydd credaf y byddai hynny mewn gwirionedd yn egluro'r sefyllfa yn amlwg iawn.
Diolch i chi am eich sylwadau. Mae pob un o'r materion a grybwyllais yn cael eu trafod rhwng y Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae trafodaeth adeiladol yn digwydd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig amlinellu'r ystod o risgiau sy'n bodoli cyn inni gyrraedd bargen derfynol. Ac o ran y materion a grybwyllwyd gennyf hyd yn hyn, nid oes yr un ohonyn nhw wedi eu cadarnhau ar gyfer y cyfnod ar ôl y cyfnod pontio; dyna'r her. Yn benodol, er enghraifft, rydych chi'n sôn am breswylio mwy hirdymor; mae cytundeb hyd at y cyfnod pontio, ond nid oes cytundeb ar ôl hynny. Felly, credaf ei bod hi'n gwbl briodol dweud bod y rhain yn faterion y mae angen eu datrys mewn unrhyw fargen derfynol ac nad ydyn nhw wedi eu datrys hyd yma. Nid yw hyn yn fater o greu helynt; rwy'n credu bod angen inni fod yn onest am yr ystod o risgiau fydd yn ein hwynebu os nad oes gennym ni fargen dda a gwybodaeth nad yw pobl yn aml yn ymwybodol ohoni o ran manylion pob un o'r meysydd hyn.
Fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn am fargen wael—dim bargen neu fargen wael. Y broblem yw bod y fargen waethaf bosib yn gyfystyr â dim bargen. Dyna yw'r fargen waethaf bosib, ac felly ceir her yma ynglŷn â bod yn onest â'n gilydd am hynny, a'r anawsterau sydd gennym ni gyda'r safbwynt a arddelir yn y trafodaethau. Er enghraifft, mae swyddogaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn faen tramgwydd ar hyn o bryd i Lywodraeth y DU. Mae hynny'n peri problem oherwydd yr amrywiaeth o faterion y buom yn siarad amdanyn nhw ble ceir cydweithredu ar draws Ewrop, a gaiff ei oruchwylio ar hyn o bryd gan Lys Cyfiawnder Ewrop. Nawr, mae gwledydd eraill sydd â threfniadau gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo i gytuno'n ffurfiol sut mae'r oruchwyliaeth honno yn gweithredu. Os nad oes unrhyw oruchwylio, yna y sefyllfa anorfod yw y byddwn wedi ein heithrio o'r trefniadau rwy'n gwybod eich bod yn eu gwerthfawrogi, ac, mewn gwirionedd, y credaf fod adran iechyd y DU yn eu gwerthfawrogi hefyd. Felly, yr her yw p'un a allwn ni ddod ag ychydig o realiti i'r drafodaeth, y ddadl a'r negodiadau.
O'm rhan i, pan rydych chi'n sôn hefyd am bethau sydd ddim yn derfynol, fel cywerthedd cymwysterau, wel, nid yw hynny'n derfynol. Nid oes safbwynt terfynol o gwbl ynglŷn â hynny, ac mae'r sylwadau a wneuthum heddiw wedi eu pwysleisio, eu hategu a'u hymhelaethu arnynt gan amryw o sylwebyddion eraill yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, nid gwleidyddion pleidiau. Fe rof i rai enghreifftiau i chi: Cydffederasiwn y GIG yn cydweithio â phartneriaid gofal cymdeithasol, Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol, Y Coleg Nyrsio Brenhinol ac, yn wir, Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd. Felly, nid yw hwn yn faes be mae pobl yn codi stŵr; mae hwn yn faes sy'n peri pryder gwirioneddol ac amlwg ar hyn o bryd y mae'n rhaid ei reoli nid yn unig o ran adrannau iechyd yn y DU yn cytuno ar yr hyn y credwn ni sy'n bwysig, ond mewn gwirionedd mae a wnelo hynny â Llywodraeth y DU yn sicrhau bargen ar gyfer Brexit ac nid gwneud yn siŵr fod pobl a bleidleisiodd i adael neu aros yn wynebu risgiau cwbl annerbyniol i'w hiechyd na bleidleisiodd neb drostynt ddwy flynedd yn ôl.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n rhestr hir, on'd ydy, o'r pethau sydd, heb os, yn fygythiad i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit. Roeddwn yn darllen un o bapurau briffio fforwm polisi Cydffederasiwn GIG Cymru yn gynharach heddiw, oedd yn dwyn ynghyd rai o'u prif bryderon: darparu gweithlu, yr angen i barhau i gael cydnabyddiaeth o gymwysterau proffesiynol, amddiffyn hawliau cyflogaeth a hawliau cleifion, yr angen i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni cydweithredol yr UE, a gwneud yn siŵr bod aliniad rheoleiddio yn parhau er budd cleifion ac iechyd y cyhoedd, gan gadw cyd-drefniadau gofal iechyd, gan sicrhau dulliau cydlynu cadarn ar gyfer iechyd y cyhoedd—mae'n rhestr hir, hir o feysydd ac ni fyddai posib inni ymdrin â phob un ohonyn nhw yma heddiw.
Wn i ddim a hoffech chi, Angela Burns, fy nghyhuddo i o godi stŵr hefyd am fod yn bryderus ynghylch y meysydd hyn, ond o ran sylwadau cwbl amhriodol Andrew R.T. Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddoe ynglŷn ag Airbus, yn eu cyhuddo o wneud bygythiadau, rydych chi'n gwneud anghymwynas â'ch hun ac yn gwneud anghymwynas â'r cyhoedd yng Nghymru drwy fod mor ddidaro ynghylch y bygythiad mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu yn yr oes fodern yma yng Nghymru.
Caniatewch imi holi cyfres o gwestiynau i chi, os caf i, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf oll, ynglŷn â thrafnidiaeth meddyginiaethau o dan Euratom a chytundebau cysylltiedig, mae'n amlwg bod dau ddehongliad gwahanol ynglŷn â hyn. Y dehongliad cyntaf, sef safbwynt Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a hefyd pobl eraill sy'n gweithio yn y GIG, yw bod Brexit 'dim bargen' yn beryglus iawn i gleifion, o ystyried natur fyrhoedlog y cynhyrchion yr ydych chi'n sôn amdanynt, sy'n gwneud yr angen ar gyfer trafnidiaeth ddi-dor ar draws ffiniau yn hanfodol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n amhosib cronni meddyginiaethau ac ati. Yr ail ddehongliad, sef safbwynt Llywodraeth y DU, yw bod y Bil diogelwch niwclear sydd ar ei hynt drwy'r Senedd ar hyn o bryd yn golygu nad oes problem o gwbl. Felly, pa ddehongliad ydych chi'n cytuno ag ef a beth yw eich cynlluniau wrth gefn ar gyfer Brexit 'dim bargen' os ydych chi'n cytuno â'r dehongliad cyntaf hwnnw?
Yn ail, o ran gallu elwa ar rwydweithiau ymchwil a chyllid, pa gamau rhagweithiol—camau rhagweithiol—y mae eich Llywodraeth chi yn eu cymrud i sicrhau y gall ein prifysgolion a'n sector gwyddorau bywyd barhau i gymryd rhan yn y rhwydweithiau hyn os oes Brexit caled? Neu efallai bod eich Llywodraeth yn fodlon gadael i Lywodraeth y DU gymryd y camau rhagweithiol hynny.
O ran staffio, un mater sydd yn peri pryder arbennig i ni yw'r ffaith nad oes gennym ni ddata am weithlu'r sector annibynnol a gofal cymdeithasol, a sut y bydd hynny mewn perygl oherwydd Brexit caled. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i gasglu a chloriannu'r data hwn?
Yn olaf, fy mhedwerydd cwestiwn: rhaid inni edrych ar effaith anuniongyrchol pethau ar y GIG; a ydych chi'n credu bod bygythiad i'r GIG o gael gwahanol ganlyniadau mewn negodiadau masnach, er enghraifft?
Diolch ichi am yr holl gwestiynau. Hoffwn ailadrodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein sector gwyddorau bywyd, ymchwil ac arloesedd, ac yn gweithio'n ymarferol i weld sut y gallwn ni gymryd rhan yng nghamau cydweithio'r dyfodol ledled Ewrop. Mae hynny'n risg sylweddol iawn i ni. Rydym ni mewn gwirionedd yn gwneud yn dda iawn o ran cydweithredu ar ymchwil ar hyn o bryd a faint o arian y mae sefydliadau yn y DU yn ei ennill mewn gwirionedd. Dyna un o'r risgiau mwyaf a wynebwn os nad oes cytundeb synhwyrol, a bydd hynny'n gofyn ar i'r Deyrnas Unedig dalu i'r cronfeydd ymchwil a chydweithio hynny i allu parhau i gymryd rhan ynddynt. Felly, rydym ni'n gwneud ein barn ar hynny yn gwbl glir, ac mae'r gymuned wyddonol ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru, bron yn unfrydol yn ei barn o natur hanfodol parhau i gymryd rhan yn y rhwydweithiau hynny a'r ffaith y byddwn yn colli pobl os na fydd bargen yn cytuno i wneud hynny.
Hoffwn ymdrin yn fyr â'ch sylw am y gweithlu gofal cymdeithasol, yna byddaf yn dychwelyd i sôn am fasnach, tollau ac Euratom ar yr un pryd, os caf. Rydym yn cydnabod bod gennym ni wendid yn deall ein data am y gweithlu gofal cymdeithasol presennol a nifer y gweithwyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU, sef gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd a'r rhai o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd hefyd. Dyna pam mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gais i Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd fel y gwneir rhagor o ymchwil i roi inni ddarlun llawnach a mwy cywir o'r gweithlu sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y sector gofal cymdeithasol ac, yn wir, o ble maen nhw'n tarddu, ac, yn wir, tueddiadau mwy diweddar o bobl sydd yn ac sydd ddim yn dod i mewn i'r sector yn y gorffennol mwy diweddar ers y bleidlais ddwy flynedd yn ôl.
Ond rwy'n credu bod eich cwestiwn ynglŷn ag Euratom yn adlewyrchu nifer o bwyntiau rwyf wedi eu gwneud mewn fforymau eraill am risgiau gwirioneddol trefniant 'dim bargen'. Os oes rhwystrau i fasnach, bydd hynny'n effeithio ar amrywiaeth eang o bethau, fel moddion, ond mae Euratom yn arbennig o bwysig, ac mae hefyd yn faes lle mae trefniadau masnach di-dariff ac undeb tollau o bwys mawr. Mae unrhyw oedi yn y porthladdoedd yn effeithio nid yn unig ar nwyddau darfodus yn y cyflenwad bwyd yn unig, ond, mewn gwirionedd, mae radioisotopau yn hynod o bwysig. Mae meddygaeth niwclear a'r gallu i wneud diagnosis ac i drin ystod o gyflyrau yn hynod o bwysig i'r gwasanaeth iechyd modern. Rydym ni'n mewnforio bron pob un o'r radioisotopau a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig. Nid oedd ymadael ag Euratom yn rhywbeth y clywais erioed yn unrhyw ran o unrhyw ddadl yn ystod y refferendwm ddwy flynedd yn ôl, ond mae'n debyg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud mai dyna beth maen nhw eisiau ei wneud. Wel, byddai cefnu ar hynny, o ystyried ein bod lai na blwyddyn o'r diwrnod ymadael â'r UE a'r cyfnod pontio, yn drychinebus. O ran meddygaeth niwclear, byddai'n arwain at broblemau enfawr. Ni fyddai unrhyw fodd ei ddyblygu; ni allem ni ddyblygu'r gallu i gyflenwi a chreu'r radioisotopau hynny yn y DU o fewn y cyfnod hwnnw, ac mae'r gallu i'w cludo o fannau eraill yn gyfyngedig. Oherwydd hanner-oes y radioisotopau sy'n cael eu creu, mewn gwirionedd, mae gennych chi gyfnod cyfyngedig o amser i wneud defnydd priodol ohonynt.
Mae'n un o'r meysydd hyn ble mae angen bod yn realistig ynghylch beth mae 'dim bargen' yn ei olygu. Mae'n golygu os ydych chi'n ymrwymo i ddim bargen, rydych chi'n dweud yn y bôn, am gyfnod sylweddol o amser, na fydd y GIG yn rhoi'r triniaethau hyn. Byddai hynny'n gwbl annerbyniol mewn unrhyw a phob rhan o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae'n faes arall lle mae angen i ystyfnigrwydd y Llywodraeth ildio i realiti a synnwyr cyffredin, a'n cyfrifoldeb ni fel cynrychiolwyr etholedig yw cyflawni'r hyn sydd orau i'n pobl ac nid i esgus nad ydym ni yn hwylio'n beryglus o agos at y gwynt i wneud y peth gwaethaf posib ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig.
Fel y mwyafrif o bleidleiswyr y DU, pleidleisiais i adael yr UE, ac nid yw fy marn wedi newid. Cafodd ein GIG ei greu ymhell cyn yr UE a bydd yma ymhell ar ôl inni adael. A oes unrhyw risgiau? Oes, ond nid oes unrhyw un mewn gwirionedd yn disgwyl na fydd y risgiau hyn yn cael sylw mewn bargen yn y dyfodol.
Rydym yn gadael yr UE, nid Ewrop. Bydd ein cydweithrediad parhaus â gwledydd Ewrop yn parhau, a disgwyliaf y bydd agweddau arno'n cryfhau. Rwy'n cytuno bod yn rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau ar feddyginiaethau, offer a staff lle bo hynny'n bosib.
Mae pobl yn rhagweld y bydd Brexit yn arwain at gwymp ein GIG oherwydd y byddwn yn colli meddygon a nyrsys. Ond gadewch inni beidio anghofio mai ychydig dros 2 y cant o staff y GIG sy'n dod o wledydd yr UE ac ychydig dros 5 y cant o'n meddygon a'n nyrsys sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae mwyafrif helaeth ein meddygon sydd wedi eu hyfforddi dramor yn dod o is-gyfandir yr India, yna'r Aifft ac Irac. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei gwneud hi'n haws i recriwtio meddygon a nyrsys sydd wedi'u hyfforddi dramor ond nid yn yr UE yn dilyn Brexit?
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi ystyried y risgiau i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru pe byddai'r DU yn aros yn yr UE? Wedi'r cyfan, pe bai negodwyr yr UE wedi cael eu ffordd, byddai ein GIG ar drugaredd corfforaethau mawr Americanaidd o ganlyniad i'r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig.
Mae angen inni fod yn edrych tuag allan nid i mewn wrth inni gamu i'r dyfodol. Rydym ni'n byw mewn oes lle mae cydweithio yn digwydd ar raddfa fyd-eang. Nid yw gwyddoniaeth yn gweld ffiniau ac os ydym ni eisiau mynd i'r afael â heriau sylweddol i'n hiechyd a'n lles, rhaid inni gydweithio ar raddfa fyd-eang. Ni fydd yr UE ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Ni fydd yr UE ar ei ben ei hun yn ymladd canser, clefyd y galon neu'r argyfwng gordewdra. Mae'n rhaid inni weithio'n agosach gyda phob cenedl—gwledydd yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE—i wynebu'r heriau hyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wir yn credu ei fod er budd pennaf yr UE i ynysu'r DU yn y ffordd a amlygir gennych chi yn eich datganiadau? Er bod gennym ni safbwyntiau gwahanol ynglŷn â Brexit, mae angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn dioddef o ganlyniad i Brexit. Nid wyf yn credu y byddant, oni fydd yr UE yn gwneud penderfyniad gwleidyddol i gosbi'r DU. Felly, mae er budd pawb ohonom ni i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Diolch.
Diolch ichi am y sylwadau. Dydw i ddim yn synnu nad ydych chi wedi newid eich meddwl o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond byddwn wedi meddwl y byddech chi'n realistig, unwaith eto, ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd os ydym ni'n gadael gyda dim bargen neu Brexit caled. Ylwch, o ran y gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rydym ni wedi cael trafodaethau hir ac angerddol rhwng swyddogion, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac, yn wir, mae pob sefydliad sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal ar draws y DU wedi galw ar Lywodraeth y DU, am amser hir, i newid y sefyllfa neu i newid y rheolau ynghylch pobl yn cael eu recriwtio i'n gwasanaeth iechyd. Felly, croesawaf y tro pedol a gyhoeddwyd gan Sajid Javid i ddiddymu'r cyfyngiadau haen 2. Roedd hynny yn gam cadarnhaol ymlaen, ac roedd bob amser o fewn haelioni’r Deyrnas Unedig. Roedd a wnelo hyn ag ynfydrwydd y Swyddfa Gartref yn dweud wrth y gwasanaeth iechyd, 'allwch chi ddim cyfyngu ar y staff y mae eu hangen arnoch chi, y gallech chi eu recriwtio i ddiwallu ein hanghenion iechyd a gofal, oherwydd rydym ni wedi rhoi terfyn artiffisial ar y niferoedd sy'n gallu dod i mewn.' Felly, nid oes a wnelo hynny â'r Undeb Ewropeaidd o gwbl.
Ond rwy'n credu, o ran eich awgrym bod a wnelo hyn â'r Undeb Ewropeaidd yn cosbi'r Deyrnas Unedig, yn y bôn mae a wnelo hyn â, os ydych chi'n gadael clwb, a'ch bod yn dweud, 'does arnaf i ddim eisiau chwarae yn ôl y rheolau; rwyf eisiau'r holl fuddion, ond fe wnaf i benderfynu wedyn beth arall rwyf eisiau ei wneud hefyd', yna dyna'r union sefyllfa na allwn ni fod ynddi. Mae'n rhaid inni gael amrywiaeth o fesurau sy'n ymwneud â realiti sefydliadau a rheolau yr Undeb Ewropeaidd gyfan, ac os ydym ni eisiau elwa ar y rhai hynny, yna bydd angen inni weithredu mewn ffordd sy'n gyson, a chael cytundeb ynglŷn â gwneud hynny.
O ran eich sylw ar ddechrau eich araith, pan wnaethoch chi ddweud nad oes neb eisiau unrhyw gyfyngiadau ar feddyginiaethau ac offer—wrth gwrs nad oes arnom ni eisiau cyfyngiadau, ond mae angen inni gael systemau sy'n caniatáu inni wneud hynny. Felly, dyna pam mae trefniadau ynghylch tollau tramor a masnach o bwys: Mae 47 miliwn o gynhyrchion fferyllol bob blwyddyn yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, a daw tua 39 miliwn yn ôl y ffordd arall. Mae masnach enfawr yn digwydd yma rhyngom ni a gweddill Ewrop, felly mae'r trefniadau tollau a'r trefniadau masnach wirioneddol o bwys yn y maes hwn o weithgarwch hefyd. Maen nhw wedi eu hategu gan systemau ledled yr UE o ran sut mae meddyginiaethau a sut mae offer yn cael eu defnyddio yn Ewrop. Ac mae canolbwynt cyffredin yma: naill ai rydym ni eisiau i hynny barhau, neu rydym ni'n fodlon ysgwyddo cyfyngiadau a fydd yn achosi niwed gwirioneddol i bobl yn ein gwlad. Fy marn i yw na ddylem ni oddef y posibilrwydd hwnnw. Ddylem ni ddim fod eisiau dweud ei bod hi'n dderbyniol i orfod disgwyl chwe mis ar gyfartaledd nes fo meddyginiaethau newydd ar gael, fel yw'r achos bellach yn y Swistir. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n dderbyniol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y byddai hynny'n dderbyniol chwaith.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad hwn sy'n nodi'r glir y risgiau posib i'r GIG yng Nghymru a allai ddod yn sgil Brexit? Mae'n rhaid imi ddweud, dydw i ddim yn cytuno gydag Angela Burns fod a wnelo hyn â dychryn pobl. Rwy'n credu fod â wnelo hyn â wynebu'r realiti a pharatoi pobl ar gyfer hynny, a byddai peidio â gwneud hynny yn anghyfrifol. Yn sicr dydw i ddim eisiau i'n Llywodraeth ni fod mor ddidaro am y mater hwn ag, yn amlwg, y mae Llywodraeth y DU, y Ceidwadwyr ac UKIP.
Mae Rhun yn llygad ei le: mae rhestr hir o faterion y mae'n rhaid inni eu hwynebu yma, a soniodd am un yn arbennig sydd, rwy'n credu, yn un o'r risgiau mwyaf sylweddol sy'n deillio o'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit, a hynny yw cyfranogiad y DU yn y treialon clinigol hynod bwysig sy'n digwydd ledled Ewrop, y wyddoniaeth a'r ymchwil, ac effaith bosib hynny ar y sector gwyddorau bywyd sy'n tyfu yng Nghymru. Rwy'n gwybod y gwnaethoch chi sôn am hynny yn eich ateb i Rhun, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod hyn hefyd wedi ei amlygu gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol, a ddywedodd y cafodd y DU oddeutu €8.8 biliwn mewn cyllid ymchwil gan yr UE rhwng 2007 a 2013, er gwaetha'r ffaith ein bod ond yn cyfrannu €5.4 biliwn ein hunain. Felly, o ran cyllid ymchwil y DU, roedd budd net o €3.5 biliwn, ac aeth €40 miliwn o hynny yn unig ar ymchwil canser.
Felly, o ystyried bod yn rhaid i'r gallu i fanteisio ar rwydweithiau ymchwil a datblygu yr UE barhau i fod yn un o ganlyniadau allweddol y negodiadau Brexit, allwch chi ddweud ychydig mwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cynnwys hynny yn benodol yn rownd derfynol bargen Brexit? Os na chyflawnir hyn eto, pa mor benodol ydych chi'n cynllunio i filwrio yn erbyn hyn, yn enwedig o ystyried eich awgrymiadau bod swyddogion yn rhan o drafodaethau ynghylch y posibilrwydd o gael sefyllfa 'dim bargen'?
Diolch ichi am y cwestiynau. Mae a wnelo hyn â'r her o ba mor gyfrifol y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i fod, o ran negodi telerau bargen i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae a wnelo ef hefyd â beth sy'n digwydd wedyn gyda'r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n credu mai rhan o'r her yw bod yna gwestiwn am arian. Mae cwestiwn hefyd ynghylch gwybodaeth. Felly, rydym ni yn gorgyflawni, o safbwynt y Deyrnas Unedig, o ran sut y caiff arian ymchwil ei ddyrannu, ac rwy'n credu y byddai hi'n eithriadol o anodd cael swm cyfatebol o arian heb barodrwydd Llywodraeth y DU i roi cyllid ychwanegol ar gyfer y maes ymchwil. Hyd yma, mae hi wedi bod yn anodd darbwyllo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi unrhyw fath o ymrwymiad ar y telerau hynny, heb sôn am i Lywodraethau y Deyrnas Unedig fod â rhan yn helpu i ddylunio'r fframwaith hwnnw. Ond, mewn gwirionedd, rwyf yr un mor bryderus am bobl sy'n gallu symud i weithio, ac sy'n bobl y byddai gwledydd eraill yn eu chwenychu ac yn dymuno eu cael hefyd, a'r cyfle i barhau i weithio yn y maes neu'r arbenigedd yr ydych wedi'i ddewis, yr arbenigedd gwirioneddol sydd gennych chi, ac i bobl fynd i rannau eraill o'r byd. Rydym ni mewn gwirionedd yn denu pobl i'r wlad hon oherwydd yr arbenigedd ymchwil sydd gennym ni. A'r bobl hynny: mae'n debygol y byddwn yn colli rhai ohonyn nhw a'r wybodaeth sydd ganddynt—nid yn unig yr arian, ond yr wybodaeth sydd ganddynt—i wledydd eraill. Yn benodol, wrth gwrs, yr eironi yw bod llawer o'r bobl hyn yn dod o'r Undeb Ewropeaidd i ddod i sefydliadau yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, ni ddylem ni dybio y bydd y bobl hynny yn sicr o aros waeth beth sy'n digwydd o ran y fargen, waeth beth fo'r cyllid.
Fe wnaf i un sylw arall am yr hyn y gwnaethoch chi sôn amdano o ran treialon clinigol. Mae'r Undeb Ewropeaidd ar fin cael fframwaith o dreialon clinigol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd, lle daw pobl o wahanol rannau o Ewrop i hwyluso'r cydweithredu hwnnw. Helpodd y Deyrnas Unedig i ysgrifennu'r rheolau ar gyfer hynny. Rydym ni'n helpu i ddylunio'r fframwaith hwnnw fel ei bod hi'n haws gwneud hynny. Os ydym ni wedyn yn ein heithrio ein hunain ohono, rydym yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd i gymryd rhan, hyd yn oed yn llai tebygol y byddwn yn gallu cymryd rhan, ac y byddwn yn rhoi pobl yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig o dan anfantais. Dyna pam rwy'n dweud bod angen ychydig o realiti ac ychydig o onestrwydd ynghylch peidio â chytuno ar fargen, a beth yw ystyr hynny, oherwydd, yn gyflym iawn, byddwn yn gweld y dioddefaint y byddwn yn ei achosi, ac mae modd ei osgoi yn llwyr.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi cael un siaradwr o bob un o'r pleidiau, ac felly mae gennyf dri siaradwr arall. Felly, rwy'n mynd i ofyn i chi roi cyflwyniad byr a gofyn o bosib un neu ddau gwestiwn cryno, byr iawn, os gwelwch yn dda. Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n credu y gallai fod wedi bod ychydig yn fwy cytbwys pe byddech chi wedi sôn am y gronfa arloesi £1.3 biliwn a grybwyllwyd gan Lywodraeth y DU. Mae yna ffyrdd eraill o ymdrin â rhai o'r heriau a grybwyllwyd gennych chi heb fod mor ddigalon am y peth. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ofyn yn benodol i chi oedd: testun y ddadl hon yw 'Brexit—Y Risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru'— ni allaf weld unrhyw beth yn eich datganiad mewn gwirionedd ynglŷn â gofal cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio na fydd hyn yn thema gyson pan rydym ni'n sôn am yr agenda integreiddio. Felly, meddwl wyf i tybed a allwch chi ddweud wrthyf yn arbennig pa rai o'r rhaglenni Ewropeaidd presennol a allai fod ar gael inni ar ôl Brexit yr hoffech chi efallai i ni ymrwymo iddynt, a allai fod o fantais i feithrin arloesedd a gwybodaeth yn y maes gofal cymdeithasol, ac, yn ail, p'un a allwch chi roi rhyw awgrym o sut gawsoch chi'r ffigur y credwch chi sydd gennym ni ar gyfer nifer gwladolion yr UE sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli, oherwydd nad oes gennym ni gofrestr, bod hynny'n anodd, ond rwy'n eithaf awyddus i wybod o le cawsoch chi'r ffigur oherwydd ni fydd rhagdybiaeth syml yn seiliedig ar ffigur y DU yn gywir, o gofio bod 12 y cant o weithlu gofal cenedlaethol yr UE yn gweithio yn Llundain, a dim ond 2 y cant yn gweithio yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, er enghraifft. Diolch.
Rwyf eisoes wedi dweud wrth ateb cwestiynau eraill ein bod yn adolygu data am y gweithlu oherwydd bod arnom ni eisiau deall yn well faint o wladolion yr Undeb Ewropeaidd sy'n gweithio yma yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Ond rydych chi a minnau'n gwybod, os ydych chi'n ymweld ag amrywiaeth o gyfleusterau gofal preswyl yn benodol, byddwch yn cyfarfod pobl o ledled y byd, ac mae llawer o wladolion yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud y gwaith hwnnw. Dyna pam rydym ni'n gwneud ymchwil i ddeall ac i gael darlun mwy cywir. Yn wir, gyda'r maes ymchwil, rydym ni'n sôn am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Felly, caiff yr wybodaeth honno ei rhannu oherwydd rydym ni eisiau gweld y maes ymchwil gofal cymdeithasol yn datblygu.
Ar hyn o bryd, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn fwriadol mynd ati ac yn dewis edrych ar flaenoriaethau gofal cymdeithasol, ac fel y gwyddoch chi a minnau, o safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol, nid yw amryw o'r heriau hyn yn cydnabod y ffiniau taclus rydym ni ar hyn o bryd yn eu llunio o ran y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio. Felly, bron ym mhob un o'r meysydd hynny o weithgarwch ac arbenigedd byddwch yn gweld cyfraniad gofal cymdeithasol fydd o bosib yn cael ei golli o beidio â chael arbenigedd tebyg i'w rannu yn Ewrop. Ond rwy'n wirioneddol gredu mai gormodiaith braidd yw dweud y byddai hyn yn bwrw unrhyw amheuaeth ar yr agenda integreiddio yn y cynllun yr ydym ni mewn gwirionedd wedi ei amlinellu ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ni'n datblygu hynny gydag egni a gydag agwedd wirioneddol gadarnhaol gan ein cydweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol. Byddwn yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda byrddau iechyd ac awdurdodau drwy weddill yr haf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, er fy mod yn synnu, yn ei ddatganiad, bod methiant i gyfeirio at risgiau posib cytundebau masnachu rhyngwladol pe byddem yn gadael yr undeb tollau Ewropeaidd. Siawns mai'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu egwyddorion sylfaenol y GIG wrth iddo nesáu at ei ben-blwydd yn 70 yw cytundebau masnach rhyngwladol newydd dan arweiniad Dr Liam Fox.
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf rydym ni wedi gweld Arlywydd yr Unol Daleithiau yn datgan yn agored mai ei nod mewn trafodaethau masnach gyda'r DU yw gosod prisiau uwch ar gyffuriau er mwyn lleihau prisiau presgripsiynau yn yr Unol Daleithiau a rhoi 'cleifion Americanaidd yn gyntaf '. Felly, bydd cytundebau masnach yn y dyfodol, os cawn ni ein llusgo o'r undeb tollau, yn cael effaith enfawr ar gleifion yng Nghymru, ac os caiff Arlywydd yr Unol Daleithiau ei ffordd, bydd yn rhoi pwysau enfawr, rwy'n credu, ar y polisi presgripsiynau am ddim yr ydym ni'n falch iawn ohono yng Nghymru, a hynny'n briodol hefyd. Nid codi bwganod mo hynny. Rwy'n credu fod hynny'n ffaith syml, resymegol.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet felly yn deall fy anghrediniaeth o ddysgu bod ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd yr economi, wedi dweud ei fod yn fodlon bod Llywodraeth Cymru 'yn yr ystafell drws nesaf' pan gaiff materion datganoledig eu trafod yn nhrafodaethau masnach y dyfodol. Mewn llythyr sydd gennyf at Gadeirydd Pwyllgor Masnach Rhyngwladol Tŷ'r Cyffredin, mae ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dweud:
mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig, dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r trafodaethau—boed hynny 'yn yr ystafell' neu 'yn yr ystafell drws nesaf'.
Onid yw hyn yn safbwynt tila braidd i'w arddel? Siawns na fyddai Llywodraeth Lafur yn barod i chwalu'r drysau i fod mewn trafodaethau ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn enwedig gyda'r bygythiadau sy'n ein hwynebu gydag agenda wahanol iawn yn San Steffan. Felly, fy nghwestiwn uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet yw hyn: onid oes arno eisiau bod wrth wraidd negodiadau masnach y dyfodol pan fo dyfodol y GIG yng Nghymru yn y fantol?
Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol y mae Ysgrifennydd yr economi yn ei wneud yn y fan yna yw ein bod yn disgwyl bod yn rhan o unrhyw drafodaethau mewn meysydd datganoledig, a dyna'r pwynt: rydym ni'n disgwyl cael ein cynnwys. Rydym ni'n disgwyl cael dweud ein dweud gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mae a wnelo hynny â datblygu perthynas gynyddol aeddfed yma yn y Deyrnas Unedig cymaint ag unrhyw beth arall.
Byddwn, fodd bynnag, yn cytuno—. Ylwch, y sylw ynglŷn â Liam Fox—pan fydd pobl yn dweud, 'rydych chi'n codi bwganod yn sôn am ddim bargen. Wrth gwrs bydd bargen', wel, mewn gwirionedd, ef yw'r Gweinidog Cabinet oedd yn sôn yn agored am y posibilrwydd o ddim bargen a'r ffaith bod yn rhaid i hynny fod yn ystyriaeth. Ef yw'r un sy'n codi'r bwganod hyn am fargeinion gyda rhannau eraill o'r byd a fyddai'n gwbl annerbyniol a niweidiol i amrywiaeth o ddiwydiannau yma yng Nghymru, a gwasanaethau cyhoeddus, ac yn wir i'n heconomi. Rwyf hefyd wedi clywed sylwadau gan nid yn unig Arlywydd yr Unol Daleithiau, ond swyddogion eraill yn yr Unol Daleithiau y mae wedi eu penodi, ynglŷn â bod eisiau ceisio newid natur perthynas prisio cyffuriau yn yr Unol Daleithiau, ac i geisio gwneud i bobl eraill dalu mwy am y nwyddau hynny.
Felly, rwy'n cydnabod bod risgiau gwirioneddol i drefniadau eraill. Rwyf hefyd wedi amlinellu, mewn ateb i gwestiynau eraill, y risgiau sy'n ein hwynebu os nad ydym ni'n gallu sicrhau masnach di-dariff a threfniant undeb tollau priodol.
Diolch. Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dim ond i ddweud, rhwng 2017 a 2018, gadawodd 3,962 o nyrsys o'r ardal economaidd Ewropeaidd y proffesiwn nyrsio, yn ôl cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac fe ddaeth dim ond 805 yn eu lle. Dyna'r lefel isaf o recriwtio hyd yma, felly rwy'n credu bod angen inni ei gwneud hi'n glir nad codi bwganod yw hyn—mae'r rhain yn ffigurau go iawn.
Y newyddion da yn hyn o beth yw bod y niferoedd hynny wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers y sôn am Brexit, ond rwy'n credu bod gwir angen inni ei gwneud hi'n glir bod y bygythiadau hyn yn real, maen nhw eisoes yn dechrau digwydd, ac mae hynny heb sôn am yr effeithiau y gallai hynny ei gael ar feddygon, gweithwyr cymorth gofal iechyd, staff arlwyo, staff cadw tŷ a phorthorion, oherwydd maen nhw i gyd yn rhan o gynnal y GIG, ac mae pob un ohonyn nhw yn cyflawni swyddogaeth hanfodol. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n debyg yw: ar ôl llwyddo i ddal gafael ar ein staff nyrsio hyd yma, sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnal hynny yn y dyfodol, yn enwedig os cawn ni 'ddim bargen' yn y pen draw?
Rwy'n credu eich bod yn iawn i nodi'r cwymp trychinebus sydd wedi digwydd eisoes yn nifer y nyrsys o'r Undeb Ewropeaidd a'r ardal economaidd ehangach sy'n gweithio yma yn y Deyrnas Unedig. I raddau helaeth mae'n effeithio ar Loegr ar hyn o bryd, ond dyna'r pwynt: ar hyn o bryd. Ni allwn esgus os bydd hyn yn parhau, os nad oes gennym ni fwy o synnwyr yn y ffordd y mae ein trefniadau yn gweithio yn y dyfodol, na fydd effaith andwyol arnom ni yma hefyd.
Er gwaetha'r hyn y dymunwn ei wneud, ac rydym wedi ymrwymo i'w wneud, i gynyddu'r gweithlu nyrsio yma—rwy'n credu y bu cynnydd o 67 y cant mewn hyfforddiant nyrsio yn ystod y pum mlynedd diwethaf fwy neu lai, felly rydym ni'n gwneud nid dweud drwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf; ac mae'r bwrsari hefyd yn cadw pobl yma yng Nghymru, yn cadw pobl yn y GIG yma yng Nghymru ar ôl iddyn nhw orffen eu hyfforddiant—bydd mwy o reidrwydd nag erioed i wneud hynny os na chawn ni fargen yn y pen draw, oherwydd bydd hi'n anos fyth i recriwtio nyrsys o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n fy nharo wrth fynd i gwrdd â chynrychiolwyr nyrsys, boed yn Unison, y Coleg Nyrsio Brenhinol neu mewn undebau llafur eraill, eu bod yn wirioneddol bryderus ynghylch y rhagolygon ar gyfer dyfodol eu proffesiwn os byddwn yn gadael. Maen nhw eisoes yn clywed cydweithwyr yn sôn nad oes croeso iddyn nhw a'u bod yn ystyried gadael oherwydd eu bod yn poeni am drefniadau yn y dyfodol.
Yn Lloegr, maen nhw wedi newid rhai o'r swyddogaethau yn rhan o'r ymateb. Maen nhw'n cyflwyno gradd newydd o'r enw cydymaith nyrsio. Mae'r prif swyddogion nyrsio y tu allan i Loegr yn credu mai dirprwyo swyddogaeth yw hyn, a'r hyn y maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd yw trosglwyddo dyletswyddau nyrsys cofrestredig i bobl heb y radd broffesiynol honno. Mae gennym ni ateb gwahanol. Mae gennym ni rwydwaith iawn o weithwyr cymorth gofal iechyd—bu rhywun yn yr ystafell hon yn helpu i negodi'r fframwaith hwnnw er mwyn iddyn nhw gael llwybr gyrfa iawn hefyd. Mae angen inni barhau i wneud hynny, i ddatblygu ein gweithlu ein hunain yma, ond ni allwn i ddweud yn onest wrth unrhyw un yn yr ystafell hon o unrhyw barti pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen y byddwn ni'n gallu osgoi'r canlyniadau hynny o ran ein gweithlu a phwy sydd gennym. Bydd yn cynnwys yr arian a wariwn—yr ydym ni'n barod i'w wario—ac, a dweud y gwir, y swyddi y mae ein pobl ni yn barod i ymgymryd â nhw o fewn maes iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.
Felly, mae'r risgiau yn real. Ni ddylai neb eu hanwybyddu. Dylen nhw sylweddoli, heb fargen iawn, bydd rhaid inni wynebu'r canlyniadau ofnadwy hynny a dewisiadau anos fyth.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.