Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 26 Mehefin 2018.
Diolch ichi am y cwestiynau. Mae a wnelo hyn â'r her o ba mor gyfrifol y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i fod, o ran negodi telerau bargen i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae a wnelo ef hefyd â beth sy'n digwydd wedyn gyda'r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n credu mai rhan o'r her yw bod yna gwestiwn am arian. Mae cwestiwn hefyd ynghylch gwybodaeth. Felly, rydym ni yn gorgyflawni, o safbwynt y Deyrnas Unedig, o ran sut y caiff arian ymchwil ei ddyrannu, ac rwy'n credu y byddai hi'n eithriadol o anodd cael swm cyfatebol o arian heb barodrwydd Llywodraeth y DU i roi cyllid ychwanegol ar gyfer y maes ymchwil. Hyd yma, mae hi wedi bod yn anodd darbwyllo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi unrhyw fath o ymrwymiad ar y telerau hynny, heb sôn am i Lywodraethau y Deyrnas Unedig fod â rhan yn helpu i ddylunio'r fframwaith hwnnw. Ond, mewn gwirionedd, rwyf yr un mor bryderus am bobl sy'n gallu symud i weithio, ac sy'n bobl y byddai gwledydd eraill yn eu chwenychu ac yn dymuno eu cael hefyd, a'r cyfle i barhau i weithio yn y maes neu'r arbenigedd yr ydych wedi'i ddewis, yr arbenigedd gwirioneddol sydd gennych chi, ac i bobl fynd i rannau eraill o'r byd. Rydym ni mewn gwirionedd yn denu pobl i'r wlad hon oherwydd yr arbenigedd ymchwil sydd gennym ni. A'r bobl hynny: mae'n debygol y byddwn yn colli rhai ohonyn nhw a'r wybodaeth sydd ganddynt—nid yn unig yr arian, ond yr wybodaeth sydd ganddynt—i wledydd eraill. Yn benodol, wrth gwrs, yr eironi yw bod llawer o'r bobl hyn yn dod o'r Undeb Ewropeaidd i ddod i sefydliadau yma yn y Deyrnas Unedig. Felly, ni ddylem ni dybio y bydd y bobl hynny yn sicr o aros waeth beth sy'n digwydd o ran y fargen, waeth beth fo'r cyllid.
Fe wnaf i un sylw arall am yr hyn y gwnaethoch chi sôn amdano o ran treialon clinigol. Mae'r Undeb Ewropeaidd ar fin cael fframwaith o dreialon clinigol ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd, lle daw pobl o wahanol rannau o Ewrop i hwyluso'r cydweithredu hwnnw. Helpodd y Deyrnas Unedig i ysgrifennu'r rheolau ar gyfer hynny. Rydym ni'n helpu i ddylunio'r fframwaith hwnnw fel ei bod hi'n haws gwneud hynny. Os ydym ni wedyn yn ein heithrio ein hunain ohono, rydym yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd i gymryd rhan, hyd yn oed yn llai tebygol y byddwn yn gallu cymryd rhan, ac y byddwn yn rhoi pobl yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig o dan anfantais. Dyna pam rwy'n dweud bod angen ychydig o realiti ac ychydig o onestrwydd ynghylch peidio â chytuno ar fargen, a beth yw ystyr hynny, oherwydd, yn gyflym iawn, byddwn yn gweld y dioddefaint y byddwn yn ei achosi, ac mae modd ei osgoi yn llwyr.