Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 26 Mehefin 2018.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Hoffwn i ategu ei sylwadau ynglŷn â Martin Bishop, gan fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf i'w deulu a'i ffrindiau ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Er fy mod yn croesawu'r datganiad heddiw a'r ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud ynghylch coetiroedd yng Nghymru, mae'n bwysig hefyd cydnabod bod Cymru'n bell o gyrraedd y cyfraddau plannu sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd y sector yn ddigonol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o gymharu â'n cymdogion mewn rhannau eraill o'r DU. Ers peth amser, mae sectorau coetiroedd, coedwigaeth ac amaethyddol wedi datgan yn gwbl glir bod angen inni gynyddu gorchudd coetir a phlannu mwy o goed. Yn wir, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Gwledig, Newid yn yr Hinsawdd ac Amgylchedd y Cynulliad, fe wnaeth Confor hi'n glir, bod creu coetiroedd yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus hyd yn hyn. Felly, er fy mod yn falch bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blannu mwy o goed a gosod targedau ar gyfer creu coetiroedd, fe fyddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu pontio'r bwlch a achosir gan ddiffyg plannu hanesyddol, fel y gall Cymru wneud cynnydd sylweddol â'r agenda hon, yn hytrach na pharhau i geisio dal i fyny â rhannau eraill y DU.
Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod rhai rhwystrau i blannu, ac fe wnaeth rhanddeiliaid hi'n gwbl glir drwy gydol ymchwiliad Pwyllgor Materion Gwledig, Newid yn yr Hinsawdd ac Amgylchedd bod rhai o'r rhwystrau hynny yn cynnwys problemau yn ymwneud â chynlluniau coetir Glastir. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi ei gwneud hi'n glir bod y broses yn hirfaith a llafurus iawn, ac yn aml, unwaith y bydd wedi'i chymeradwyo, ychydig o amser sydd ar ôl i gwblhau'r gwaith plannu a gosod ffensys i gadw da byw draw. Ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud hefyd nad oes fawr ddim cymhelliant ariannol i ffermwyr blannu coetiroedd. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r pryderon penodol hyn, ac a all hi ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant amaeth i annog mwy o ffermwyr i blannu coetiroedd gan dderbyn bod ffermwyr Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella'r amgylchedd naturiol?
Rwyf yn sicr bod y Gweinidog yn cytuno â fy marn i bod y sector coedwigaeth yng Nghymru yn rhan sylweddol o economi wledig Cymru. Efallai y gall ddweud wrthym pa asesiad wnaeth ei swyddogion o'r effaith gafodd creu Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013 ar y sector coedwigaeth ac a yw hi'n cydnabod pryderon rhai yn y diwydiant na chafodd y sector coedwigaeth ddigon o flaenoriaeth yn y blynyddoedd diwethaf.
Bellach, gydag allbwn blynyddol o 500,000 o fetrau ciwbig o bren wedi'i lifio yn dod o gynnyrch coedwigoedd Cymru, mae'n amlwg bod cyfle da yma i ychwanegu gwerth a thargedu amrywiaeth o farchnadoedd yng Nghymru. O ystyried pwysigrwydd coedwigaeth a phren i'r economi wledig o safbwynt eu cynhyrchion ac o safbwynt swyddi, efallai y gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pa drafodaethau y mae hi'n eu cael gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i'w hargymell nhw'n gryfach i ddefnyddio pren a gynhyrchwyd yn lleol, fel y gwnaeth Powys wrth greu polisi i annog mwy i ddefnyddio cynnyrch pren, sy'n amlwg yn dangos ymrwymiad y sir i ddatblygu ymhellach diwydiant cynnyrch pren a choedwigoedd.
Dywedodd y Llywodraeth yn gynharach, ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd polisi rheoli tir newydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar nwyddau cyhoeddus a choetiroedd â photensial mawr yn y gofod hwn, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw sut yn union bydd coetiroedd yn elwa o dan y polisi newydd ar gyfer rheoli tir ac i ba gyfeiriad newydd bydd y Gweinidog yn mynd gyda'r mater hwn ar ôl Brexit.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith ardderchog a wnaethpwyd gan fy nghyd-Aelod, David Melding ar bolisi coetiroedd, yn enwedig wrth ymwneud â gorchudd coed trefol. Rwy'n falch ei bod hi'n ei gwneud hi'n glir yn ei datganiad heddiw ei bod hi'n bwysig cynyddu nifer y coed mewn amgylcheddau gwledig a threfol. Mae dogfen bolisi 'Dinasoedd Byw' y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth i gadarnhau'r lleiafswm o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol, drwy gynlluniau llesiant lleol a datganiadau ardal erbyn 2030. Mae'r ddogfen hefyd yn galw am siarter ar gyfer coed i amddiffyn ein coed hynaf. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i groesawu gwaith fy nghyd-Aelod ar yr agenda hon ac efallai yn ei hymateb, y bydd hi'n ymrwymo i ystyried ei gynigion ac i weithio'n adeiladol gyda ni ar y mater penodol hwn.
Felly, wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'm cyd-Aelodau yn y Cynulliad i graffu ar hynt Llywodraeth Cymru gyda'i pholisïau coetir wrth iddynt ddatblygu. Diolch.