Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 26 Mehefin 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi newidiadau i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd. Mae'n amserol gwneud hynny yn awr. Wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd daw llawer o heriau i'n rhan, ond cawn hefyd gyfrwng i gynyddu'r enw da sydd gan Gymru o safbwynt nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel, wedi'u seilio ar adnoddau naturiol cadarn. Rwy'n dymuno sicrhau bod gan y sector coedwigaeth bolisïau clir a diweddar i'w helpu i weithio gyda'i gilydd i wynebu'r her hon. Hoffwn hefyd ailddatgan gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a'u swyddogaeth hynod bwysig wrth gyfrannu at reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rwyf wedi gwneud coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau a byddaf yn cyhoeddi diweddariad i'n strategaeth coetiroedd, 'Coetiroedd i Gymru', ac mae copi wedi'i anfon atoch.
Ond, yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Cymru Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd, neu Confor, a fu farw'n ddiweddar. Roedd Martin yn eiriolwr brwd dros goedwigaeth ac fe wnaeth gyfraniadau gwerthfawr i'r strategaeth goetiroedd dros nifer o flynyddoedd. Gwn fod pawb a fu'n gweithio gydag ef yn gweld colled ar ei ôl a hoffwn fynegi'n ffurfiol fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu Martin, i'w ffrindiau a'i gydweithwyr.
Fis nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio ar ôl Brexit a fydd yn ceisio chwalu'r rhwystrau rhwng amaethyddiaeth a choedwigaeth. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys undebau'r ffermwyr, cyrff amgylcheddol a chynrychiolwyr coedwigaeth, i gyflawni defnydd cynaliadwy o dir ar ôl Brexit.
Mae ein polisi adnoddau naturiol yn nodi ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn gwybod y mae ein hamgylchedd yn eu hwynebu. Yn y polisi, rydym ni'n datgan yn glir bod angen mwy o goetiroedd a choed ar Gymru i'n helpu i reoli ein holl adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Nid ydym ni wedi gwneud digon eto i gynyddu'r gwaith o greu coetiroedd ac felly, am y tro cyntaf, rwyf i wedi cyflwyno targedau ar gyfer creu coetiroedd i'r strategaeth. Mae angen coetiroedd amrywiol bach a mawr sy'n cynnwys conwydd a rhywogaethau coed llydanddail. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd bwysigrwydd cynyddu nifer y coed mewn amgylcheddau gwledig a threfol.
Y llynedd, derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylem ni ddiweddaru'r strategaeth. Mae panel cynghori strategaeth coetiroedd Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r strategaeth i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth newydd. Mae hanfodion y weledigaeth a'r strategaeth yn aros yr un fath. Ein gweledigaeth yw cyflawni coetiroedd o ansawdd uchel sy'n fuddiol iawn i bobl, i ddiwydiannau ac i'r amgylchedd.
Ond nid dogfen bolisi yn unig yw'r strategaeth hon. Mae'n rhoi canllawiau ymarferol ynghylch y math o goed a choetiroedd y mae eu hangen yng Nghymru a lle y mae eu hangen nhw. Mae hefyd yn rhoi cyfeiriad clir i reolwyr coetiroedd ac yn sicrhau bod y rhai sy'n rheoli ein coetiroedd yn gallu cyflawni rheolaeth gynaliadwy ar gyfer pob un o'n hadnoddau naturiol. Mae ganddo gysylltiad cryf hefyd drwy safon coedwigaeth y DU â'r safonau ardystio a weithredir gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd a'r rhaglen cymeradwyo ardystio coedwigoedd ar gyfer pren a chynnyrch arall coetir hefyd.
Mae'r strategaeth yn bwysig, ond mae angen camau gweithredu eraill os ydym am gyflawni ei nodau. Fe wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig 13 o argymhellion, ac mae fy swyddogion wrthi'n eu datblygu. Yn benodol, rwy'n benderfynol bod y rhai hynny sy'n dymuno plannu coed yn gwybod yn glir pa fath o goetiroedd sydd eu hangen, a lle y gellir eu plannu. Rydym ni'n dymuno ei gwneud yn haws i blannu'r goeden iawn yn y lle iawn. Mae map y cyfleoedd coetir yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, a byddaf yn cyfarfod â swyddogion safonau coedwigaeth yfory i drafod hyn.
Argymhellodd y pwyllgor hefyd y dylem ni ddarparu mwy o hyfforddiant coedwigaeth. I gefnogi hyn, rydym ni'n chwilio am opsiynau i ddatblygu clwstwr sector dan arweiniad cyflogwyr, â'r nod o gynyddu sgiliau yn y sector coedwigaeth drwy brosiect prentisiaeth newydd. Y nod yw creu hyd at 30 o swyddi prentis newydd yn ardal tasglu'r Cymoedd yn ystod 2019.
Er mwyn darparu gweithlu medrus, proffesiynol ar draws y sector coedwigaeth cyfan, rydym yn defnyddio'r cynllun trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi, i ddarparu cyllid o dros £3.2 miliwn i'r prosiect hyfforddi a sgiliau, Focus on Forestry First.
Ym mis Ebrill, roeddwn yn nathliad 10 mlwyddiant prosiect Plant! Llywodraeth Cymru. Mae hon yn fenter symbylol gyda'i gwreiddiau yn syniad un person ifanc—i blannu coeden ar gyfer pob plentyn a gaiff ei eni a'i fabwysiadu yng Nghymru. Mabwysiadwyd y syniad hwn gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Rwy'n gobeithio y bydd coeden ar gyfer pob plentyn yn grymuso plant i ddeall sut y gallan nhw chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.
Gwyddom y gallwn gyflawni ein huchelgais yn y maes hwn dim ond trwy weithio gyda rhanddeiliaid, y cyhoedd a gwleidyddion, a byddwn i'n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol ein coedwigoedd i gynnig syniadau a chynlluniau a fydd yn ehangu ein coetiroedd yng Nghymru. Bydd ein huchelgeisiau ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n gwlad yn cael eu gwireddu orau trwy weithio gyda'n gilydd. Heddiw, rwy'n ailddatgan ein gweledigaeth ar gyfer coedwigaeth a'n hymrwymiad i weithredu ar ein huchelgais ar gyfer coetiroedd Cymru.