Lles Addysgol Plant Mabwysiedig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:30, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r ddwy ohonom newydd fynychu lansiad yr adroddiad, 'Pontio'r Bwlch', sy'n ymdrin â lles addysgol plant mabwysiedig. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn awyddus i chwarae ein rhan wrth sicrhau bod pob plentyn mabwysiedig neu blentyn sy'n derbyn gofal yn cael cyfle cyfartal yn yr ysgol. Ac er y gwn y bydd penderfyniadau cyllidebol yn cael eu trafod yn y rownd ariannol, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn mewn perthynas ag ymwybyddiaeth a hyfforddi staff, creu amgylcheddau cefnogol i blant mabwysiedig mewn ysgolion, a chamau i sicrhau y bydd data canlyniadau ar gyfer plant mabwysiedig yn cael ei goladu, yn rhan o'ch ystyriaethau wrth ichi fwrw ymlaen â'r gwaith hwn?