Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae'n amlwg yn set o ddiwygiadau nad oes gan y cyhoedd hyder ynddi, a dyna pam fod cyfraddau boddhad yn disgyn o dan eich goruchwyliaeth chi fel Ysgrifennydd y Cabinet. Sylwais na sonioch chi am gyllido yn eich ymateb, gan y gŵyr pob un ohonom fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau sylweddol. Nawr, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau—maent wedi dweud bod y bwlch cyllido fesul disgybl, fesul blwyddyn, rhwng Cymru a Lloegr bellach yn £678 y disgybl. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 i'w wario ar ysgolion yma am bob £1 a werir ar ysgol yn Lloegr. Mae Estyn, eich arolygiaeth eich hun, wedi eich rhybuddio bod cyllid yn peryglu gallu ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd pan fydd yn cael ei gyflwyno. Nawr, a ydych yn derbyn bod yna ddiffyg buddsoddi, fod angen ichi wneud yn well o ran sicrhau bod arian yn cyrraedd y rheng flaen yn ein hysgolion, a beth rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod gan ysgolion adnoddau i ddarparu'r addysg o'r radd flaenaf y mae ein plant yn ei haeddu?