Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 27 Mehefin 2018.
Wel, wrth gwrs, Darren, rwy'n derbyn yn llwyr fod yna bwysau cyllido o fewn y system addysg, gan mai fi sy'n gorfod gwneud y gwaith annymunol o wneud y dewisiadau anodd hynny, ond mae arnaf ofn mai fel hyn y mae agenda gyni Dorïaidd yn edrych. Ni allwch ddweud ar y naill law fod arnoch eisiau cyni a dweud ar y llaw arall fod arnoch eisiau buddsoddiad pellach yn ein gwasanaethau cyhoeddus, pan fo'ch cymheiriaid yn Llundain yn gwneud i'r gwrthwyneb. Lywydd, gadewch imi egluro: dros dymor y Cynulliad hwn, byddwn yn buddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion. Byddwn yn buddsoddi £2.4 biliwn ym mand B ein rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Eleni, byddwn yn buddsoddi dros £90 miliwn yn y grant datblygu disgyblion, gan effeithio ar gyfleoedd bywyd ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ond mae arnaf ofn nad wyf am wrando ar bregeth gan wleidydd Ceidwadol sy'n dilyn mantra mewn lle arall o dorri gwariant cyhoeddus yn hytrach na buddsoddi.