Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n sylweddoli y byddwch yn gyndyn i sôn am achos penodol, felly rwy'n defnyddio hyn fel enghraifft yn unig. Mae gennyf etholwr a gafodd wybod gan y cyngor lleol y byddai disgwyl i'w merch 11 oed fynd ar fws ysgol, ac yna i fynd ar fws cysylltu cyhoeddus er mwyn mynd i ysgol oddeutu 15 i 20 milltir i ffwrdd. Mae'n debyg nad yw honno'n stori anghyffredin ledled Cymru. Ychydig yn ôl, hefyd, bûm yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda grŵp o bobl ifanc a oedd yn teithio adref o'u hysgol uwchradd. Er ei bod yn bleser cyfarfod â phobl ifanc disglair a chall iawn, roedd yn peri pryder, gan y gallai fod gofyn i blentyn 11 oed gwblhau'r daith honno ar eu pen eu hunain. Roedd y daith yn golygu dod i gysylltiad â ffyrdd prysur a dieithriaid llwyr, ac er y bydd y mwyafrif helaeth o'r cyd-deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn bobl weddus a gonest, mae gennym ddyletswydd i ddiogelu plant a phobl ifanc, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ynglŷn â hynny. Felly, pa wiriadau rydych yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac ysgolion eu cwblhau cyn is-gontractio cludiant ysgol, neu benderfynu bod yn rhaid i blant deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r ysgol?