Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 27 Mehefin 2018.
Yn gyntaf, a gaf fi ddweud bod nifer fawr iawn o blant yn teithio i'r ysgol ar drafnidiaeth cyhoeddus ac yn gwneud hynny'n llwyddiannus ac yn ddiogel bob dydd? Mewn gwirionedd, mae trafnidiaeth ysgol yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a nodir y rheolau ynghylch cludiant ysgol ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a gyflwynwyd gan y Cynulliad sawl blwyddyn yn ôl. O dan y ddeddfwriaeth honno, mae gan rieni hawl i ofyn i'w hawdurdod lleol gynnal asesiad o lwybrau diogel er mwyn sicrhau bod y llwybrau y mae'r awdurdodau lleol yn gofyn i bobl ifanc deithio arnynt wedi bod yn destun asesiad risg ac wedi'u harchwilio'n briodol o ran diogelwch dysgwyr. Buaswn yn dweud wrth eich etholwr, drwoch chi, fod angen iddynt fynd ar drywydd yr opsiwn cyntaf hwnnw gyda'u hawdurdod addysg lleol er mwyn cynnal dadansoddiad o lwybrau diogel i'r ysgol ac i sicrhau bod hynny'n agored i drafodaeth.