Dyrannu Adnoddau i Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:10, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel y gwyddoch, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog ar gael yn Lloegr i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog, ac mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn galw am gronfa debyg i ysgolion yng Nghymru ar gyfer oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £200,000 o gyllid eleni i ysgolion wneud cais amdano i gefnogi plant y lluoedd arfog, ond mae pryder ynghylch yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, sut rydych yn ymateb i'r alwad gan y lleng a chymuned ehangach y lluoedd arfog yng Nghymru am bremiwm disgyblion lluoedd arfog, fel yr hyn sydd ganddynt yn Lloegr, fel y gall pob ysgol gael cyllid ar gyfer pob un o blant y lluoedd arfog?