1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau i ysgolion yng Nghymru? OAQ52408
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion yn eu siroedd.
Diolch. Fel y gwyddoch, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog ar gael yn Lloegr i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog, ac mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn galw am gronfa debyg i ysgolion yng Nghymru ar gyfer oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £200,000 o gyllid eleni i ysgolion wneud cais amdano i gefnogi plant y lluoedd arfog, ond mae pryder ynghylch yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, sut rydych yn ymateb i'r alwad gan y lleng a chymuned ehangach y lluoedd arfog yng Nghymru am bremiwm disgyblion lluoedd arfog, fel yr hyn sydd ganddynt yn Lloegr, fel y gall pob ysgol gael cyllid ar gyfer pob un o blant y lluoedd arfog?
Mark, rwy'n falch iawn fod ysgolion wedi gallu gwneud cais am yr adnoddau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu eleni i gefnogi anghenion addysgol plant y lluoedd arfog yn dilyn y toriadau a wnaed i'r cyllid hwnnw gan yr adran amddiffyn o dan eich Llywodraeth chi yn Llundain.
Gadewch i mi fod yn glir: rydym yn parhau i ystyried a oes tystiolaeth i awgrymu bod plant i bersonél ein lluoedd arfog o dan anfantais addysgol, yn yr un modd ag y gwyddom sy'n wir yn aml iawn, er enghraifft, am ein plant tlotaf, am ein plant sy'n derbyn gofal, ac am ein plant sydd wedi'u mabwysiadu. A byddwn yn parhau i ystyried, o fewn cyfyngiadau'r adnoddau sydd ar gael, sut y gallwn barhau i gefnogi'r plant hynny fel rydym eisoes yn ei wneud eleni. Rwy'n ddiolchgar i gymuned y lluoedd arfog am eu gwasanaeth i'n cenedl, ac nid wyf am i'r gwasanaeth hwnnw gael effaith andwyol ar addysg eu plant, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.