Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb, ac wrth gwrs, credaf fod pob un ohonom yn deall bod ysgolion yn teimlo pa mor bwysig yw sicrhau bod eu ffigurau presenoldeb mor uchel â phosibl a pha mor bwysig yw presenoldeb uchel mewn ysgolion ac i addysg plant. Yr hyn sydd wedi'i ddwyn i fy sylw gan nifer o deuluoedd, fodd bynnag, yw y bydd plant sydd ag anableddau sylweddol sy'n ei gwneud yn angenrheidiol iddynt fod yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd er mwyn cael triniaeth ac ati—ymddengys bod system yn datblygu er mwyn annog presenoldeb lle mae systemau gwobrwyo presenoldeb ar waith mewn ysgolion er mwyn annog presenoldeb, a cheir amryw o systemau o'r fath ledled Cymru. Ond wrth gwrs, yr ymateb a gaf gan rai o'r teuluoedd, ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i fy etholaeth i yn unig, yw bod y plant hyn yn gofyn, 'Wel, pam na allaf fi ennill tystysgrif? Pam na allaf fi gael gwobr? Rywsut, rwy'n methu yn hynny o beth.' Ac ymddengys i mi fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Ni chredaf fod unrhyw beth maleisus ynglŷn â hyn, ond credaf fod problem wirioneddol wedi dod i'r amlwg a bod angen ei hystyried er mwyn sicrhau bod plentyn sydd ag anabledd nad yw'n gallu bod yn bresennol o hyd yn cael tystysgrif am fod yn bresennol hyd eithaf eu gallu, ac mae angen inni sicrhau dull felly o weithredu.