1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ystyriaeth a roddir i absenoldeb oherwydd anabledd wrth gasglu ffigurau presenoldeb ysgol? OAQ52396
Diolch, Mick. Rydym eisoes yn ystyried absenoldeb oherwydd anabledd wrth gasglu ein hystadegau ar absenoldeb o'r ysgol. Ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rydym yn casglu amrywiaeth o ystadegau ar absenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion, sy'n cynnwys data'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig.
Diolch am eich ateb, ac wrth gwrs, credaf fod pob un ohonom yn deall bod ysgolion yn teimlo pa mor bwysig yw sicrhau bod eu ffigurau presenoldeb mor uchel â phosibl a pha mor bwysig yw presenoldeb uchel mewn ysgolion ac i addysg plant. Yr hyn sydd wedi'i ddwyn i fy sylw gan nifer o deuluoedd, fodd bynnag, yw y bydd plant sydd ag anableddau sylweddol sy'n ei gwneud yn angenrheidiol iddynt fod yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd er mwyn cael triniaeth ac ati—ymddengys bod system yn datblygu er mwyn annog presenoldeb lle mae systemau gwobrwyo presenoldeb ar waith mewn ysgolion er mwyn annog presenoldeb, a cheir amryw o systemau o'r fath ledled Cymru. Ond wrth gwrs, yr ymateb a gaf gan rai o'r teuluoedd, ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i fy etholaeth i yn unig, yw bod y plant hyn yn gofyn, 'Wel, pam na allaf fi ennill tystysgrif? Pam na allaf fi gael gwobr? Rywsut, rwy'n methu yn hynny o beth.' Ac ymddengys i mi fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Ni chredaf fod unrhyw beth maleisus ynglŷn â hyn, ond credaf fod problem wirioneddol wedi dod i'r amlwg a bod angen ei hystyried er mwyn sicrhau bod plentyn sydd ag anabledd nad yw'n gallu bod yn bresennol o hyd yn cael tystysgrif am fod yn bresennol hyd eithaf eu gallu, ac mae angen inni sicrhau dull felly o weithredu.
Mick, diolch o galon am godi hyn, a chytunaf yn llwyr â chi na ddylai plant ag anabledd deimlo eu bod yn cael eu cosbi neu deimlo'n ddigalon neu'n annigonol mewn unrhyw ffordd yn yr ymgyrch gyffredinol i hybu presenoldeb cyffredinol. Rwy'n cydnabod y gall gwobrau gymell disgyblion eraill i fod yn bresennol, ond ni all fod y tu hwnt i allu ysgolion unigol i ddeall bod cyfnodau o absenoldeb i rai plant, naill ai oherwydd salwch neu oherwydd yr angen i fynychu nifer fawr o apwyntiadau, mewn cyfleusterau sy'n aml yn bell iawn o'r ysgol, gan olygu na allant fynd i'r ysgol am hanner diwrnod neu ran o sesiwn, hyd yn oed—ni ddylid eu cosbi yn y ffordd honno.
Mae ein canllawiau statudol 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd' hefyd yn pwysleisio'r pwynt hwnnw, ei bod yn anaddas cosbi plant am absenoldeb o ganlyniad i'w hanabledd. Byddaf yn edrych i weld pa ddulliau cyfathrebu sydd gennym gyda'n proffesiwn addysgu, ein hysgolion a'n hawdurdodau addysg lleol i atgyfnerthu'r neges yn y canllawiau hynny nad yw'r arferion sydd mewn perygl o wahaniaethu yn erbyn plant oherwydd eu hanabledd yn addas neu'n dderbyniol. Yn wir, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o gydnabod cyflawniadau'r plant hynny yn eu hysgolion, yn wyneb anawsterau mawr weithiau.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.