Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu safbwyntiau ar y mater pwysig hwn a drafodwyd gennym o'r blaen ac rwy'n gobeithio y gallwn ei drafod eto yn y dyfodol ar ôl gwneud penderfyniad. Yn ei gyfarfod diweddaraf ar 6 Mehefin, rhoddodd panel arbenigol annibynnol y Deyrnas Unedig ar faterion imiwneiddio y clywsom amdano heddiw—y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—ystyriaeth bellach i ymestyn y brechiad HPV i gynnwys bechgyn. Mae adroddiadau ar y drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw wedi ymddangos mewn rhai rhannau o'r cyfryngau, ond mae'r cyd-bwyllgor eto i gyhoeddi datganiad yn rhoi ei gasgliadau terfynol a chyngor. Rwy'n disgwyl i hwnnw fod ar gael yn fuan iawn, ac yn sicr cyn diwedd mis Gorffennaf. Felly, mae'r cyngor ar fin ymddangos.
Nawr, er gwaethaf anogaeth yr Aelodau heddiw, ni allaf achub y blaen ar yr hyn y bydd y datganiad hwnnw yn ei ddweud, ond hoffwn ymateb i beth o'r drafodaeth heddiw. Fel y dywedwyd, ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mae brechiadau HPV wedi cael eu cynnig fel mater o drefn i ferched yn eu harddegau ers 2008, ac ers ei gyflwyno, dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, fod nifer y menywod ifanc a heintiwyd â HPV wedi gostwng yn ddramatig hyd at 86 y cant rhwng 2010 a 2016. Disgwylir y bydd yr amddiffyniad yn hirdymor, ac yn y pen draw yn achub cannoedd o fywydau y flwyddyn. Fel y dywedodd nifer o'r Aelodau heddiw, mae hyn yn ymwneud ag achub bywydau. Y newyddion da yw bod y brechiad HPV mewn merched yn darparu rhywfaint o amddiffyniad anuniongyrchol i fechgyn, a gwn fod Rhun ap Iorwerth wedi sôn am hyn, ac yn benodol soniodd am gyfraddau brechu. Mewn gwirionedd, mae cyfraddau brechu yng Nghymru yn gymharol uchel. Y ffigurau diwethaf oedd 83 y cant ac maent yn gwella, gydag 89 y cant yng Nghwm Taf a 79 y cant ym Mhowys. Felly, mae mwy i'w wneud bob amser. Ond ym mis Ebrill 2017, eto mewn ymateb i gyngor y cyd-bwyllgor, cyflwynwyd rhaglen gennym wedi'i thargedu ar gyfer dynion sy'n cael rhyw gyda dynion, a gwnaed hynny mewn modd amserol, gan weithredu ar y cyngor a ddiweddarwyd gan y cyd-bwyllgor.
Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol hynny, nodaf o'r ddadl heddiw a gohebiaeth flaenorol gan eraill, gan gynnwys amrywiaeth o glinigwyr mewn nifer o feysydd gwahanol, fod yna bryderon yn parhau ynglŷn â mynediad cyfartal at y brechiad HPV a dibyniaeth ar imiwnedd poblogaeth yn hytrach na chynnig amddiffyniad uniongyrchol i ddynion a bechgyn. Rwy'n ymwybodol fod y pryderon wedi'u dwyn i sylw'r cyd-bwyllgor gan nifer o ffynonellau fel rhan o'r ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddi eu datganiad interim y llynedd. Nawr, mae eu hadolygiad ers hynny wedi cymryd mwy o amser nag y byddai neb ohonom wedi dymuno, ond mae bellach yn dod i gasgliad, fel y dywedais yn fy sylwadau cynharach. Roedd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar nifer o faterion cymhleth a'r cyd-bwyllgor ei hun sydd yn y sefyllfa orau i'w hasesu, nid yn lleiaf mewn perthynas â chosteffeithiolrwydd, er y bydd yna benderfyniad i mi ei wneud ar ei ddiwedd. Ni chredaf y dylem droi cefn ar bwysigrwydd costeffeithiolrwydd oherwydd mae angen i ni werthuso manteision posibl rhaglenni cenedlaethol yn deg, yn gyson ac yn drylwyr. Mae angen inni sicrhau gwerth am arian a'r budd iechyd mwyaf sy'n bosibl i'r boblogaeth.
Rwy'n anghytuno â phwynt Angela Burns ynglŷn â pha mor hawdd y gallai fod i dynnu'r pedwar neu bump eitem a enwyd oddi ar y rhestr bresgripsiynu. Nid wyf yn credu y gallech osgoi ailgyflwyno prawf modd drud ar gyfer gwneud hynny, ac nid wyf yn credu ychwaith ei fod yn hawdd, fel yr awgrymwyd, nac ychwaith y byddech yn sicrhau'r arbedion cost y mae hi'n eu nodi, ac wrth gwrs, ceir gwahaniaethau ar sail egwyddor ynglŷn â pharhad ein polisi presgripsiynau am ddim.
Ond rwyf am wneud hyn yn glir oherwydd gwn fod nifer o bobl wedi cyfeirio at dystiolaeth a safbwyntiau grwpiau ymgyrchu eraill a grwpiau sydd â diddordeb yn y maes hwn ac sydd eisiau gweld newid cadarnhaol, ond nid wyf yn credu y gallwch ddiystyru'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu fel y corff awdurdodol y mae holl deulu GIG y DU gyfan yn dibynnu arno i'w helpu i wneud dewisiadau a arweinir gan dystiolaeth ynghylch imiwneiddio a brechu. Pan fydd eu datganiad ar gael yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn gwrando ar y cyngor yn ofalus cyn penderfynu ar y ffordd orau o fwrw ymlaen yng Nghymru. Fodd bynnag, rwyf am sicrhau'r Aelodau y byddaf yn blaenoriaethu ystyriaeth o'r cyngor hwnnw ac yna'n gwneud penderfyniad y byddaf yn atebol amdano, ond byddaf yn gwneud hynny mewn modd amserol, yn sicr, heb unrhyw oedi hir.