9. Dadl Plaid Cymru: Canserau'r pen a'r gwddf

– Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:41, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 9 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ganserau'r pen a'r gwddf, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6751 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf ymhlith dynion.

2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu rhag y mathau hyn o ganser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei rhaglen brechu HPV i'r holl fechgyn yn eu glasoed.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:41, 27 Mehefin 2018

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n falch o gael agor y ddadl yma heddiw am ehangu y brechlyn feirws papiloma dynol, sef y brechlyn cyntaf un i gael ei ddatblygu yn erbyn canser. Mae hynny, yn llyfrau unrhyw un, yn ddatblygiad mawr. I ryw raddau, wrth gwrs, mae yna fantais yn cael ei gymryd o'r datblygiad mawr yna drwy fod y brechlyn yn cael ei gynnig i ferched yn eu llencyndod, ac i ddynion sy'n cael rhyw efo dynion. Ond nid ydym ni, eto, yn cynnig y brechlyn yma i fechgyn ifanc, er gwaethaf y dystiolaeth glir iawn o effeithlonrwydd y brechlyn yn atal canser difrifol, gan gynnwys canserau'r pen a'r gwddf. Byddai defnyddio'r brechlyn yn ehangach hefyd yn ehangu'r amddiffyniad i ferched yn erbyn canser gwddf y groth.

Gwnaf i droi yn syth at welliant y Llywodraeth, sydd fwy neu lai yn dweud eu bod nhw am anwybyddu argymhellion Cancer Research UK a phob oncolegydd yn y wlad, cyn belled ag y gwelaf i, a disgwyl am argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn lle hynny. Nid oes gen i amheuaeth mewn difrif beth fydd yr argymhelliad yna, sydd yn gofyn y cwestiwn: pam aros? Ond rydw i yn meddwl ei bod hi nid yn unig yn deg ond yn bwysig i ailedrych ar argymhelliad cynharach y JCVI i beidio ag ehangu’r brechlyn, a pham y gwnaethon nhw’r argymhelliad yna, achos mae o’n codi materion go sylfaenol, rydw i'n meddwl. A ydyw’r dulliau presennol sydd gennym ni o ddadansoddi effeithiolrwydd cost—nid oes yna neb yn amau'r effeithiolrwydd clinigol—a ydyw’r dulliau yna wir yn addas ar gyfer yr oes yma?

Rhesymau blaenorol y JCVI am beidio ehangu’r rhaglen oedd am eu bod nhw’n teimlo y byddai lles brechu yn cael ei ehangu i fechgyn beth bynnag, gan y byddai brechu lot o ferched yn darparu amddiffyniad heidiol sylweddol i fechgyn. Ond rydym ni’n credu bod y casgliad yma yn ddiffygiol am sawl rheswm. Mi af i drwyddyn nhw. Mae e wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth y byddai yna lefel uchel iawn o ferched yn derbyn y brechlyn—rhywbeth sydd ddim yn wir, yn anffodus, oherwydd yr amrywiad anferth yna sydd yna rhwng gwahanol grwpiau, ac yn rhywbeth sy’n gallu cael ei roi mewn peryg gan un stori ddychryn am frechlyn, fel yr ydym ni yn gweld yn ymddangos yn y wasg o bryd i’w gilydd. Mae o’n cymryd yn ganiataol y dylai’r cyfrifoldeb am ddarparu amddiffyniad heidiol ac atal heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol gael ei roi ar ferched. Pam ddim dadlau, er enghraifft, fod rhaglen frechu bechgyn yn unig yn ddigonol i ddarparu imiwnedd heidiol i ferched? Yn drydydd, mae yna'n dal nifer sylweddol o ferched, fel roeddwn i’n ei ddweud, sydd ddim wedi cael eu brechu ac felly a allai drosglwyddo'r feirws i ddynion a fyddai, fel arall, wedi cael eu hamddiffyn petasent wedi eu brechu eu hunain. Pedwar: mi oedd yn farn gan y JCVI a oedd yn seiliedig, mae’n ymddangos, ar ragdybiaethau heteronormadol, sef bod pob dyn yn heterorywiol. Mae hyn, rydw i'n meddwl, yn cael ei gydnabod yn rhannol gan y penderfyniad a ddaeth maes o law i ymestyn brechu MSM, a hynny’n benderfyniad a gafodd ei wneud ar wahân. Mae hi'n bryderus ac mi allai fod yn beryglus hefyd i ddim ond rhoi brechlyn i ddynion sy'n fodlon datgelu eu rhywioldeb, a drwy dybio nad yw hyn yn broblem mae'r JCVI, rydw i'n meddwl, yn dangos yr angen am hyfforddiant cydraddoldeb ehangach yn y sector iechyd.

Mi fyddai brechu bechgyn, fel rydw i'n dweud, yn darparu lefelau uwch o imiwnedd heidiol ymysg merched, sy'n golygu y dylem ni ystyried y budd ychwanegol i ferched yn benodol o frechu bechgyn. Mae'r dystiolaeth wedyn o effeithlonrwydd mewn atal canserau eraill wedi cryfhau ers y dadansoddiad gwreiddiol. Mae hynny'n bwysig i'w nodi, ac mae yn debygol hefyd o fod yn gryfach byth dros amser. Os nad oedd y brechlyn eisoes yn cael ei ddefnyddio, rydw i'n meddwl y byddai casgliadau'r JCVI am gyflwyno rhaglen gyffredinol ar draws y boblogaeth ferched a bechgyn siŵr o fod yn wahanol. Hynny ydy, petasai'r brechlyn yn cael ei gyflwyno o'r newydd rŵan, rydw i'n siŵr mae rhaglen gyffredinol fyddai gennym ni. 

Yn olaf, wrth ystyried canlyniad y dadansoddiad effeithlonrwydd cost, rydw i'n meddwl bod yna danamcangyfrif difrifol o'r gost effeithlonrwydd cyflwyno brechlyn ar gyfer bechgyn. Y rheswm, rydw i'n meddwl, ydy oherwydd nad yw’r budd yn dod tan ymhell iawn i lawr y trac. Rŵan mae'r gost yn cael ei thalu o roi'r brechlyn, pan o bosibl na fydd y canser yn cael ei atal am 50 mlynedd. Rŵan, rydw i'n ofni bod y prosesau o fesur cost effeithlonrwydd yn methu â delio efo'r math yna o oedi. Rydw i'n meddwl bod y JCVI ei hunan yn nodi'r problemau hyn, a'r ffaith bod eu dwylo nhw, mewn ffordd, wedi'u clymu, oherwydd yn eu dadansoddiad interim maen nhw'n dweud hyn:

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:46, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y dadleuon a wnaed gan randdeiliaid ar fater mynediad cyfartal a bod manteision clinigol ychwanegol y gellid eu cyflawni mewn dynion gyda rhaglen niwtral o ran rhyw. Dymuna'r Pwyllgor gyfeirio mater mynediad cyfartal felly at yr Adran Iechyd i'w ystyried.

Mewn geiriau eraill, Ysgrifennydd y Cabinet, maent am i chi wneud y penderfyniad. Credaf nad yw'r syniad y gallai hyn fod yn rhy ddrud yn dal dŵr. Mae'r amcangyfrif o'r gost o ymestyn y rhaglen i gynnwys bechgyn oddeutu £0.5 miliwn y flwyddyn. Ni fyddai ond angen inni atal saith neu wyth o achosion o ganser bob blwyddyn, a byddai cyflwyno'r brechlyn hwn yn sicr o wneud hynny, i adennill y gost hon. Yn wir, mae'r unig reswm y defnyddiwyd y ddadl ynghylch costeffeithiolrwydd yn seiliedig ar y syniad y gallwn gael y manteision o'r brechlyn yn rhad drwy ragdybio imiwnedd poblogaeth ar sail rhaglen i ferched yn unig. Fel y gobeithiaf fy mod wedi amlinellu, mae hyn yn ddiffygiol, a chredaf y dylai'r Llywodraeth newid ei meddwl yn awr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:48, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Angela Burns.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau o Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, a byddwn yn ei chefnogi'n llwyr, oherwydd yn y GIG heddiw rydym yn gyson yn sôn am yr angen i atal yn hytrach na gwella ac onid yw atal gymaint yn haws, ac os gallwn fynd allan a dal pobl a fyddai'n ddigon anffodus i ddatblygu canser o'r math hwn, gadewch i ni geisio ei atal, a gadewch i ni geisio ei atal yn awr.

Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, nid yw'n costio gormod o arian pan edrychwch ar effeithiau hyn yn nes ymlaen. Gadewch i ni feddwl nid yn unig am yr unigolyn a beth y gallent fod yn ei ddioddef, ond am y gost o ran cyflogaeth, y gost o ran holl gymorth y wladwriaeth, a'r gost o ran yr effaith ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Felly, credaf fod yn rhaid inni lynu wrth yr agenda atal, ac mae'n cysylltu'n glir iawn â'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn dweud y dymunant weld y cyfeiriad teithio'n mynd. Rydym yn gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb, i gamu ymlaen, ac rydym yn dweud, 'Collwch bwysau, rhowch y gorau i ysmygu, a gwnewch fwy o ymarfer corff', a dyma rywbeth y gallem ei wneud yn eithaf hawdd a fyddai'n helpu i ddileu rhai o'r peryglon o ddatblygu clefydau hynod o annymunol.

Nid ydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nad yw erioed wedi'i wneud o'r blaen. Gadewch inni fod yn glir iawn: mae bechgyn yn eu harddegau yn cael hyn mewn nifer o wledydd ledled y byd, Seland Newydd ers 2008—roeddent ar flaen y gad go iawn—Awstria, Croatia, rhannau helaeth o Ganada—tua phedair o daleithiau mawr Canada—a'r gwersi a ddysgwyd ganddynt yw y bydd prisiau'r brechiad yn gostwng gydag arbedion maint. Felly, unwaith eto, mae'n anodd iawn edrych ar hynny a gwrthod yr awydd i'w wneud.

Ond yn anad dim, rydym yn dweud o hyd cymaint y dibynnwn ar ein clinigwyr, cymaint o angen ein clinigwyr sydd arnom i wneud y penderfyniadau gorau drosom, ac mae ein clinigwyr wedi dweud yn glir iawn, a hoffwn gyfeirio at un ohonynt, Dr Evans. Mae hi'n oncolegydd clinigol ymgynghorol yn ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, ac mae wedi dweud—nid wyf hyd yn oed yn mynd i ddweud beth yw'r enw torfol ar y canserau hyn i gyd, nid wyf yn siŵr y gallwn ei ynganu, ond yn y bôn, mae canserau'r pen, y gwar, y tonsiliau, y tafod a'r gwddf wedi treblu yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae hi'n dweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y canserau hyn a HPV. Felly, dyma glinigydd uchel iawn ei pharch, clinigydd byd enwog, sydd wedi arwain ymgyrch—ymgyrch gref, oherwydd fe wnaethom ei chefnogi, y Ceidwadwyr Cymreig—ym mis Awst y llynedd pan ddywedodd yn glir iawn, 'Dylem edrych ar hyn'. Felly, unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r adolygiad seneddol, y weledigaeth ar gyfer iechyd, dan arweiniad clinigwyr, penderfyniadau clinigwyr—mae clinigwyr yn dweud y dylem edrych ar hyn, a chredaf y dylech wneud hynny.

Nid wyf yn hollol glir sut y cafodd Rhun ap Iorwerth y ffigurau cyllid, oherwydd rhaid imi ddweud wrthych yn onest fod fy ffigurau i'n sylweddol uwch na'ch rhai chi, ond rwy'n barod iawn i ddweud y gallai fy ffigurau fod yn anghywir—ond fe ddeuthum o hyd i ateb hefyd. Bydd yn amhoblogaidd dros ben, rwy'n gwybod, ond ceisiwch beidio â hisian gormod, ond mae dadansoddiad o ddata GIG Cymru yn amcangyfrif, pe bai paracetamol, asbirin, ibuprofen a co-codamol yn cael eu tynnu oddi ar restr GIG Cymru o feddyginiaethau am ddim i'r rheini nad ydynt yn amddifad neu'n agored i niwed neu bobl â chyflyrau cronig, byddai'n arbed tua £16 miliwn bob blwyddyn. Pan allaf fynd i'r archfarchnadoedd mawr iawn—byddai'n well i mi beidio â'u henwi—i brynu pecyn o ibuprofen am 32c, a bod pobl eraill yn gallu cael triniaeth sy'n achub eu bywyd—. Oherwydd nid yw arian yn tyfu ar goed, felly mae gennyf beth cydymdeimlad, oherwydd credaf y bydd yn costio mwy na £0.5 miliwn. Pe baem yn ystyried rhoi cymhorthdal i frechu 36,000 o fechgyn 12 i 13 oed Cymru, byddai'n costio—ar gost o oddeutu £300, sef yr hyn y mae fferyllydd stryd fawr enwog iawn yn ei godi ar hyn o bryd, byddai'n costio £11 miliwn amcangyfrifedig fan bellaf i'r GIG.

Felly, yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod atal yn well na gwella. Rydym yn ceisio cael neges iechyd y cyhoedd, rydym yn ceisio atal pobl rhag mynd yn sâl, fel bod y gost hirdymor i'r GIG ei hun, i'r wladwriaeth yn gyffredinol, i gyflogaeth, a'r pwysau ofnadwy y mae'n ei roi ar yr unigolyn ac ar deuluoedd—os gallwn ddechrau dileu hynny i gyd, nid oes unrhyw reswm yn y byd pam na ddylem fwrw ymlaen, gwrando ar y clinigwyr, a gwneud hyn. A gallwch ei fforddio drwy ofyn i rywun fel fi, sy'n ennill yr arian rwy'n ei ennill, i dalu 32c am fy ibuprofen, tra byddwch chi'n parhau i amddiffyn y bobl agored i niwed a'r bobl dlawd.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:53, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am wneud y cynnig sydd ger ein bron heddiw.

Y feirws papiloma dynol, neu'r enw haws i'w ynganu HPV, yw'r feirws a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin ar y blaned. Credir y bydd pedwar o bob pump o bobl yn cael un o'r 100 neu fwy o fathau o'r feirws ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn y mwyafrif llethol o achosion, nid yw'r dynion a'r menywod sydd wedi'u heintio yn dangos unrhyw symptomau allanol a byth yn gwybod eu bod wedi dal y feirws yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gwyddys bod haint HPV yn gyfrifol am bron 2 y cant o'r holl ganserau yn y DU. Oherwydd y cysylltiad agos hwn â rhai mathau o ganser—canser ceg y groth yn arbennig, lle y credir bod 99.7 y cant o'r achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan haint HPV—gwnaed penderfyniad i frechu pob merch rhwng 12 a 18 oed. Ar y pryd, ystyrid ei bod yn rhy ddrud i frechu bechgyn er mwyn atal canser ceg y groth. Fodd bynnag, daeth tystiolaeth i'r amlwg yn cysylltu math 16 a math 18 o HPV â chanserau'r anws a'r pidyn, a rhai canserau'r pen a'r gwddf.

Mae'r dystiolaeth hon wedi'i chadarnhau gan ddatganiad interim y cydbwyllgor ar imiwneiddio a brechu ar ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau. Mae'r cydbwyllgor yn cyfeirio at y dystiolaeth sy'n cynyddu ynglŷn â'r cysylltiad rhwng HPV a chanserau eraill heblaw canser ceg y groth. Fodd bynnag, mae'r cydbwyllgor yn ystyried dyfarnu yn erbyn gweithdrefn imiwneiddio ar gyfer dynion ifanc oherwydd bod y modelau a ddefnyddiwyd ganddynt yn dangos nad yw'n gosteffeithiol. Ond sut y gall fod yn gosteffeithiol i beidio ag imiwneiddio bechgyn yn eu harddegau? Mae'n fater o ychydig gannoedd o bunnoedd i frechu bachgen yn ei arddegau, yn erbyn y gost o drin y bechgyn neu'r merched y dônt i gysylltiad rhywiol â hwy a fyddai'n datblygu canser yn y dyfodol.

Hyd yn oed pe baem yn anwybyddu'r manteision i'r bechgyn o imiwneiddio yn erbyn canserau pen a gwddf penodol a rhai mathau o ganser yr anws a'r pidyn, ni allwn anwybyddu'r budd o gynyddu amddiffyniad rhag canser ceg y groth. Roedd y modelau a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r rhaglen frechu HPV ar gyfer merched yn rhagdybied cyfraddau brechu o dros 80 y cant. Dengys tystiolaeth a gafwyd gan Ymchwil Canser y DU fod y gyfradd mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol mor isel â 44 y cant. Ni fydd hyn nid yn sicrhau imiwnedd poblogaeth, ac felly mae angen inni imiwneiddio bechgyn yn eu harddegau yn ogystal â merched os ydym i gael unrhyw obaith o frwydro yn erbyn canser ceg y groth.

Mae hwn yn fater cydraddoldeb hefyd: pam y mae'n iawn i adael i ddynion ifanc ddod i gysylltiad â feirws a allai beri iddynt ddatblygu canser y pen neu'r gwddf pan fo brechlyn profedig ac effeithiol ar gael, a hynny'n unig oherwydd nad yw mor gosteffeithiol ag ydyw mewn menywod ifanc?

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw a gwrthod gwelliant y Llywodraeth. Gwnaeth y cydbwyllgor hi'n glir flwyddyn yn ôl na fyddent yn cefnogi ymestyn y brechlyn i gynnwys dynion yn eu harddegau ar sail y gost. Oni bai eu bod wedi gwrando ac wedi diweddaru eu modelau, maent yn annhebygol o newid y farn honno. Mae angen inni weithredu yn awr, nid aros ychydig flynyddoedd eto i'r polisïau ddal i fyny gyda'r dystiolaeth. Diolch. Diolch yn fawr.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:57, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl. Ynghylch imiwneiddio yn y lle cyntaf, brechu, ceir stori lwyddiant rhyfeddol yma ynglŷn ag ymchwil feddygol, oherwydd ers degawdau bellach rydym wedi meddwl nad yw imiwneiddio ond o werth ar gyfer atal heintiau. Nawr, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi canfod brechiad sy'n atal canser. Mae'n newid rhyfeddol, a phan glywais y newyddion hwnnw gyntaf tua 15 mlynedd yn ôl neu fwy—mae'n cael effaith wirioneddol aruthrol ar sut yr edrychwch ar y byd fel meddyg. Meddyliwn am imiwneiddio fel rhywbeth sy'n atal haint; rydych yn atal lladdfa flynyddol o ganlyniad i ddifftheria, tetanws a'r stwff a lenwai ein hen fynwentydd a'n hen gapeli yng Nghymru, ac yn awr, yn sydyn, rydych yn imiwneiddio a gallwch atal canser. Mae'n anghredadwy. Mae'n newid sylweddol, ac rydym yn anghofio weithiau y dylem ryfeddu at rai o'r pethau rydym wedi'u darganfod.

Yn amlwg, y feirws papiloma dynol sydd dan sylw yma. Caiff ei drosglwyddo'n rhywiol ac yn amlwg, mae'r brechlyn hwn yn atal yr haint, ond mae'n atal y canserau rhag datblygu. Mae'n wirioneddol anhygoel, yn enwedig o ran y dadansoddiad o gost a budd, ac mewn bechgyn, mewn dynion, mae'n ymwneud ag atal canserau'r pen a'r gwddf. Mae'r rhain yn ganserau sylweddol sydd â goblygiadau cost enfawr o ran llawdriniaethau eithaf erchyll, sy'n anffurfio, oherwydd fel arfer daw'n amlwg yn hwyr yn y dydd: mae gennych lwmp ar ochr eich gwddf, tu ôl i'ch tafod, mewn pob math o gilfach na allwn eu gweld tan yn hwyr yn y dydd. Mae yna gost erchyll, enfawr i bob achos unigol o ganser y pen a'r gwddf sy'n rhaid ei gynnwys yn y fformiwla hon o sut rydym yn barnu a yw rhywbeth yn gosteffeithiol ai peidio: os ydynt wedi cael eu brechlyn HPV, ni fyddant yn datblygu'r canser pen a gwddf hwnnw. Oherwydd y cynnydd enfawr mewn—. Mae'r ffigurau gennyf yma, bu cynnydd o 63 y cant yn ystod y degawd diwethaf mewn achosion o ganserau'r geg a'r oroffaryncs mewn dynion yng Nghymru. Dyna'r ffigurau, ac mae'r cynnydd hwnnw'n gysylltiedig â'r cynnydd mewn heintiau HPV. Felly, gallwn wneud rhywbeth ynglŷn â hynny drwy frechu'r bechgyn yfory.

Dyma'r agenda atal ar ei gorau, fel y nododd Angela Burns. Eisoes, mae'r merched yn cael eu brechu. Gellid brechu'r bechgyn yn ogystal. Rydym ar y ffordd i ddileu canser ceg y groth. Mae'n anhygoel, onid yw? Rydych yn sôn am ganser ceg y groth mewn menywod ar y ffordd i gael ei ddileu gan y rhaglen frechu hon, a dylem fod yn cynnig yr un fath i ddynion ifanc. Wrth iddynt dyfu'n hŷn, gallem ddatrys canser y pen a'r gwddf, sy'n ganser erchyll, dinistriol, gyda goblygiadau cost enfawr sy'n amlwg heb eu hystyried yn y dadansoddiad o'r gost yn ei gyfanrwydd. Felly, dyma frechlyn sy'n atal canser mewn menywod, dyma frechlyn y mae profiad rhyngwladol yn dangos ei fod yn atal canser ymhlith dynion yn ogystal. Felly, mae merched yn ei gael; dylai bechgyn ei gael hefyd. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:00, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu safbwyntiau ar y mater pwysig hwn a drafodwyd gennym o'r blaen ac rwy'n gobeithio y gallwn ei drafod eto yn y dyfodol ar ôl gwneud penderfyniad. Yn ei gyfarfod diweddaraf ar 6 Mehefin, rhoddodd panel arbenigol annibynnol y Deyrnas Unedig ar faterion imiwneiddio y clywsom amdano heddiw—y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—ystyriaeth bellach i ymestyn y brechiad HPV i gynnwys bechgyn. Mae adroddiadau ar y drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw wedi ymddangos mewn rhai rhannau o'r cyfryngau, ond mae'r cyd-bwyllgor eto i gyhoeddi datganiad yn rhoi ei gasgliadau terfynol a chyngor. Rwy'n disgwyl i hwnnw fod ar gael yn fuan iawn, ac yn sicr cyn diwedd mis Gorffennaf. Felly, mae'r cyngor ar fin ymddangos.

Nawr, er gwaethaf anogaeth yr Aelodau heddiw, ni allaf achub y blaen ar yr hyn y bydd y datganiad hwnnw yn ei ddweud, ond hoffwn ymateb i beth o'r drafodaeth heddiw. Fel y dywedwyd, ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu mae brechiadau HPV wedi cael eu cynnig fel mater o drefn i ferched yn eu harddegau ers 2008, ac ers ei gyflwyno, dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, fod nifer y menywod ifanc a heintiwyd â HPV wedi gostwng yn ddramatig hyd at 86 y cant rhwng 2010 a 2016. Disgwylir y bydd yr amddiffyniad yn hirdymor, ac yn y pen draw yn achub cannoedd o fywydau y flwyddyn. Fel y dywedodd nifer o'r Aelodau heddiw, mae hyn yn ymwneud ag achub bywydau. Y newyddion da yw bod y brechiad HPV mewn merched yn darparu rhywfaint o amddiffyniad anuniongyrchol i fechgyn, a gwn fod Rhun ap Iorwerth wedi sôn am hyn, ac yn benodol soniodd am gyfraddau brechu. Mewn gwirionedd, mae cyfraddau brechu yng Nghymru yn gymharol uchel. Y ffigurau diwethaf oedd 83 y cant ac maent yn gwella, gydag 89 y cant yng Nghwm Taf a 79 y cant ym Mhowys. Felly, mae mwy i'w wneud bob amser. Ond ym mis Ebrill 2017, eto mewn ymateb i gyngor y cyd-bwyllgor, cyflwynwyd rhaglen gennym wedi'i thargedu ar gyfer dynion sy'n cael rhyw gyda dynion, a gwnaed hynny mewn modd amserol, gan weithredu ar y cyngor a ddiweddarwyd gan y cyd-bwyllgor.

Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol hynny, nodaf o'r ddadl heddiw a gohebiaeth flaenorol gan eraill, gan gynnwys amrywiaeth o glinigwyr mewn nifer o feysydd gwahanol, fod yna bryderon yn parhau ynglŷn â mynediad cyfartal at y brechiad HPV a dibyniaeth ar imiwnedd poblogaeth yn hytrach na chynnig amddiffyniad uniongyrchol i ddynion a bechgyn. Rwy'n ymwybodol fod y pryderon wedi'u dwyn i sylw'r cyd-bwyllgor gan nifer o ffynonellau fel rhan o'r ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddi eu datganiad interim y llynedd. Nawr, mae eu hadolygiad ers hynny wedi cymryd mwy o amser nag y byddai neb ohonom wedi dymuno, ond mae bellach yn dod i gasgliad, fel y dywedais yn fy sylwadau cynharach. Roedd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar nifer o faterion cymhleth a'r cyd-bwyllgor ei hun sydd yn y sefyllfa orau i'w hasesu, nid yn lleiaf mewn perthynas â chosteffeithiolrwydd, er y bydd yna benderfyniad i mi ei wneud ar ei ddiwedd. Ni chredaf y dylem droi cefn ar bwysigrwydd costeffeithiolrwydd oherwydd mae angen i ni werthuso manteision posibl rhaglenni cenedlaethol yn deg, yn gyson ac yn drylwyr. Mae angen inni sicrhau gwerth am arian a'r budd iechyd mwyaf sy'n bosibl i'r boblogaeth.

Rwy'n anghytuno â phwynt Angela Burns ynglŷn â pha mor hawdd y gallai fod i dynnu'r pedwar neu bump eitem a enwyd oddi ar y rhestr bresgripsiynu. Nid wyf yn credu y gallech osgoi ailgyflwyno prawf modd drud ar gyfer gwneud hynny, ac nid wyf yn credu ychwaith ei fod yn hawdd, fel yr awgrymwyd, nac ychwaith y byddech yn sicrhau'r arbedion cost y mae hi'n eu nodi, ac wrth gwrs, ceir gwahaniaethau ar sail egwyddor ynglŷn â pharhad ein polisi presgripsiynau am ddim.

Ond rwyf am wneud hyn yn glir oherwydd gwn fod nifer o bobl wedi cyfeirio at dystiolaeth a safbwyntiau grwpiau ymgyrchu eraill a grwpiau sydd â diddordeb yn y maes hwn ac sydd eisiau gweld newid cadarnhaol, ond nid wyf yn credu y gallwch ddiystyru'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu fel y corff awdurdodol y mae holl deulu GIG y DU gyfan yn dibynnu arno i'w helpu i wneud dewisiadau a arweinir gan dystiolaeth ynghylch imiwneiddio a brechu. Pan fydd eu datganiad ar gael yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn gwrando ar y cyngor yn ofalus cyn penderfynu ar y ffordd orau o fwrw ymlaen yng Nghymru. Fodd bynnag, rwyf am sicrhau'r Aelodau y byddaf yn blaenoriaethu ystyriaeth o'r cyngor hwnnw ac yna'n gwneud penderfyniad y byddaf yn atebol amdano, ond byddaf yn gwneud hynny mewn modd amserol, yn sicr, heb unrhyw oedi hir.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:04, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn fyr iawn, diolch i bawb, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cefnogaeth i fwrw ymlaen â hyn ar ryw adeg. Yr hyn na allaf ei ddeall yn iawn yw pam na allwn fwrw ymlaen ag ef yn awr?

I ateb eich cwestiwn am y gost, Angela Burns, cyflwynasom geisiadau rhyddid gwybodaeth ar y costau. Roedd y £0.5 miliwn yn seiliedig ar 5 y cant o gost y rhaglen imiwneiddio ar gyfer merched yn Lloegr. Down at £0.5 miliwn, ac nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu y byddai'n costio'n wahanol ar gyfer bechgyn, ac mae'r ffigur hwnnw wedi'i gadarnhau drwy ddulliau eraill yn ogystal. Felly, os—[Torri ar draws.] Iawn—â chroeso.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 6:05, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Er eglurder, gan ein bod yn cyfnewid ffigurau, buom yn edrych ar ddata cyfrifiad y GIG—niferoedd y dynion ifanc, neu fechgyn yng Nghymru heddiw—a phe baem yn mynd allan a dechrau o'r dechrau a rhoi'r brechiad hanfodol hwnnw i bob un ohonynt, neu'r ddau frechiad, a symud ymlaen oddi yno.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:06, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yr hyn sy'n bwysig yma yw ein bod yn cytuno bod hyn yn sicr yn gosteffeithiol oherwydd y salwch difrifol, y canserau y gallem fod yn eu hosgoi drwy gyflwyno hyn. Fel y dywedaf, yr imiwneiddiad cyntaf, y brechlyn cyntaf ar gyfer canser.

Dyma'r trydydd mater heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i mi ei godi yma yn y Cynulliad ar rywbeth y gellid ei gyflwyno, y gellid ei gyflwyno ymhellach, rhywbeth a brofwyd yn glinigol, y credwn ei fod yn gosteffeithiol, a rywsut mae'n cael ei gadw'n ôl. Crybwyllais y frwydr wyth mlynedd o hyd i gyflwyno triniaeth abladiad radio-amledd ar gyfer oesoffagws Barrett, ac unwaith eto, roeddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb cadarnhaol a gobeithio y gwelwn rywfaint o symud ar hynny.

Soniais unwaith eto am sganiau mpMRI sy'n caniatáu diagnosis o ganser y prostad heb fiopsi—rhywbeth yr ydym yn aros am gymeradwyaeth NICE ar ei gyfer, er bod Lloegr a'r Alban hefyd yn aros am gymeradwyaeth NICE, ond maent yn ei wneud beth bynnag. Felly, yn yr holl achosion hyn, rwy'n credu bod y dystiolaeth glinigol yn glir. Yma mae gennym rywbeth a fydd yn achub bywydau, na, nid pobl heddiw, ond ymhen 50 mlynedd—[Torri ar draws.] Buaswn wrth fy modd, ond ni allaf. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch hyn a dangoswch ein bod eisiau i bobl yng Nghymru, yn ddynion neu'n fenywod, i gael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd, ac mae HPV wedi rhoi'r cyfle hwnnw. Mater o'i gyflwyno ydyw, dyna i gyd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:07, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.