Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch. Yr hyn sy'n bwysig yma yw ein bod yn cytuno bod hyn yn sicr yn gosteffeithiol oherwydd y salwch difrifol, y canserau y gallem fod yn eu hosgoi drwy gyflwyno hyn. Fel y dywedaf, yr imiwneiddiad cyntaf, y brechlyn cyntaf ar gyfer canser.
Dyma'r trydydd mater heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i mi ei godi yma yn y Cynulliad ar rywbeth y gellid ei gyflwyno, y gellid ei gyflwyno ymhellach, rhywbeth a brofwyd yn glinigol, y credwn ei fod yn gosteffeithiol, a rywsut mae'n cael ei gadw'n ôl. Crybwyllais y frwydr wyth mlynedd o hyd i gyflwyno triniaeth abladiad radio-amledd ar gyfer oesoffagws Barrett, ac unwaith eto, roeddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb cadarnhaol a gobeithio y gwelwn rywfaint o symud ar hynny.
Soniais unwaith eto am sganiau mpMRI sy'n caniatáu diagnosis o ganser y prostad heb fiopsi—rhywbeth yr ydym yn aros am gymeradwyaeth NICE ar ei gyfer, er bod Lloegr a'r Alban hefyd yn aros am gymeradwyaeth NICE, ond maent yn ei wneud beth bynnag. Felly, yn yr holl achosion hyn, rwy'n credu bod y dystiolaeth glinigol yn glir. Yma mae gennym rywbeth a fydd yn achub bywydau, na, nid pobl heddiw, ond ymhen 50 mlynedd—[Torri ar draws.] Buaswn wrth fy modd, ond ni allaf. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch hyn a dangoswch ein bod eisiau i bobl yng Nghymru, yn ddynion neu'n fenywod, i gael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd, ac mae HPV wedi rhoi'r cyfle hwnnw. Mater o'i gyflwyno ydyw, dyna i gyd.