Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 27 Mehefin 2018.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am fwrw ymlaen yn syth at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma felly ar y cynnig diwrnod heb ei enwi 6753—Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 9, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.