– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 27 Mehefin 2018.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am fwrw ymlaen yn syth at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma felly ar y cynnig diwrnod heb ei enwi 6753—Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 9, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, roedd 1 yn ymatal, a 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6753 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.
2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig;
b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 31, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn ymlaen i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ynni hydrogen. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ab Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd 2 yn ymatal, a 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 15, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6750 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC.
2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu.
3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023.
4. Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ganserau'r pen a'r gwddf. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 23, roedd 1 yn ymatal, a 25 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6751 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf ymhlith dynion.
2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu rhag y mathau hyn o ganser.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys bechgyn yn eu harddegau.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 13 yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda.