Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod bagloriaeth Cymru yn chwarae rhan allweddol yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau drwy wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc. Fe'i lluniwyd i roi profiad ehangach i bobl iau nag a gânt fel arfer drwy eu haddysg academaidd draddodiadol. Mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd yn y byd go iawn, gan eu harfogi â sgiliau i feddwl drostynt eu hunain ac i gymryd cyfrifoldeb am ymchwil annibynnol. Yn eironig, dyma'r union sgiliau a fydd yn helpu pobl ifanc i weld drwy ymdrechion i orfodi syniadau, fel y crybwyllwyd yn nheitl dadl Mr Hamilton, os yw hynny'n digwydd.
Drwy fagloriaeth Cymru, gall dysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gymdeithas a'r gymuned lle maent yn byw. Gallant hefyd ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang, digwyddiadau a safbwyntiau ac wrth gwrs, rydym yn disgwyl i benaethiaid a phrifathrawon ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol wrth bennu'r rhaglen ddysgu gywir ar gyfer eu dysgwyr. Ond credaf mai ein dyletswydd yw darparu'r sgiliau, y wybodaeth ac os caf ddweud, y dystiolaeth sydd ei hangen ar genedlaethau'r dyfodol iddynt allu chwarae rhan lawn a gweithgar yn eu cymunedau a'r gymdeithas ehangach, a bydd bagloriaeth Cymru yn ein helpu i gyflawni'r ddyletswydd honno.
Nid wyf yn arbennig o gyfarwydd â'r adnoddau a ddyfynnwyd gan Mr Hamilton, na'r rhai y cyfeiriodd atynt yn ei araith y prynhawn yma, ond nid yw wedi cynnig unrhyw dystiolaeth nad oes unrhyw beth ond yr hyn rwyf newydd ei ddisgrifio yn digwydd yn ein hysgolion. Mae'r her dinasyddiaeth fyd-eang yn faes astudio pwysig yn fy marn i, ac mae'n cyfeirio myfyrwyr ac athrawon at ddefnydd o ystod o ffynonellau a deunyddiau i archwilio materion a restrir yn y cwricwlwm, ac i ystyried ffactorau perthnasol eraill. Yn wir, er mwyn i waith y plentyn gael ei asesu a phasio ym maes eu safbwynt personol yn y cymhwyster hwn—ac rwy'n dyfynnu—rhaid iddynt gynnwys gwahanol safbwyntiau a barn ar faterion byd-eang yn eu hasesiadau ysgrifenedig.
Rhaid iddynt amlinellu ffactorau perthnasol, yn ogystal â ffurfio'u barn eu hunain ar ddiwedd y darn hwnnw o waith. Dyna'r meini prawf asesu a ddefnyddir i asesu gwaith myfyrwyr yn y cyswllt hwn. Hoffwn nodi unwaith eto fod yn rhaid iddynt gynnwys barn pobl eraill neu wahanol safbwyntiau a dadleuon ar y pwnc y maent wedi'i ddewis.
Nawr, nid fi'n unig sy'n credu bod hwn yn gymhwyster pwysig. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymwysterau Cymru, corff annibynnol, adolygiad ar y cymhwyster a ddaeth i'r casgliad fod dysgwyr yn datblygu sgiliau sy'n llesol ar gyfer eu dyfodol. Roeddent yn dweud bod egwyddorion bagloriaeth Cymru a'r dystysgrif her sgiliau yn gryf ac maent yn berthnasol. Yn ogystal, maent yn cynghori y dylid cadw a diweddaru elfen y dystysgrif her sgiliau o'r cymhwyster.
Ddirprwy Lywydd, fel sydd i'w ddisgwyl gan unrhyw adolygiad, ceir argymhellion ar gyfer diweddaru a mireinio, ac ni fyddem yn disgwyl dim llai. Nododd yr adroddiad fod rhai agweddau ar y cynllun a'r asesiad yn fwy cymhleth nag y mae angen iddynt fod ar gyfer plant ac addysgwyr, a cheir rhywfaint o ddyblygu cynnwys ac asesiadau ar draws ei elfennau. Nawr, rwy'n croesawu'r camau y bydd Cymwysterau Cymru yn eu cymryd yn eu maes cyfrifoldeb, a chyn bo hir byddaf yn nodi fy ymateb i'w hadroddiad, a byddwn yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru, CBAC a'r consortia i adolygu eu hargymhellion a rhoi newidiadau ar waith. Mae hefyd yn werth nodi bod busnesau a chyflogwyr hefyd yn cydnabod beth y gall y cymhwyster ei gynnig. I ddyfynnu o'r adolygiad:
Canfu'r adroddiad hwn fod y Dystysgrif Her Sgiliau yn gymhwyster gwerthfawr sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau allweddol. Y sgiliau y mae cyflogwyr yn dweud yn gyson fod eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn y gweithle.
Dywedodd Mr Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru fod llawer o athrawon yn dweud bod y Dystysgrif Her Sgiliau yn rhoi boddhad o'i addysgu a bod myfyrwyr yn dweud eu bod yn mwynhau ennill sgiliau newydd, a'r cyfle i ganolbwyntio ar bynciau sydd o ddiddordeb go iawn iddynt hwy.
Rydym hefyd yn gwybod bod llawer o ysgolion a myfyrwyr yn cydnabod manteision y cymhwyster, ac rydym yn derbyn adborth rheolaidd gan ysgolion a cholegau ar sut y mae bagloriaeth Cymru o fudd i'n dysgwyr. Y llynedd, cyflawnodd academi chweched dosbarth Coleg Castell-nedd Port Talbot gyfradd lwyddo anhygoel o 25 y cant o fyfyrwyr yn ennill gradd A* neu A, 60 y cant yn cael A* i B ac 86 y cant yn cael A* i C. A llwyddodd dros 200 o fyfyrwyr i gyflawni'r dystysgrif her sgiliau uwch. Mae'r rhain yn ganlyniadau rhagorol sydd wedi galluogi ein myfyrwyr a'n pobl ifanc i gael mynediad at ystod o leoedd prifysgol a chyfleoedd cyflogaeth. Fel y clywsom gan gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin a gyflawnodd y dystysgrif her sgiliau uwch ochr yn ochr â thair gradd Safon Uwch arall:
Drwy astudio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, llwyddais i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau na fuaswn wedi'u cyflawni drwy astudio Safon Uwch yn unig. Yn arbennig, bydd fy ymchwiliad unigol ar orbryder ac iselder yn sicr yn fuddiol ym Mhrifysgol Caerdydd lle byddaf yn astudio Seicoleg.
Mae'r rhain, Ddirprwy Lywydd, yn enghreifftiau go iawn o sut y mae bagloriaeth Cymru o fudd i bobl yng Nghymru. Yn ddiweddar hefyd, clywais fod bagloriaeth Cymru'n cael ei beirniadu am nad yw'n cael ei derbyn gan brifysgolion. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir wrth fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith gyda bagloriaeth Cymru—nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, yn gweld mwy a mwy o werth y dystysgrif her sgiliau, a bagloriaeth Cymru am y sgiliau y mae wedi eu datblygu. Rwy'n gwybod hyn, oherwydd rwyf wedi siarad â thiwtoriaid derbyn y ddwy brifysgol honno, er mwyn ei glywed ganddynt yn uniongyrchol, ac mae llawer yn barod i dderbyn y fagloriaeth at ddibenion gofynion mynediad. Gellir cymharu'r dystysgrif her uwch â'r Safon Uwch, ac mae prifysgolion ledled y DU yn gadarnhaol iawn, gyda'r rhan fwyaf yn barod i dderbyn y fagloriaeth Cymru uwch newydd fel rhan o'u gofynion mynediad. Mae'n werth nodi ei bod yn denu'r un pwyntiau UCAS â'r Safon Uwch. Mae rhai prifysgolion wedi gostwng y tariff graddau sy'n ofynnol ar gyfer rhai cyrsiau lle mae ymgeiswyr wedi cyflawni bagloriaeth Cymru. Mae hyn yn arwydd o'u hyder yn y cymhwyster.
Felly, i grynhoi, roedd adolygiad diweddar o'r cymhwyster yn gadarnhaol, mae athrawon yn mwynhau ei ddysgu, mae myfyrwyr yn mwynhau ei astudio, a dywed cyflogwyr ei fod yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i bobl ifanc yn y gweithle. Ac mae llawer o brifysgolion yn ei gydnabod ar gyfer eu gofynion mynediad. Mae'r rhai nad ydynt yn ei gydnabod ar gyfer eu gofynion mynediad yn dal i weld ei werth o ran y sgiliau a'r profiadau ehangach y mae'n eu rhoi i bobl ifanc, a gall wella eu cais. Felly, rwy'n sicr y byddwn yn parhau i annog pawb i fabwysiadu bagloriaeth Cymru am ei fod yn gwneud synnwyr, am fod y dystiolaeth yn dweud wrthym ei fod yn werth chweil ac am fy mod yn credu y bydd yn ein helpu i godi safonau, i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac i ddarparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd lle bydd pobl ifanc yn cael yr union sgiliau i allu herio barn bobl debyg i Mr Hamilton.