– Senedd Cymru am 6:12 pm ar 27 Mehefin 2018.
Symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn bwnc pwysig ac rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gael ei chadw yma y prynhawn yma ar ddiwrnod heulog braf. Mae hi a minnau'n anghytuno'n wleidyddol yn aml, ond ni all neb wadu'r ysbryd a'r ymrwymiad sydd ganddi tuag at ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac rwy'n bendant yn talu teyrnged i bopeth a gyflawnodd yn y blynyddoedd y bu yn y Cynulliad hwn yn gweithio ar ei hoff bwnc, ac rwy'n golygu hynny fel canmoliaeth ddiffuant.
Rwyf wedi codi'r mater hwn unwaith o'r blaen yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac rwyf wedi cael fy ngwawdio gan rai, mae'n ymddangos, am geisio osgoi trafodaeth ynglŷn â phynciau materion cyfoes dadleuol mewn ysgolion, neu geisio tawelu plant. Nid yw hynny'n rhan o fy mwriad o gwbl. Rwy'n gadarn o blaid cynnwys pobl ifanc mewn trafodaeth wleidyddol, ond rhaid gwneud hyn ar sail hyddysg a chytbwys. Un o'r pethau yr oeddwn yn bryderus yn eu cylch mewn perthynas â bagloriaeth Cymru yw'r her dinasyddiaeth fyd-eang a'r ffordd yr ymddengys bod y cwricwlwm wedi'i ddyfeisio, a'r ffordd braidd yn ogwyddog y'i lluniwyd.
Nawr, mae pynciau dadleuol yn rhwym o gael eu trafod mewn ysgolion ac fel y dywedaf, mae'n iawn iddynt gael eu trafod, ond pan ydym yn ymdrin â materion dan benawdau, megis amrywiaeth ddiwylliannol, masnach deg, ynni yn y dyfodol, anghydraddoldeb, tlodi, newyn, ymfudo, prynwriaeth ac ati, mae'r rhain oll yn bynciau hynod o wleidyddol, ac yn y lle hwn mae'n amlwg ein bod yn cael dadleuon grymus yn eu cylch. Nid wyf yn siŵr ein bod yn cael dadleuon grymus mewn ysgolion yn yr un modd. Nawr, nid wyf yn dweud bod ysgolion yn addysgu'r cyrsiau hyn yn fwriadol fel propaganda gwleidyddol, ond rwy'n bryderus nad oes digon o amrywiaeth barn i'w gwneud yn ddadl fwy cytbwys ac agored, a dyna pam y penderfynais godi hyn y prynhawn yma.
Hoffwn roi ychydig o enghreifftiau. Mewn dogfen o'r enw 'Sgiliau gwybodaeth', a gynhyrchir—yn anffodus rwyf wedi anghofio fy sbectol ac ni allaf ddarllen y rhan uchaf—. Mae'n ddrwg gennyf, dyma ni; maent wedi dod i fy achub. Dyna ni—a gynhyrchwyd gan fagloriaeth Cymru, mae'n dweud, 'Beth yw propaganda? Gwybodaeth yw propaganda nad yw'n ddiduedd ac a ddefnyddir yn bennaf i ddylanwadu ar gynulleidfa a hyrwyddo agenda, yn aml drwy gyflwyno ffeithiau mewn ffordd ddetholus (drwy ddweud celwydd neu eu hepgor efallai) neu
ddefnyddio negeseuon ensyniadol i greu ymateb emosiynol yn hytrach na
rhesymegol i'r wybodaeth a gyflwynwyd.'
Nawr, mae yna un eitem yn rhan o'r cwrs hwn o'r enw 'ethnosentrigrwydd': 'Ethnosentrigrwydd yw pan fydd rhywun yn credu bod y grŵp y maent yn perthyn iddo yn well na grwpiau eraill.' Mae'n mynd rhagddo ymlaen i ddweud mai'r rheswm am hyn yw oherwydd ei fod ond yn barnu diwylliant arall yn ôl gwerthoedd a safonau ei ddiwylliant eu hun. Wrth gwrs, nid yw gweld diwylliannau eraill fel rhai gwahanol o reidrwydd yn golygu ein bod yn eu gweld yn rhagori. Mae'r enghraifft a roddwyd yn nogfen y cwrs ar ethnosentrigrwydd, yn rhyfedd iawn, yn ymwneud â Cuba a goresgyniad America o Cuba yn 1960, yn dilyn chwyldro Cuba, a ddaeth â Fidel Castro i rym. Nawr, newyddion i mi yw bod yr Americanwyr wedi cynorthwyo alltudion o Cuba yn yr ymosodiad ar Cuba yn 1960 oherwydd eu bod yn ystyried bod America'n rhagori ar bobl Cuba. Digwyddiad geowleidyddol ydoedd wrth gwrs, ar anterth y rhyfel oer, ac mae iddo gyd-destun hanesyddol nad yw i'w weld yn y testun sy'n disgrifio'r hyn a ddigwyddodd yn Cuba yr holl flynyddoedd yn ôl. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw gyfeiriad o gwbl at natur cyfundrefn Castro, a orfodwyd ar Cuba yn sgil cael gwared ar yr unigolyn llawn mor ofnadwy hwnnw, Fulgencio Batista, sef unben Cuba cyn i Castro ei olynu.
Credaf fod hyn yn warthus, oherwydd os yw cenhedlaeth o blant yn cael eu magu gyda chamsyniadau, yn cael eu haddysgu yn yr ysgol yn y ffordd hon, mae hynny'n sicr o ddylanwadu ar eu barn am y pwnc y mae hynny'n enghraifft ohono. Nawr, wrth gwrs, cafodd cyfundrefn Castro ei chondemnio'n hallt gan sefydliadau hawliau dynol dros flynyddoedd maith. Mae Human Rights Watch yn dweud, o dan Fidel Castro, fod Llywodraeth Cuba wedi gwrthod cydnabod cyfreithlondeb sefydliadau hawliau dynol Cuba, pleidiau gwleidyddol eraill, undebau llafur annibynnol na gwasg rydd. Hefyd, gwrthododd adael i fonitoriaid rhyngwladol, megis Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch a sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol fel Human Rights Watch, fynd ar yr ynys i ymchwilio i amodau hawliau dynol. Un o'r rhesymau pam y cefnogodd yr Americanwyr oresgyniad Cuba yn 1960 oedd oherwydd eu bod yn credu bod cyfalafiaeth, menter rydd a chymdeithasau democrataidd yn rhagori ar gymdeithas gomiwnyddol. Does bosib nad ydym wedi cael digon o brofiad o gomiwnyddiaeth yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, efallai, i beidio â chredu bod hwnnw'n safbwynt y gellid ei herio. Felly, mae disgrifio hynny fel enghraifft o ethnosentrigrwydd yn camarwain y plant sy'n ei ddysgu yn gyfan gwbl. Nawr, os yw hynny'n digwydd yn yr un maes hwnnw, efallai ei fod yn digwydd mewn meysydd eraill yn ogystal. Mae hon yn elfen bwysig iawn o addysg nad yw o bosibl yn cael ei haddysgu'n dda.
Ceir llawer o bynciau dadleuol eraill lle y ceir ochr arall i bethau hefyd, ac nid wyf yn siŵr a yw hynny'n cael ei addysgu yn yr ysgol. Ystyriwch dlodi, er enghraifft, a newyn. Beth sydd wrth wraidd tlodi a newyn, ar y cyfan? Pam y mae rhai gwledydd yn llwyddo i greu cyfoeth ac eraill yn methu, a pham y mae rhai gwledydd wedi mynd tuag yn ôl yn ystod y ganrif ddiwethaf, o gymharu â lle yr oeddent ar ddechrau'r ugeinfed ganrif? Os edrychwch ar y gwledydd cyfoethocaf yn y byd, gwledydd fel Singapôr, Hong Kong a De Korea ydynt, nad oeddent yn unman 50 mlynedd yn ôl yn y tablau creu cyfoeth, tra bo Venezuela, Zimbabwe a'r Ariannin oll wedi mynd y ffordd arall. Yn y 1920au, roedd yr Ariannin yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, a diolch i ddegawdau o gamlywodraethu gan bleidiau gwleidyddol adain chwith a lled ffasgaidd ac arweinwyr cleptocrataidd, dinistriwyd economi yr Ariannin. Felly, mae yna nifer o resymau pam y caiff cyfoeth ei greu, ond a siarad yn gyffredinol, nid yw rheolaeth y wladwriaeth yn un ohonynt.
O ran tlodi mewn gwledydd sy'n datblygu, nid yw'r seilwaith deallusol i greu cyfoeth yno. A yw 'masnach nid cymorth' yn cael ei addysgu mewn ysgolion, er enghraifft? Dywedodd yr Athro Peter Bauer, a oedd yn athro economeg datblygu rhyngwladol pan oeddwn yn fyfyriwr yn ôl yn y 1960au, mai cymorth, yn gyffredinol, yw arian y trethdalwyr a gesglir gan bobl dlawd mewn gwledydd cyfoethog i'w roi i bobl gyfoethog mewn gwledydd tlawd, ac rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o hynny dros y blynyddoedd. Nawr, nid wyf yn awgrymu bod cymorth i wledydd tramor bob amser yn beth drwg, wrth gwrs—mae llawer o brosiectau cymorth yn dda—ond os ydych yn rhoi'r argraff mai'r unig ffordd y gall gwledydd tlawd ddod yn wledydd cyfoethog yw drwy drosglwyddo cyfoeth o wledydd cyfoethocach, mae hynny, unwaith eto, yn dangos camddealltwriaeth o natur y broses economaidd. Mae cystadleuaeth yn broses o ddarganfod: nid yw syniadau gwael yn llwyddo, yn wahanol i syniadau da. Felly, mae'r rhain yn bethau y dylid eu cynnwys yn briodol yn y cwricwlwm. Mae gennym bethau fel trosglwyddo cyfoeth rhwng y cenedlaethau, yn ogystal, mewn perthynas â thlodi. Yn y genhedlaeth hon, yn aml clywn bobl yn sôn am gyni, ond beth yw cyni? Cyni yw ein profiad o saith mlynedd ddiwethaf y Llywodraeth Geidwadol lle mae'r ddyled genedlaethol wedi dyblu. Nawr, trosglwyddo cyfoeth rhwng cenedlaethau yw hynny; rydym yn gwario arian heddiw y bydd yn rhaid ei dalu'n ôl gan genedlaethau yfory. A yw'r cwrs bagloriaeth Cymru yn ymdrin yn briodol â'r materion hyn? Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl.
Ceir cwrs o'r enw 'prynwriaeth'. Nawr, dyna derm llwythog, os bu un erioed. Chwiliais am y diffiniad ohono yn y geiriadur ac fe'i disgrifiwyd fel 'y gred bod cynyddu'r defnydd o nwyddau yn ddymunol yn economaidd'. Wel, nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn ystyried y defnydd cynyddol o nwyddau yn beth drwg, ac a siarad yn gyffredinol, po dlotaf yr ydych, y mwyaf o nwyddau rydych eu heisiau. Mae hyn yn beth da. Felly, pam yr ydym yn dysgu rhywbeth o'r enw prynwriaeth i blant mewn ysgolion? Mae'r cyfan yn mynd yn ôl, mae'n debyg, at y syniad Rousseauaidd o'r anwar nobl—yn ôl at natur, y bywyd syml lle rydym yn crafu byw o'r pridd—ond nid dyna'r ffordd o fyw y mae pobl normal am ei dilyn.
Pobl 'normal'?
Ie. Pobl normal, pobl go iawn. Gadewch inni ddweud 'pobl go iawn' felly. [Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn adnabod llawer o wynebau yma o bobl sydd wedi dilyn rhaglen o gyni crys brethyn rhawn yn eu bywydau preifat. Rydym i gyd yn mwynhau bywydau cyfforddus iawn—[Torri ar draws.] Wel, rydym i gyd yn mwynhau bywyd hynod o gyfforddus, yn ennill arian mawr iawn o gymharu â'r cyfartaledd a chredaf ei bod yn nawddoglyd inni ddisgrifio dymuniadau pobl gyffredin fel 'prynwriaeth'.
Mater dadleuol arall yw cynhesu byd-eang—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n mynd i sôn am gynhesu byd-eang, oherwydd mae adwaith yr Ysgrifennydd addysg yn enghraifft o bopeth rwy'n sôn amdano y prynhawn yma. Oherwydd mae gennyf safbwyntiau ar gynhesu byd-eang sydd mewn lleiafrif bach iawn yn y Cynulliad hwn, ond mae'r ffordd y mae'r Ysgrifennydd addysg yn ymateb pan fyddaf yn crybwyll materion o'r fath yn awgrymu nad oes gennyf hawl i arddel y safbwyntiau hyn, am nad oes unrhyw sail ddeallusol drostynt o gwbl, er bod trafodaeth barchus iawn ar y gweill mewn gwirionedd ymhlith meteorolegwyr a hinsoddegwyr ar y materion hyn. A yw sefydliadau fel y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang yn cael eu defnyddio i ddarparu deunyddiau cwrs ar y materion hyn ym magloriaeth Cymru? Rwy'n amau hynny'n fawr iawn. Ac eto, os edrychwn ar hanes yr hinsawdd, rydym wedi cael cylchoedd pan oedd hinsawdd y byd yn cynhesu a chylchoedd eraill pan oedd yn oeri. Roedd cyfnod y Rhufeiniaid yn boeth iawn a'r cyfnod canoloesol yn boeth iawn, a rhyngddynt cawsom oesau iâ byr—cawsom un ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Felly, os edrychwn ar y ffeithiau y gellir arsylwi arnynt, nid ydynt yn ategu'r modelau hinsawdd sy'n seiliedig ar ragfynegiadau cyfrifiadurol.
Mae'r rhain yn ddadleuol, ac efallai y byddwch yn anghytuno â hwy, ond dylem yn sicr ddysgu'r ochr arall i'r ddadl os ydym am gael dadl gytbwys ar y pwnc, oherwydd rydych yn gosod costau enfawr ar bobl drwy godi pris ynni yn artiffisial. Gall fod yn beth da ein bod yn gwneud y pethau hyn, nid wyf yn gwybod. Nid oes gennym ffordd o allu penderfynu am nad ydym yn deall y ffeithiau. Mae hinsoddeg ei hun yn fater cymhleth iawn. Nid oes data hanesyddol ar gael beth bynnag i gymharu un cyfnod ag un arall, felly mewn gwirionedd ni allwn ddod i unrhyw gasgliadau o'r newidiadau bach iawn sydd wedi digwydd yn y tymheredd byd-eang yn y blynyddoedd diwethaf am na allwn gymharu â chenedlaethau blaenorol mewn modd rhifyddol. Ac nid ydym yn gwybod, beth bynnag, pa mor bell y bydd tueddiadau presennol yn parhau.
Felly, mae yna gyfyngiadau ar y wybodaeth y seilir damcaniaethau arnynt, ac nid wyf yn credu bod hyn yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn yr addysgu a gyflawnir mewn ysgolion ychwaith. Y cyfan rwy'n ei ddweud yn ystod y ddadl hon yw y dylem gydnabod ym mhob un o'r pynciau dadleuol hyn, fod yna ochr arall i bethau, a dylid cyflwyno hynny i blant er mwyn iddynt allu dadlau a phenderfynu drostynt eu hunain. Ni ddylem drin hyn fel rhyw fath o destun crefyddol, lle na cheir dadl ar yr ochr arall—[Torri ar draws.] Mae Lee Waters yn dweud, 'Parchwch wyddoniaeth'. Wel, mae'r wyddoniaeth rwy'n sôn amdani yn cael ei pharchu gan yr Athro Christopher Essex, athro mathemateg gymhwysol ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario, sef Cadeirydd y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang, gan Syr Ian Byatt, cyfarwyddwr cyffredinol gwasanaethau dŵr Cymru a Lloegr, yr Athro Freeman Dyson, cymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol, ffisegydd damcaniaethol byd-enwog ac athro emeritws yn y Sefydliad Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Princeton, gan yr Athro William Happer, athro ffiseg ym Mhrifysgol Princeton, yr Athro David Henderson, pennaeth yr adran economeg ac ystadegau yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a llawer iawn o rai eraill yn y rhestr o'r rhai sy'n cefnogi'r ymagwedd sgeptigaidd sy'n ganolog i waith y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang. Nid yw'n ymwneud â'u bod yn dilyn agenda benodol i orfodi barn, gan fod amrywiaeth o safbwyntiau, hyd yn oed o fewn y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang—[Torri ar draws.]
Diolch.
Felly, credaf mai'r hyn y dylem fod yn ei wneud mewn ysgolion yw addysgu plant fod yna wahanol safbwyntiau i'w cael ar bethau, hyd yn oed mewn pynciau hynod ddadleuol lle mae pobl weithiau yn eu gweld yn ddu a gwyn, gan annog dadl, annog ymryson, ond yn y pen draw eu dysgu i fod yn feirniadol. Dyna'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yn yr ysgol yn fy marn i: dysgu plant fod yn rhaid iddynt fod yn feirniadol yn eu dealltwriaeth, i gwestiynu bob amser a chwilio am y ffeithiau bob amser, ac nid derbyn propaganda gwleidyddol fel gwirionedd.
Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl? Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod bagloriaeth Cymru yn chwarae rhan allweddol yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau drwy wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc. Fe'i lluniwyd i roi profiad ehangach i bobl iau nag a gânt fel arfer drwy eu haddysg academaidd draddodiadol. Mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd yn y byd go iawn, gan eu harfogi â sgiliau i feddwl drostynt eu hunain ac i gymryd cyfrifoldeb am ymchwil annibynnol. Yn eironig, dyma'r union sgiliau a fydd yn helpu pobl ifanc i weld drwy ymdrechion i orfodi syniadau, fel y crybwyllwyd yn nheitl dadl Mr Hamilton, os yw hynny'n digwydd.
Drwy fagloriaeth Cymru, gall dysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gymdeithas a'r gymuned lle maent yn byw. Gallant hefyd ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang, digwyddiadau a safbwyntiau ac wrth gwrs, rydym yn disgwyl i benaethiaid a phrifathrawon ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol wrth bennu'r rhaglen ddysgu gywir ar gyfer eu dysgwyr. Ond credaf mai ein dyletswydd yw darparu'r sgiliau, y wybodaeth ac os caf ddweud, y dystiolaeth sydd ei hangen ar genedlaethau'r dyfodol iddynt allu chwarae rhan lawn a gweithgar yn eu cymunedau a'r gymdeithas ehangach, a bydd bagloriaeth Cymru yn ein helpu i gyflawni'r ddyletswydd honno.
Nid wyf yn arbennig o gyfarwydd â'r adnoddau a ddyfynnwyd gan Mr Hamilton, na'r rhai y cyfeiriodd atynt yn ei araith y prynhawn yma, ond nid yw wedi cynnig unrhyw dystiolaeth nad oes unrhyw beth ond yr hyn rwyf newydd ei ddisgrifio yn digwydd yn ein hysgolion. Mae'r her dinasyddiaeth fyd-eang yn faes astudio pwysig yn fy marn i, ac mae'n cyfeirio myfyrwyr ac athrawon at ddefnydd o ystod o ffynonellau a deunyddiau i archwilio materion a restrir yn y cwricwlwm, ac i ystyried ffactorau perthnasol eraill. Yn wir, er mwyn i waith y plentyn gael ei asesu a phasio ym maes eu safbwynt personol yn y cymhwyster hwn—ac rwy'n dyfynnu—rhaid iddynt gynnwys gwahanol safbwyntiau a barn ar faterion byd-eang yn eu hasesiadau ysgrifenedig.
Rhaid iddynt amlinellu ffactorau perthnasol, yn ogystal â ffurfio'u barn eu hunain ar ddiwedd y darn hwnnw o waith. Dyna'r meini prawf asesu a ddefnyddir i asesu gwaith myfyrwyr yn y cyswllt hwn. Hoffwn nodi unwaith eto fod yn rhaid iddynt gynnwys barn pobl eraill neu wahanol safbwyntiau a dadleuon ar y pwnc y maent wedi'i ddewis.
Nawr, nid fi'n unig sy'n credu bod hwn yn gymhwyster pwysig. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymwysterau Cymru, corff annibynnol, adolygiad ar y cymhwyster a ddaeth i'r casgliad fod dysgwyr yn datblygu sgiliau sy'n llesol ar gyfer eu dyfodol. Roeddent yn dweud bod egwyddorion bagloriaeth Cymru a'r dystysgrif her sgiliau yn gryf ac maent yn berthnasol. Yn ogystal, maent yn cynghori y dylid cadw a diweddaru elfen y dystysgrif her sgiliau o'r cymhwyster.
Ddirprwy Lywydd, fel sydd i'w ddisgwyl gan unrhyw adolygiad, ceir argymhellion ar gyfer diweddaru a mireinio, ac ni fyddem yn disgwyl dim llai. Nododd yr adroddiad fod rhai agweddau ar y cynllun a'r asesiad yn fwy cymhleth nag y mae angen iddynt fod ar gyfer plant ac addysgwyr, a cheir rhywfaint o ddyblygu cynnwys ac asesiadau ar draws ei elfennau. Nawr, rwy'n croesawu'r camau y bydd Cymwysterau Cymru yn eu cymryd yn eu maes cyfrifoldeb, a chyn bo hir byddaf yn nodi fy ymateb i'w hadroddiad, a byddwn yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru, CBAC a'r consortia i adolygu eu hargymhellion a rhoi newidiadau ar waith. Mae hefyd yn werth nodi bod busnesau a chyflogwyr hefyd yn cydnabod beth y gall y cymhwyster ei gynnig. I ddyfynnu o'r adolygiad:
Canfu'r adroddiad hwn fod y Dystysgrif Her Sgiliau yn gymhwyster gwerthfawr sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau allweddol. Y sgiliau y mae cyflogwyr yn dweud yn gyson fod eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn y gweithle.
Dywedodd Mr Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru fod llawer o athrawon yn dweud bod y Dystysgrif Her Sgiliau yn rhoi boddhad o'i addysgu a bod myfyrwyr yn dweud eu bod yn mwynhau ennill sgiliau newydd, a'r cyfle i ganolbwyntio ar bynciau sydd o ddiddordeb go iawn iddynt hwy.
Rydym hefyd yn gwybod bod llawer o ysgolion a myfyrwyr yn cydnabod manteision y cymhwyster, ac rydym yn derbyn adborth rheolaidd gan ysgolion a cholegau ar sut y mae bagloriaeth Cymru o fudd i'n dysgwyr. Y llynedd, cyflawnodd academi chweched dosbarth Coleg Castell-nedd Port Talbot gyfradd lwyddo anhygoel o 25 y cant o fyfyrwyr yn ennill gradd A* neu A, 60 y cant yn cael A* i B ac 86 y cant yn cael A* i C. A llwyddodd dros 200 o fyfyrwyr i gyflawni'r dystysgrif her sgiliau uwch. Mae'r rhain yn ganlyniadau rhagorol sydd wedi galluogi ein myfyrwyr a'n pobl ifanc i gael mynediad at ystod o leoedd prifysgol a chyfleoedd cyflogaeth. Fel y clywsom gan gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin a gyflawnodd y dystysgrif her sgiliau uwch ochr yn ochr â thair gradd Safon Uwch arall:
Drwy astudio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, llwyddais i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau na fuaswn wedi'u cyflawni drwy astudio Safon Uwch yn unig. Yn arbennig, bydd fy ymchwiliad unigol ar orbryder ac iselder yn sicr yn fuddiol ym Mhrifysgol Caerdydd lle byddaf yn astudio Seicoleg.
Mae'r rhain, Ddirprwy Lywydd, yn enghreifftiau go iawn o sut y mae bagloriaeth Cymru o fudd i bobl yng Nghymru. Yn ddiweddar hefyd, clywais fod bagloriaeth Cymru'n cael ei beirniadu am nad yw'n cael ei derbyn gan brifysgolion. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir wrth fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith gyda bagloriaeth Cymru—nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, yn gweld mwy a mwy o werth y dystysgrif her sgiliau, a bagloriaeth Cymru am y sgiliau y mae wedi eu datblygu. Rwy'n gwybod hyn, oherwydd rwyf wedi siarad â thiwtoriaid derbyn y ddwy brifysgol honno, er mwyn ei glywed ganddynt yn uniongyrchol, ac mae llawer yn barod i dderbyn y fagloriaeth at ddibenion gofynion mynediad. Gellir cymharu'r dystysgrif her uwch â'r Safon Uwch, ac mae prifysgolion ledled y DU yn gadarnhaol iawn, gyda'r rhan fwyaf yn barod i dderbyn y fagloriaeth Cymru uwch newydd fel rhan o'u gofynion mynediad. Mae'n werth nodi ei bod yn denu'r un pwyntiau UCAS â'r Safon Uwch. Mae rhai prifysgolion wedi gostwng y tariff graddau sy'n ofynnol ar gyfer rhai cyrsiau lle mae ymgeiswyr wedi cyflawni bagloriaeth Cymru. Mae hyn yn arwydd o'u hyder yn y cymhwyster.
Felly, i grynhoi, roedd adolygiad diweddar o'r cymhwyster yn gadarnhaol, mae athrawon yn mwynhau ei ddysgu, mae myfyrwyr yn mwynhau ei astudio, a dywed cyflogwyr ei fod yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i bobl ifanc yn y gweithle. Ac mae llawer o brifysgolion yn ei gydnabod ar gyfer eu gofynion mynediad. Mae'r rhai nad ydynt yn ei gydnabod ar gyfer eu gofynion mynediad yn dal i weld ei werth o ran y sgiliau a'r profiadau ehangach y mae'n eu rhoi i bobl ifanc, a gall wella eu cais. Felly, rwy'n sicr y byddwn yn parhau i annog pawb i fabwysiadu bagloriaeth Cymru am ei fod yn gwneud synnwyr, am fod y dystiolaeth yn dweud wrthym ei fod yn werth chweil ac am fy mod yn credu y bydd yn ein helpu i godi safonau, i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac i ddarparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd lle bydd pobl ifanc yn cael yr union sgiliau i allu herio barn bobl debyg i Mr Hamilton.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.