Diffygion yng Nghyllideb Byrddau Iechyd Lleol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:15, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir fod gorwario gan fyrddau iechyd yn annerbyniol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ymyrraeth wedi'i thargedu i'r byrddau sydd mewn diffyg er mwyn datblygu cynlluniau ariannol cynaliadwy. Gyda'r cymorth hwn, roedd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn gwell sefyllfa ariannol yn 2017 o gymharu a'r flwyddyn flaenorol. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £27 miliwn o arian rheolaidd ychwanegol i Hywel Dda o ganlyniad i'r adolygiad cwbl gynhwysfawr i sicrhau bod y bwrdd ar sylfaen gyllido deg yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwyf wedi cyhoeddi'r fframwaith gwella mesurau arbennig ar gyfer Betsi Cadwaladr gogyfer â'r 18 mis nesaf, gan nodi fy nisgwyliadau o ran gwelliannau yn glir iawn.