Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fy mwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ddiffyg o dros £3 miliwn y mis. Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg hwn, mae'r bwrdd iechyd yn cynnig lleihau nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod cyfraddau defnydd gwelyau yn fy rhanbarth bron yn 90 y cant, a ydych o'r farn fod y cynnig i leihau nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddiogel?