Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr eu hadolygiad tystiolaeth o e-sigaréts a chynhyrchion gwresogi tybaco. Dywed yr adolygiad fod defnyddio e-sigaréts yn achosi cyfran fach yn unig o'r risgiau a berir gan ysmygu a bod newid yn llwyr o ysmygu i ddefnyddio e-sigaréts yn arwain at fanteision iechyd sylweddol dros barhau i ysmygu. Aiff ymlaen i ddweud bod defnyddio e-sigaréts o leiaf 95 y cant yn llai niweidiol nag ysmygu. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr y dylid annog defnyddio e-sigaréts ar raddfa eang fel ffordd o gynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru?