2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ysmygu? OAQ52406
Diolch am y cwestiwn. Mae ein cynllun cyflawni ar reoli tybaco, a gyhoeddwyd ym mis Medi y llynedd, yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i leihau lefelau ysmygu yng Nghymru ymhellach. Er enghraifft, yn ddiweddar, lansiais ymgynghoriad ar reoliadau i wahardd smygu ar dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae awdurdodau lleol, a'r mannau y tu allan i leoliadau gofal plant cofrestredig.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar ysmygu wedi cynorthwyo i leihau ysmygu, ond ysmygu yw prif achos salwch difrifol a marwolaethau cynnar y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd, ac mae'n gyfrifol, yn ôl Gweithredu ar Smygu ac Iechyd, am oddeutu 5,500 o farwolaethau bob blwyddyn, ac ni fydd targed Llywodraeth Cymru o leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020 yn cael ei gyflawni ar sail y rhagolygon presennol. Croesawaf ddarpariaethau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i alluogi cyfyngiadau pellach, fel y sonioch, yn ogystal â'r gallu a roddir gan y ddeddfwriaeth honno i ddynodi lleoedd ychwanegol yn fannau di-fwg, a chredaf y gallai hynny, er enghraifft, gynnwys ardaloedd awyr agored mewn caffis a bwytai, a chanol trefi a dinasoedd. A ydych yn cytuno y bydd ymestyn cyfyngiadau yn y ffordd honno yn amddiffyn ein pobl yn well rhag ysmygu goddefol, yn helpu i ddadnormaleiddio ysmygu ac yn annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod efallai fod tystiolaeth i'w chael ynglŷn â chynnydd pellach y gallem ei wneud drwy gymryd camau pellach ar ysmygu oherwydd, fel y dywedoch, dyna yw prif achos niwed y gellir ei osgoi, ac mae angen inni wneud mwy i gynorthwyo pobl i roi'r gorau iddi, gan mai dyna'n union oedd y pwynt olaf a wnaethoch. Sut rydym yn cynorthwyo pobl i roi'r gorau iddi? Drwy sicrhau bod y gwasanaethau priodol ar waith, ac yn wir, y ffordd y darperir y gwasanaeth hwnnw. Felly, disgwyliaf y byddwn yn gweld mwy'n cael ei ddarparu yn y fferyllfa gymunedol hefyd, fel rhan o sut y mae'r dyfodol yn debygol o edrych. A bydd yn parhau i fod yn destun sgwrs rheolaidd, oherwydd pryd bynnag y cawn drafodaeth ynglŷn ag iechyd y cyhoedd a phryd bynnag y cawn sgwrs am un o'r lladdwyr mawr, rydym yn sôn am yr un pethau: ysmygu, alcohol, deiet ac ymarfer corff.
Felly, o ran y rheoliadau a gyhoeddwyd gennyf eisoes ac yr ymgynghorwn yn eu cylch, byddwn yn bwrw ymlaen â hwy ac yn gwrando ar y cyhoedd o ran beth arall yr hoffent ei weld. Rwy'n cydnabod y cwynion a godwyd gyda mi gan rai pobl nad ydynt yn awyddus inni gymryd camau i wneud ysmygu'n anos, ond ni fyddant yn newid cyfeiriad y Llywodraeth hon. Ac wrth gwrs, byddaf yn gwrando ar y dystiolaeth ynglŷn â'r posibilrwydd o roi camau ar waith yn y dyfodol i helpu i gyflawni ein prif nod o ddadnormaleiddio ysmygu yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr eu hadolygiad tystiolaeth o e-sigaréts a chynhyrchion gwresogi tybaco. Dywed yr adolygiad fod defnyddio e-sigaréts yn achosi cyfran fach yn unig o'r risgiau a berir gan ysmygu a bod newid yn llwyr o ysmygu i ddefnyddio e-sigaréts yn arwain at fanteision iechyd sylweddol dros barhau i ysmygu. Aiff ymlaen i ddweud bod defnyddio e-sigaréts o leiaf 95 y cant yn llai niweidiol nag ysmygu. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr y dylid annog defnyddio e-sigaréts ar raddfa eang fel ffordd o gynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn. Trafodwyd hyn gennym yn y fersiwn gyntaf o Fil iechyd y cyhoedd na chafodd ei dderbyn cyn etholiad diwethaf y Cynulliad. Ar y pryd, roedd cryn bryder ynghylch y defnydd o e-sigaréts, ac mae'r pryder hwnnw'n parhau, oherwydd y ffaith eu bod yn aml yn cael eu targedu at bobl iau, yn hytrach na fel dewis amgen yn lle ysmygu, ac am na allwn fod yn glir ynglŷn â beth sydd ynddynt gan nad ydym yn rheoleiddio cyfansoddiad e-sigaréts. Felly, credaf ei bod yn deg dweud bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cydnabod bod e-sigaréts yn peri llai o risgiau nag ysmygu. Nid yw hynny'n gyfystyr â dweud nad oes unrhyw risgiau. I wahanol bobl, bydd gwahanol ddulliau yn eu cynorthwyo i roi'r gorau i ysmygu, a dyna yr hoffwn ei weld. Wrth gwrs, byddwn yn gwrando ar y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ynglŷn â'r holl gynnyrch sy'n cynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu.