Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 27 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:30, 27 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rydym eisoes wedi trafod achos fy etholwr, Paul Davies, y Paralympiad a oedd yn wynebu'r posibilrwydd o fethu Tokyo 2020 oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Weinidog, gyda'ch cymorth chi, rwy'n falch o ddweud bellach fod gan Paul Davies y gefnogaeth sydd ei hangen arno er mwyn hyfforddi ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddymuno pob lwc i Paul Davies gyda'i ymdrechion a gobeithio y gall ddod â medal aur yn ôl i Gymru?