2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 27 Mehefin 2018.
Symudwn yn awr at gwestiynau gan y llefarwyr, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. A wnewch chi amlinellu pa weithdrefnau sydd ar waith er mwyn i gleifion mewn ysbytai weinyddu eu meddyginiaethau rheolaidd eu hunain?
A ydych yn sôn am feddyginiaeth reolaidd o fewn lleoliad ysbyty?
Nac ydw.
Nid wyf yn siŵr fy mod yn deall y cwestiwn, oherwydd mewn perthynas â chleifion ysbytai a meddyginiaeth, ceir meddyginiaeth y maent yn ei chael pan fyddant yn yr ysbyty, ac os oes angen meddyginiaeth arnynt dan arweiniad gofal eilaidd, sut y maent yn gweinyddu'r feddyginiaeth honno eu hunain. Mae hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar y cyflwr a'r feddyginiaeth.
Gadewch imi egluro i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei bod hi'n ymddangos eich bod yn cael ychydig o drafferth. Sylwaf, er enghraifft, fod yr Aelod dros Gwm Cynon wedi cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn ddiweddar yn gofyn am wybodaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd ar waith mewn perthynas â chleifion mewn ysbytai yn hunan-weinyddu eu meddyginiaeth eu hunain. Ymddengys ei bod wedi cael atebion eithaf cyffredinol i'w chwestiynau.
Nawr, gadewch i ni ystyried pobl â chlefyd Parkinson fel enghraifft. Efallai eu bod yn mynd i'r ysbyty am resymau a all fod yn gysylltiedig â chlefyd Parkinson neu fel arall, ac yn wynebu sefyllfa lle nad yw rownd gyffuriau'r ysbyty yn cyd-fynd â'u trefn feddyginiaethol eu hunain. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, gyda chlefyd Parkinson, gall newid bach yn amseru'r feddyginiaeth gael effeithiau negyddol sylweddol ar y broses o reoli symptomau a gwellhad cyffredinol. Gall y ffaith bod dopamin yn cael ei ryddhau'n anghyson olygu, yn sydyn, nad yw unigolyn—gyda chlefyd Parkinson—yn gallu symud, codi o'r gwely, neu gerdded ar hyd y coridor, a gall hefyd arwain at gymhlethdodau difrifol megis niwmonia a rhwystr yn y coluddyn. Mae Parkinson's UK wedi lansio ymgyrch o'r enw Get It On Time er mwyn sicrhau bod cyffuriau megis levodopa, a ddefnyddir i drin clefyd Parkinson, yn cael eu gweinyddu ar adegau rheolaidd o'r dydd—ymgyrch a gyflwynwyd yn llwyddiannus yng Nghanada. Pa gyngor fyddai eich adran yn gallu ei roi i'r byrddau iechyd ynglŷn â rhoi cynllun o'r fath ar waith mewn ysbytai yng Nghymru, gan fod hon yn broblem lle nad yw trefn gyffuriau arferol unigolyn yn cyd-fynd â threfn bresgripsiynu cyffuriau'r ysbyty pan fyddant yn yr ysbyty?
Wel, edrychwch, mae hwn yn fater rwy'n ymwybodol ohono, ymgyrch Get It On Time. Nid yw'n ymgyrch ar gyfer un cyflwr yn benodol oherwydd, mewn gwirionedd, ceir amrywiaeth o gyflyrau eraill—epilepsi, er enghraifft. Mae gan fy mrawd iau epilepsi a gwn, o rai o'i arosiadau yn yr ysbyty yn y system yn Lloegr, fod diffyg gweinyddu ar gyfer y cyflwr hwnnw wedi golygu ei fod wedi cael trawiad a fyddai fel arall wedi cael ei reoli drwy ei drefn feddyginiaethol y tu allan i'r ysbyty. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau sydd i'w cael gyda nifer o gyflyrau mewn perthynas â pharhau â threfn feddyginiaethol reolaidd na therfir arni gan arhosiad yn yr ysbyty, boed hynny ar gyfer y prif gyflwr y darperir y meddyginiaethau hynny ar ei gyfer neu rywbeth gwahanol. Ac mae rhywbeth yn hyn o beth sy'n ymwneud â'n rhaglen wella ar gyfer rheoli fferylliaeth a rheoli meddyginiaethau beth bynnag, mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai, ond hefyd o ran sicrhau nad oes bwlch diangen pan gaiff rhywun ei ryddhau o'r ysbyty, er mwyn sicrhau bod ganddynt unrhyw feddyginiaeth y mae arnynt ei hangen mewn pryd i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Felly, rwy'n gyfarwydd â'r ymgyrch. Mae'r prif fferyllydd yn arwain gwaith gyda'r byrddau iechyd a'r prif fferyllwyr ym mhob un o'r byrddau iechyd gan fy mod yn cydnabod bod hyn yn her.
Wel, rwy'n falch o'ch clywed yn dweud hynny, ac wrth gwrs, roedd yr adolygiad seneddol yn argymell yn gryf—wel, roedd yn pwysleisio dau beth allweddol. Y cyntaf oedd ein bod yn awyddus i'r cyhoedd ddechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain ac i reoli eu hunain mewn ffordd fwy priodol, a'r ail beth oedd bod arnom eisiau i bobl fynd i'r ysbyty yn llai aml, a phan fyddant yno, i ddod oddi yno yn gynt o lawer, ac mae gennym sefyllfaoedd lle y gall pobl sydd â chyflyrau megis clefyd Parkinson fod yn aros yn yr ysbyty heb unrhyw fai arnynt hwy ond oherwydd nad yw'r trefniadau hynny'n clymu gyda'i gilydd.
Rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun yn ystod fy nghyfnod yn yr ysbyty y gall staff ysbytai gael eu claddu gan bob math o bwysau arall, ac felly, nid yw'r troli cyffuriau yn cyrraedd pen arall y coridor ac yn y blaen. Felly, hoffwn ofyn unwaith eto i chi archwilio hyn yn ofalus gan na allwn ddweud ar y naill law, 'Ysgwyddwch fwy o gyfrifoldeb'—. Mae rhai pobl wedi byw â chyflyrau megis clefyd Parkinson—ac fel y dywedwch, nid hwnnw yw'r unig un—ers blynyddoedd lawer, ac maent yn gwybod beth sydd ei angen arnynt ac maent yn gwybod pryd y bydd arnynt ei angen. Rwy'n deall, os byddwch yn yr ysbyty am rywbeth hollol wahanol, efallai y bydd gwrtharwyddion ac ati—mae'n rhaid bod yn ofalus iawn bob amser—ond credaf y gallwn ddibynnu ar y cyhoedd pan fyddant yn dioddef o rywbeth fel hyn, pan fyddant yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n addas ar eu cyfer hwy, oherwydd wrth gwrs, fel y gwyddoch, bydd pob unigolyn sydd â chyflwr fel clefyd Parkinson yn ymateb iddo mewn ffordd wahanol, bydd ganddynt setiau gwahanol o feddyginiaethau, ac yn sicr, bydd ganddynt amserlenni gwahanol. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ymrwymo i archwilio hyn yn ofalus iawn, fel y gallwn ddweud wrth bobl, 'Rydym yn gofyn i chi ysgwyddo cyfrifoldeb, ac rydym yn ymddiried ynoch'? Yn anad dim, mae'n ymwneud â'u cadw'n well yn yr ysbyty, fel y gallant fynd oddi yno, gobeithio, wedi gwella o beth bynnag a achosodd iddynt fynd yno.
Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt ynglŷn â phobl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gofal iechyd eu hunain, ond mewn gwirionedd, credaf fod y budd mwyaf y gellir ei gael o hynny yn ymwneud â sut y mae pobl yn cymryd eu meddyginiaeth yn y gymuned a sut rydym yn galluogi hynny i ddigwydd. Mewn lleoliad ysbyty, mae'n ymwneud â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn sicrhau bod hynny'n cael ei alluogi'n briodol. Ni fydd gan rai pobl eu meddyginiaethau eu hunain, yn aml caiff ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cyrraedd. Mae'n rhaid sicrhau bod eu meddyginiaeth yn cael ei ddarparu'n rheolaidd fel y gellir ei—
Ond nid yw hynny'n digwydd, a dyna fy mhwynt.
—fel y gellir ei gweinyddu, ac mae hynny'n her i ni. Mae a wnelo hefyd â sut rydym yn symud rhywfaint o'r gwaith.
Felly, rhan o'r her i ni yn y gwasanaeth fferylliaeth ysbyty yw nad oes angen i beth o'r gwaith ddigwydd yn y lleoliad hwnnw o reidrwydd, a bydd hynny'n rhoi mwy o amser iddynt wneud yr hyn y mae gwir angen iddynt ei wneud, yr hyn na all neb ond hwy ei wneud i gleifion mewn ysbytai. Felly, mae'r cysylltiad rhwng gwasanaeth fferylliaeth ysbyty a fferylliaeth gymunedol yn wirioneddol bwysig a chredaf fod mwy o fudd i'w gael os yw fferyllfeydd cymunedol yn ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn y dyfodol i'w gwneud yn haws i bobl fynd allan i gynorthwyo pobl i gyflawni eu trefniadau meddyginiaethol eu hunain yn llwyddiannus, yn ogystal â rhoi mwy o amser i'w cydweithwyr yn yr ysbytai wneud eu gwaith yn iawn, yn ychwanegol at staff eraill mewn system ysbyty.
Diolch. Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rydym eisoes wedi trafod achos fy etholwr, Paul Davies, y Paralympiad a oedd yn wynebu'r posibilrwydd o fethu Tokyo 2020 oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Weinidog, gyda'ch cymorth chi, rwy'n falch o ddweud bellach fod gan Paul Davies y gefnogaeth sydd ei hangen arno er mwyn hyfforddi ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddymuno pob lwc i Paul Davies gyda'i ymdrechion a gobeithio y gall ddod â medal aur yn ôl i Gymru?
Yn sicr. A chredaf y byddai pawb yma yn ymuno â chi, Caroline, i ddymuno pob lwc i Paul. Mewn rhai ffyrdd, gallaf ddweud ei fod yn fachgen lleol, yn ddyn lleol, yn fy ardal i, fymryn y tu allan i fy etholaeth. Ond rydym wrth ein bodd fod yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wedi dod ynghyd, i raddau helaeth, mae'n rhaid imi ddweud, ar sail y syniad a grybwyllir gennym yn rheolaidd yma yn y Cynulliad—gan Ysgrifennydd y Cabinet a minnau—y dylid canolbwyntio ar ganlyniadau i'r unigolyn, nid ar ofal yn unig, ond ar fyw'n annibynnol. Ac mae byw'n annibynnol yn cynnwys y gallu i ymgymryd â gweithgareddau a hobïau a diddordebau—mae'n ymwneud â mwy na gofal yn unig. Ond rwy'n falch, drwy dynnu sylw at y mater, Caroline, eich bod chi ac eraill wedi sicrhau—credaf eich bod yn gorbwysleisio fy rôl yn hyn o beth, mae'n rhaid imi ddweud, ond rwyf wrth fy modd eu bod, ar lawr gwlad, yn lleol, wedi llwyddo i sicrhau ateb a fydd yn galluogi iddo fynd ati i gystadlu. Deallaf gan fy swyddogion eu bod bellach wedi gallu penodi dau gynorthwyydd personol, a fydd yn golygu y gall ddilyn ei freuddwydion a'i ddyheadau, ac mae pob un ohonom yn gobeithio hefyd y gall eu gwireddu.
Yn sicr. Diolch, Weinidog. Llwyddasom i sicrhau canlyniad boddhaol iawn yn achos Paul. Ond beth am y rheini nad oes ganddynt eu Haelod Cynulliad i ymladd drostynt? Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob unigolyn anabl yng Nghymru yn gallu cyflawni eu huchelgeisiau, eu breuddwydion, heb gael eu rhwystro gan eu hanabledd?
Yn hollol. A Caroline, os caf ailadrodd fy sylwadau cynharach, sef bod y fframwaith statudol yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn a geir dros y ffin yn Lloegr; mae'n seiliedig i raddau helaeth—gyda chefnogaeth yr Aelodau yma, a sicrhaodd fod y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio—ar ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle dylai'r unigolyn hwnnw benderfynu ar y cyd ar eu pecyn cymorth ar gyfer byw'n annibynnol. Ni ddylid gwneud hyn ar eu cyfer, ond yn hytrach gyda hwy. Dylai fod yn seiliedig ar y canlyniadau i'r unigolyn er mwyn gwella ansawdd eu bywyd a'u gallu—fel y mae pob un ohonom yn ei gymryd yn ganiataol—i wneud yr hyn a fynnwn ac i gymdeithasu ac i fod yn rhan o'r gymdeithas ehangach. Hefyd, ceir hawl statudol i eiriolaeth, wrth gwrs, naill ai eiriolaeth anffurfiol, neu yn niffyg hynny, eiriolaeth fwy ffurfiol, ac yn y blaen. Credaf mai'r her a wynebir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ac eraill yw'r cyfyngiadau ariannol y maent yn gweithredu ynddynt. Ond ni ddylai hynny eu hatal rhag canolbwyntio ar y dull hwnnw o weithio gyda'r unigolyn, gyda'u hanghenion, er mwyn pennu'r ffordd orau o gefnogi byw'n annibynnol ac ansawdd bywyd y mae pob un ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, a dylent hwythau allu ei gymryd yn ganiataol hefyd.
Diolch eto am eich ateb, Weinidog. Mae Paralympiaid y dyfodol yn dibynnu ar eu gofalwyr—rhai cyflogedig a di-dâl—i'w cefnogi wrth iddynt hwy ganolbwyntio ar ennill y medalau. Ond pwy sy'n cefnogi'r gofalwyr? Weinidog, yn anffodus, gwyddom nad yw dwy ran o dair o ofalwyr di-dâl wedi cael cynnig neu wedi gwneud cais am asesiad o anghenion, ac mae tri chwarter y gofalwyr hynny yn dweud nad ydynt yn cael unrhyw gymorth gan eu meddygon teulu. Felly, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod anghenion gofalwyr yn cael eu hasesu? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn. Efallai yr hoffai fy nghyd-Aelodau wybod bod ein bod wedi cynnull cyfarfod ffurfiol cyntaf grŵp cynghori’r Gweinidog ar ofalwyr heddiw. Cyfarfûm â hwy yng nghanol Caerdydd. Mae'r holl randdeiliaid perthnasol yno, o amrywiaeth eang o sefydliadau. Ac mewn ffordd debyg i'r gwaith a wneir gan ein cyd-Aelod yma, David Melding, ar y grŵp gweithredu gweinidogol dros blant sy'n derbyn gofal, sydd wedi darparu canlyniadau a ffrydiau gwaith mor dda sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, rydym yn obeithiol iawn y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn gwneud yr un peth. Fe'i cefnogir hefyd gan grŵp ategol, gyda'r bwriad o gynrychioli llais ehangach gofalwyr. Ni allwn ffitio pawb o gwmpas y bwrdd hwnnw, ond mae gennym ddarparwyr statudol, mae gennym sefydliadau gofalwyr, sefydliadau pobl hŷn, sefydliadau pobl iau. Ni all pob un ohonynt ffitio o gwmpas y bwrdd—mae'n grŵp sy'n meddu ar ffocws a thargedau pendant iawn—ond y tu hwnt i hynny, ceir grŵp ategol sydd hefyd yn rhoi llais i'r bobl sydd am gael eu clywed fel gofalwyr yn rhan ohono hefyd—. A bydd yn canolbwyntio ar faterion megis sut rydym yn eu cefnogi—sut rydym yn cefnogi gofalwyr â bywyd y tu hwnt i ofalu, fel nad ydynt yn cael eu diffinio fel gofalwyr a dim arall, gan fod llawer o ofalwyr yn awyddus i weithio, i gymryd rhan ehangach yn y gymdeithas ac ati. Mae hyn yn seiliedig ar sut rydym yn nodi gofalwyr a'r gwaith a wnawn gyda meddygfeydd meddygon teulu, gyda fferyllfeydd, mewn ysgolion gyda'r pecyn cymorth i ysgolion, ac mae hefyd yn canolbwyntio ar y cymorth ychwanegol, gan gynnwys cymorth seibiant hyblyg, y gallwn ei roi i ofalwyr yn y dyfodol. Mae hon yn daith rydym arni, nid cynnyrch terfynol, oherwydd mae'n rhaid inni barhau i wella'r canlyniadau. Ond o ran y gwerth o £8.1 biliwn sydd i ofalwyr—y fyddin enfawr o ofalwyr sydd ar gael—nid yw'n ymwneud yn unig â'u gwerth ariannol, ond caiff ei fesur hefyd mewn tosturi a thrwy'r cariad a roddant, a gobeithio y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar hyn yn rhoi'r cyfeiriad teithio sydd ei angen arnom yn y Llywodraeth ac yma yn y Cynulliad ar gyfer gwella bywydau gofalwyr.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm y bore yma gyda grŵp a fynegodd bryder ynglŷn ag oesoffagws Barrett, sef cyflwr a all arwain at ganser os nad yw'n cael ei drin. Ond mae modd defnyddio triniaeth o'r enw abladiad radio-amledd i drin y cyflwr cyn iddo arwain at ganser. Mewn gwirionedd, fe'i profwyd yn glinigol ac mae manteision y driniaeth o ran cost yn glir iawn. Ond nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael yng Nghymru, felly mae'n rhaid i gleifion fynd i Loegr. Nawr, mae costau darparu triniaeth yn Lloegr, a delir gan y GIG yng Nghymru, wedi cynyddu'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf—cynnydd o tua 150 y cant. Felly, mae diffyg mynediad at y dechnoleg hon yng Nghymru yn costio mwy a mwy i'r GIG yma. A allwch ddweud wrthyf beth yw'r rhwystr sy'n atal y gwasanaeth hwnnw rhag cael ei ddarparu yng Nghymru? Ac a allwch roi gwybod i mi a'r Cynulliad am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ddarparu triniaeth abladiad radio-amledd yng Nghymru cyn gynted â phosibl?
Gallaf, rwy'n falch o ymateb i hyn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi cael gohebiaeth uniongyrchol gan un o fy etholwyr ar y mater hwn, a chan grŵp buddiant ehangach, a thrwy gyd-ddigwyddiad, ddydd Sadwrn, ym Margam, cefais y pleser o gyfarfod â phobl o Gymdeithas Gastroenteroleg Bangladesh. Cyfarfûm hefyd â llywydd Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain, a ddywedodd ei fod yn bwriadu ysgrifennu ataf ynglŷn â'r mater penodol hwn cyn bo hir. Oherwydd rwy'n cydnabod bod triniaeth a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gael a'n bod yn ei chomisiynu dros y ffin ar hyn o bryd, yn enwedig yn ne Cymru. Credwn bellach y gallem ac y dylem allu darparu'r gwasanaeth yma yng Nghymru. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn arwain y gwaith ar hynny er mwyn darparu'r gwasanaeth hwnnw. Rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y dyfodol ynglŷn â lle y gall fod yn fwy eglur ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer gwneud hynny, ond rwy'n disgwyl y gall y driniaeth honno fod ar gael yn briodol, fel yr awgryma'r dystiolaeth, ac i sicrhau ei bod ar gael yma yng Nghymru, yn hytrach na pharhau i orfod comisiynu gwasanaeth dros y ffin.
Ydy, mae hynny'n gadarnhaol. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gan droi at fater arall sy'n ymwneud ag arafwch y broses o gyflwyno technolegau newydd, sef y defnydd o MRI amlbarametrig i wneud diagnosis o ganser y prostad, fe fyddwch yn gwybod—yn gwybod yn iawn—mai'r consensws clinigol yw bod hyn yn newid go iawn yn y broses o wneud diagnosis o ganser y prostad. Ond dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn unig sy'n darparu mpMRI o safon ddigon uchel i osgoi'r angen am fiopsi. Y canlyniad yw bod llawer o ddynion wedi dewis—wedi cael eu gorfodi, i bob pwrpas—i dalu £900 a mwy am sganiau mpMRI preifat.
Nawr, pan ofynnwyd i chi am hyn o'r blaen, fe ddywedoch eich bod yn aros am y canllawiau diweddaraf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac ar yr un pryd, mae Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno hyn ar sail gyffredinol. Nawr, mewn achosion lle rwy'n amau eich bod yn gwybod, a dweud y gwir, mai casgliad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fydd argymell bwrw ymlaen â hyn, a lle mae gwasanaethau eraill y GIG yn y DU yn defnyddio technolegau newydd—pam eich bod yn fodlon i gleifion yng Nghymru aros tan y dyfarniad ac i aros wedyn iddo gael ei weithredu?
Wel, nid wyf yn cytuno â'i grynodeb o'r sefyllfa. Yn benodol, y cyngor clir iawn rwyf wedi'i gael yw nad yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn gyson yn Lloegr. Nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa yn yr Alban, ond nid yw ar gael ym mhob rhan o'r GIG yn Lloegr, ac nid oes gennym gonsensws clinigol eto. Dywed nifer o gefnogwyr ei fod yn newid sylweddol; nid dyna yw safbwynt y consensws clinigol eto. Gall hynny ddod naill ai yn sgil arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu gallai ddod gan fwrdd wroleg Cymru, sy'n archwilio'r mater ar hyn o bryd. Pe bai bwrdd wroleg Cymru yn rhoi cyngor inni, byddai hynny wedyn yn pwyso ar y sail dros gonsensws clinigol a gallem gael gwasanaeth sy'n cael ei gynllunio a'i ddarparu ledled y wlad, yn hytrach na'r cynlluniau braenaru sydd ar waith ar hyn o bryd mewn dau o'r byrddau iechyd, sydd, wrth gwrs, yn ychwanegu at ein sylfaen dystiolaeth. Felly, hoffwn weld y mater yn cael ei ddatrys fel y gallwn ddeall a oes consensws clinigol. Yna, fel rwyf wedi'i ddweud ar sawl achlysur, os bydd y dystiolaeth a'r cyngor yn newid, buaswn yn disgwyl i'n system gofal iechyd weithredu yn unol â'r dystiolaeth a'r cyngor gorau sydd ar gael i ni.
Mae'r holl dystiolaeth rwyf wedi'i gweld yn awgrymu ein bod eisoes yn gwybod yr hyn sydd angen inni wybod—fod hon yn driniaeth a allai achub bywydau.
Nawr, roedd yr adolygiad seneddol diweddar yn pwysleisio'r rôl y gall technolegau newydd ei chwarae wrth ddarparu triniaeth yn nes at adref, gyda'r pwyslais ar iechyd ataliol drwy ddiagnosis cynharach. Mae'r ddwy enghraifft a roddais heddiw yn achosion lle y dylai ein GIG, yn fy marn i, fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth fabwysiadu technoleg newydd i gyflawni'r dibenion hyn. Bydd aros am y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a'u llwyth gwaith enfawr sy'n golygu nad oes modd iddynt ddal i fyny â phopeth, yn dod yn fwy o broblem dros amser. Felly, a wnewch chi ystyried ailasesu ymagwedd eich Llywodraeth tuag at gyflwyno technoleg cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gall triniaethau yng Nghymru barhau neu fod ar flaen y gad, a bod cleifion yng Nghymru yn cael y driniaeth orau sy'n bosibl?
Mae gennym Technoleg Iechyd Cymru er mwyn gwneud yn union hynny, Ddirprwy Lywydd, yn yr un modd ag y mae gennym Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i'n caniatáu i gael mynediad cyflymach at y broses o arfarnu meddyginiaethau newydd hefyd. Felly, mae gennym broses ar gael inni mewn perthynas â thechnoleg newydd, yn hytrach na meddyginiaethau newydd. A chyda phob parch, gallai bwrdd wroleg Cymru sicrhau consensws clinigol ar yr mpMRI yn awr pe baent yn darparu'r cyngor hwnnw i ni. Pe baent yn darparu'r consensws clinigol hwnnw, byddai gennym le gwahanol i weithredu.
Mae'n iawn i wleidyddion gael eu perswadio ynglŷn â'r hyn y credant sy'n iawn, ond mewn gwirionedd, credaf fod arnom angen consensws clinigol priodol ar y ffordd ymlaen er mwyn cynnal y gwasanaeth cyhoeddus sylweddol hwn. Mae gennym ffordd o wneud hynny eisoes, ond mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn gweld a allwn wella'r ffordd rydym yn gwneud y dewisiadau hynny, gan mai rhan o fy rhwystredigaeth reolaidd—ac fe'i hategir gan yr adolygiad seneddol a'r cynllun sydd gennym—yw bod y broses o newid y ffordd y mae ein system gofal iechyd yn cyflawni ac yn gwella yn rhy araf o lawer. Felly, dyna pam mai'r nod deublyg yw sicrhau cyflymder a maint y newid a'r trawsnewid y mae pob un ohonom yn cydnabod sydd ei angen.