Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 27 Mehefin 2018.
Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt ynglŷn â phobl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gofal iechyd eu hunain, ond mewn gwirionedd, credaf fod y budd mwyaf y gellir ei gael o hynny yn ymwneud â sut y mae pobl yn cymryd eu meddyginiaeth yn y gymuned a sut rydym yn galluogi hynny i ddigwydd. Mewn lleoliad ysbyty, mae'n ymwneud â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn sicrhau bod hynny'n cael ei alluogi'n briodol. Ni fydd gan rai pobl eu meddyginiaethau eu hunain, yn aml caiff ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cyrraedd. Mae'n rhaid sicrhau bod eu meddyginiaeth yn cael ei ddarparu'n rheolaidd fel y gellir ei—