Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 27 Mehefin 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar ysmygu wedi cynorthwyo i leihau ysmygu, ond ysmygu yw prif achos salwch difrifol a marwolaethau cynnar y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd, ac mae'n gyfrifol, yn ôl Gweithredu ar Smygu ac Iechyd, am oddeutu 5,500 o farwolaethau bob blwyddyn, ac ni fydd targed Llywodraeth Cymru o leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020 yn cael ei gyflawni ar sail y rhagolygon presennol. Croesawaf ddarpariaethau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i alluogi cyfyngiadau pellach, fel y sonioch, yn ogystal â'r gallu a roddir gan y ddeddfwriaeth honno i ddynodi lleoedd ychwanegol yn fannau di-fwg, a chredaf y gallai hynny, er enghraifft, gynnwys ardaloedd awyr agored mewn caffis a bwytai, a chanol trefi a dinasoedd. A ydych yn cytuno y bydd ymestyn cyfyngiadau yn y ffordd honno yn amddiffyn ein pobl yn well rhag ysmygu goddefol, yn helpu i ddadnormaleiddio ysmygu ac yn annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi?