Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 27 Mehefin 2018.
Mae'r holl dystiolaeth rwyf wedi'i gweld yn awgrymu ein bod eisoes yn gwybod yr hyn sydd angen inni wybod—fod hon yn driniaeth a allai achub bywydau.
Nawr, roedd yr adolygiad seneddol diweddar yn pwysleisio'r rôl y gall technolegau newydd ei chwarae wrth ddarparu triniaeth yn nes at adref, gyda'r pwyslais ar iechyd ataliol drwy ddiagnosis cynharach. Mae'r ddwy enghraifft a roddais heddiw yn achosion lle y dylai ein GIG, yn fy marn i, fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth fabwysiadu technoleg newydd i gyflawni'r dibenion hyn. Bydd aros am y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a'u llwyth gwaith enfawr sy'n golygu nad oes modd iddynt ddal i fyny â phopeth, yn dod yn fwy o broblem dros amser. Felly, a wnewch chi ystyried ailasesu ymagwedd eich Llywodraeth tuag at gyflwyno technoleg cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gall triniaethau yng Nghymru barhau neu fod ar flaen y gad, a bod cleifion yng Nghymru yn cael y driniaeth orau sy'n bosibl?