Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 27 Mehefin 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm y bore yma gyda grŵp a fynegodd bryder ynglŷn ag oesoffagws Barrett, sef cyflwr a all arwain at ganser os nad yw'n cael ei drin. Ond mae modd defnyddio triniaeth o'r enw abladiad radio-amledd i drin y cyflwr cyn iddo arwain at ganser. Mewn gwirionedd, fe'i profwyd yn glinigol ac mae manteision y driniaeth o ran cost yn glir iawn. Ond nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael yng Nghymru, felly mae'n rhaid i gleifion fynd i Loegr. Nawr, mae costau darparu triniaeth yn Lloegr, a delir gan y GIG yng Nghymru, wedi cynyddu'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf—cynnydd o tua 150 y cant. Felly, mae diffyg mynediad at y dechnoleg hon yng Nghymru yn costio mwy a mwy i'r GIG yma. A allwch ddweud wrthyf beth yw'r rhwystr sy'n atal y gwasanaeth hwnnw rhag cael ei ddarparu yng Nghymru? Ac a allwch roi gwybod i mi a'r Cynulliad am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ddarparu triniaeth abladiad radio-amledd yng Nghymru cyn gynted â phosibl?